Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

YORKE, SIMON (1903 - 1966)

Enw: Simon Yorke
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1966
Rhiant: Louisa Matilda Yorke (née Scott)
Rhiant: Philip Yorke
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Milwrol
Awdur: John Gwilym Jones

y pumed o'r enw hwn o ddisgynyddion Simon Yorke (1606 - 1682), groser cyfanwerthol o Dover, a oedd yn daid i Iarll Hardwicke; ganwyd 24 Mehefin 1903 yn fab hynaf i Philip Yorke (1849 - 1922), Erddig, Sir Ddinbych, a'i ail wraig Louisa Matilda (ganwyd Scott). Cafodd ei addysg ym Moorland House, Heswall; Coleg Cheltenham; a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Graddiodd yn B.A. mewn coedwigaeth yn 1927. Etifeddodd Erddig ger Wrecsam yn 1922. Bu'n Uchel Siryf sir Ddinbych yn 1937. Er iddo fod yn lifftenant yn y Denbighshire Yeomanry, pan ddaeth Rhyfel Byd II ymunodd fel milwr cyffredin yn y North Staffordshire Regiment. Yn unol â'i ddymuniad arhosodd fel sapper, heb geisio na chael dyrchafiad.

Nid oedd ei berthynas â'i denantiaid yn hapus. Gwrthodai iddynt gael trydan na theliffon yn eu ffermydd. Er nad ydoedd yn heliwr, dilynai'r cwn hela ar gefn beic a gwyddai bob amser ymhle yr oedd y llwynog. Cafwyd ef yn farw o fethiant y galon ym Mharc Erddig, 7 Mai 1966, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Marchwiel. Nid oedd yn briod a bu farw yn ddiewyllys. Etifeddwyd Erddig gan ei frawd Philip Scott Yorke (1905 - 1976).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.