Ganwyd 2 Mawrth 1912 yn Arwenfa, Afon-wen, Caernarfon, yn fab i Edward a Catherine Roberts. Derbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd Chwilog, ysgol ramadeg Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn B.A. mewn Hebraeg (anrhydedd dosbarth II), 1934, ac M.A. 1936. Bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn astudiaethau Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, 1935-36. Aeth i goleg diwinyddol Lichfield, 1936-37. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 1937, a'i drwyddedu'n gurad yn y Rhyl yn esgobaeth Llanelwy lle bu hyd 1941. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, 1938. Bu'n gurad-mewn-gofal plwyf Llanefydd, 1941-45, rheithor Nantglyn, 1945-48. Symudodd i esgobaeth Bangor yn rheithor Mellteyrn, Botwnnog a Bryncroes, 1948-51; ficer Blaenau Ffestiniog, 1951-56; ficer Conwy a'r Gyffin, 1956.
Cychwynnodd ei yrfa fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda'r MC, a throes at yr eglwys yn ystod dyddiau coleg. Yr oedd eisioes yn fardd telynegol, ac yn ôl un o'r beirniaid yn haeddu'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog, 1945, am ei bryddest ' Coed Celyddon '. Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1947 am ei bryddest 'Glyn y Groes', a daeth ei awdl goffa i R. Williams Parry yn uchel yng nghystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1962. Bu yntau'n beirniadu yng nghystadleuaeth y bryddest fwy nag unwaith. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Llwyfannwyd ei ddetholiad o farddoniaeth, ' Y Siaced fraith ', yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1957. Yn 1963 ef oedd cadeirydd pwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, a lluniodd 'Y Llinyn arian', rhaglen yn portreadu Dyffryn Conwy, a berfformiwyd yn yr eisteddfod honno. Ysgrifennodd ddrama-basiant, 'Deiniol Sant', 1959, i'w pherfformio yn eglwys gadeiriol Bangor. Yn eglwys Conwy y llwyfannwyd ei ddrama ' Goleuni y Byd '; gyntaf, ac fe'i hail-berfformiwyd yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor. Ym Mehefin 1967 lluniodd wasanaeth dathlu 400 mlwyddiant y Testament Newydd Cymraeg yn y Gyffin, lle ganed yr esgob Richard Davies.
Pan benderfynodd Esgob Bangor (John Charles Jones) arwain pererindod esgobaethol i Enlli yn 1952, gofynnodd i G.J. Roberts drefnu'r daith a llunio cyflwyniad hanesyddol iddi. Yr oedd ymhlith yr ychydig a hwyliodd drosodd i Enlli rai dyddiau'n ddiweddarach. 'Enlli'r pererinion' oedd testun ei bryddest radio. Daeth ei lais yn adnabyddus trwy Gymru pan ddechreuodd ddarlledu 'n gyson yn y rhaglen ' Wedi'r Oedfa ” ar nosweithiau Sul. Ysgrifennodd nifer o raglenni nodwedd i'r radio, e.e. ' Edmwnd Prys ', ' Yr Esgob William Morgan ', ' Ieuan Glan Geirionydd '; etc. Bardd telynegol ydoedd yn canu yn y traddodiad Cristionogol. Cyhoeddodd Wrth y Tân (1944); Coed Celyddon (1945); Gwasanaethau'r plant (cyf.), (1953); Hanes y Beibl (1954); Cerddi (1954); Yr esgob William Morgan (1955); Llyfr y Siaced Fraith (1957); Seintiau Cymru (gydag E.P. Roberts), (1957); Ymddiddanion llafar (1961); Sgyrsiau Wedi'r Oedfa (1966); Awdl Goffa R. Williams Parry (1967); Ysgrifau (1968); Cofnodion (1970).
Priododd yn 1942 â Margaret Morris, merch Owen Morris ac Elisabeth Williams, Morfa Nefyn, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 13 Chwefror 1969 a'i gladdu ym mynwent Abergwyngregin ar lan y Fenai, yn ôl ei ddymuniad.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.