Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

OWEN, JOHN DYFNALLT (1873 - 1956), gweinidog (A), bardd, llenor, newyddiadurwr ac Archdderwydd Cymru

Enw: John Dyfnallt Owen
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1956
Priod: Annie Owen (née Hopkin)
Rhiant: Angharad Owen
Rhiant: Daniel Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A), bardd, llenor, newyddiadurwr ac Archdderwydd Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Geraint Elfyn Jones

Ganwyd 7 Ebrill 1873 yng Nghoedffalde, Llan-giwg, Morgannwg, ar odre'r Mynydd Du, yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam ac yntau'n flwydd oed a magwyd ef gan rieni'i dad. Cafodd ysgol yng Nghwmllynfell ac ar ôl cyfnod byr yn y lofa aeth i Academi Parcyfelfed (Ysgol yr Hen Goleg), Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Bu'n gyfaill mynwesol i Ben Bowen a beirdd ifainc eraill ei ddydd. Parhaodd y diddordeb mewn eisteddfota drwy ei weinidogaeth yn Nhrawsfynydd (1898-1902) lle bu'n ddylanwad ar Ellis Humphrey Evans (‘Hedd Wyn’); a Deiniolen (1902-05) lle daeth i adnabod Thomas Gwynn Jones a William John Gruffydd. Aeth wedyn yn weinidog i Sardis, Pontypridd (1905-10) a thra oedd yno enillodd goron eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1907 ar ‘Y greal sanctaidd’, wedi dod yn agos iawn yn y Rhyl yn 1904. Priododd, 10 Awst 1904, ag Annie Hopkin o Ystalyfera a bu iddynt ddau o blant. Yn 1908 daeth Dyfnallt yn aelod o'r Gyngres Geltaidd a bu ganddo ddiddordeb yn y gwledydd Celtaidd weddill ei oes. Yn 1910 derbyniodd alwad i Heol Awst, Caerfyrddin lle treuliodd weddill ei weinidogaeth. Yn 1916 aeth yn gaplan yr Y.M.C.A. i Béthune yn Ffrainc a chyhoeddodd lyfryn o gerddi a myfyrdodau unigryw ar ei brofiad sef Myfyrion a chaneuon maes y tân. Ysbeidiol ydoedd ei farddoni wedi hyn er iddo gyhoeddi casgliad o gerddi, Y greal a cherddi eraill (1946). Troes ei sylw at lenydda ac olrhain hanes achosion yr Annibynwyr. Stephen Hughes (1912), ‘Tomos Glyn Cothi’ (Y Dysgedydd, 1933) a'r Tri Brawd o Lanbrynmair (Adroddiad Undeb yr Annibynwyr, 1928) oedd rhai o'i arwyr, ac ysgrifennodd amdanynt nid yn gymaint i groniclo ffeithiau ag i ysbrydoli oes newydd. Penodwyd ef yn olygydd Y Tyst yn 1927, swydd yr ymhyfrydai ynddi fel cyfrwng i fynegi ei ddaliadau am heddychiaeth, gwrthimperialaeth, cenedlaetholdeb a Christnogaeth. Yn 1953 dathlwyd ei chwarter canrif fel golygydd â detholiad o'i ysgrifau yn Ar y tŵr, teitl a oedd yn cyfleu'r golygydd fel gwyliwr Eseia yn gwarchod y ddinas rhag y gelyn. Felly y gwelai ef ei hun. Teithiai'n helaeth i Wlad Pwyl, yr Eidal, y Swisdir, Bafaria a Llydaw. Cyhoeddodd lyfr ar ei daith i Lydaw, O ben tir Llydaw (1934), dwy gyfrol o ysgrifau ac erthyglau, Min yr hwyr (1934) a Rhamant a rhyddid (1952), yn ogystal â nifer helaeth o gyfraniadau i'r wasg enwadol a'r Bywgraffiadur Cymreig. Pan dorrodd Rhyfel Byd II allan yr oedd yn Danzig, a chyhoeddodd erthyglau megis ‘Wythnos yn Danzig’, ‘Arswyd y Gestapo’ a ‘Hitleriaeth gartref’. Wedi'r rhyfel rhoddodd nawdd yn ei gartref yng Nghaerfyrddin i Roparz Hemon y llenor Llydewig a ddiangasai cyn ei brawf yn Llydaw. Gwnaethpwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1936 a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1953. Etholwyd ef yn Archdderwydd Cymru yn 1954 yn y Rhyl. Yr oedd bellach yn bedwar ugain mlwydd oed ac yn mwynhau ei ymddeoliad yn Aberystwyth er 1947. Bu farw 28 Rhagfyr 1956, a gwasgarwyd ei lwch ar y Mynydd Du. Nid oedd dim gweniaith yng ngeiriau'r deyrnged iddo yn Y Cymro — ‘un o'r anwylaf o'r Cymry’.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau