Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 24 Medi 1896, Trefriw, Caernarfon, mab Henry Jones, gweinidog (A) a'i wraig Margaret (Madgie), merch William Jones, gweinidog (MC) Trawsfynydd. Addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst (1908) ac aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1914 a Choleg Bala-Bangor 1914-16. Graddiodd yn y Gymraeg a Hebraeg yn 1917. Ordeiniwyd ef yn weinidog y Tabernacl (A), Betws-y-coed yr un flwyddyn ond dychwelodd i'r coleg i barhau ei astudiaethau yn ystod 1919-20 ac eto yn 1923-24 eithr heb gymryd gradd uwch. Bu'n weinidog ar eglwysi Saesneg (A) Rednol a West Felton, Swydd Amwythig (1920) a Llanfair Caereinion (A). Ymddiswyddodd yn 1937 a symud i Dremadog (i hen gartref ei daid, y Parch. William Jones) a chymryd gofal eglwys Bethel (MC) am gyfnod er na fu'n fugail swyddogol arni. Bu'n cynorthwyo beth yn y gangen leol o Lyfrgell y Sir yn ogystal. Fel bardd y daeth i amlygrwydd, a hynny yn nyddiau coleg. Ymddangosodd un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, baled ' Y llanc ifanc o Lŷn ', yn A book of Bangor verse (1924). Yr oedd yn gyfeillgar â llenorion amlwg megis Robert Williams Parry a J.T. Jones, Porthmadog, a bu'n fuddugol droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi a thelynegion swynol a chymen, Adar Rhiannon (1947), a Sonedau a thelynegion (1950). Priododd Jane Gertrude (Jennie) Williams, Coed-poeth, yn 1924; bu farw yn ei gartref, 14 Church St., Tremadog, 18 Ionawr 1961 a'i gladdu ym mynwent Bethel.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.