Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 19 Ebrill 1901 ym Mhenmachno, Sir Gaernarfon yn fab i Elis Ll. Williams (teiliwr) a'i wraig (a gadwai siop). Addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst 1912-16, ac wedi cyfnod yn athro ar brawf ac yn athro cynorthwyol ym Mhenmachno a Phenmaenrhos aeth i'r Coleg Normal ym Mangor, 1919-21. Priododd Kate Ellen 'Cadi' ym Medi 1922. Bu'n athro mewn nifer o ysgolion, ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog, Llanfrothen (prifathro), yr Ysgol Ganol Blaenau Ffestiniog 1926-47 (gan wasanaethu yn y fyddin 1940-46), Glan-y-pwll, Blaenau Ffestiniog (prifathro). Ymddeolodd yn 1961 i Lanbedr, Meirionnydd, ac yna i'r Gaerwen, Môn yn 1970. Dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1962 a dyfarnwyd MBE iddo yr un flwyddyn.
Yr oedd yn awdur toreithiog mewn mwy nag un cyfrwng - yr ysgrif a'r stori fer (gan gyfrannu'n gyson i bapurau newydd a chyfnodolion amrywiol), y nofel, drama lwyfan a radio, ffilm, llenyddiaeth blant, bywgraffiad, beirniadaeth lenyddol a barddoniaeth. Lluniodd ei ysgrif olaf 1 Ionawr 1975 gan ddisgwyl y byddai'n ymddangos yn yr un rhifyn o 'Herald Mon' a'i farwgoffa, yr hyn a ddigwyddodd. Dechreuodd ysgrifennu dramâu tua 1918 a bu'n fuddugol droeon yn yr eisteddfod genedlaethol, ond yn ôl ei dystiolaeth ei hun gweld gwendidau crefft un o'i ddramâu ei hun mewn cynhyrchiad a'i cymhellodd i sefydlu ei gwmni drama ei hun fel y gellid diwygio ei ddramâu cyn eu cyhoeddi. Cyhoeddai ddrama bron yn flynyddol trwy gydol y 1920au a'r 1930au gan sicrhau fod digon o ddeunydd profedig a safonol ar gyfer y cannoedd o gwmnïau drama amatur a ffynnai yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn Rhyfel Byd II. Fel dramodydd, cyhoeddwr, cynhyrchydd, athro a beirniad yr oedd yn chwarae rhan allweddol yn y mudiad drama. Ei barodrwydd i achub cyfle i roi cynnig ar gyfryngau newydd a'i harweiniodd i gydweithio â Syr Ifan ab Owen Edwards i lunio a chynhyrchu yn 1935 y ffilm sain gyntaf yn y Gymraeg, 'Y Chwarelwr', ac i fod yn arloeswr ym myd y ddrama radio Gymraeg.
Yr oedd yn sylwedydd craff ar fywyd fel y gwelir yn ei gomedïau cymdeithasol ac yn arbennig yn ei ddawn fel bardd dychanol. Yr oedd yn nofelydd poblogaidd a lluniodd, ymhlith llyfrau eraill, ddwy gyfres o nofelau datgelu - cyfres Hopkyn (5 teitl, 1958-61) a chyfres Parri (5 teitl 1965-67) yn ôl y ditectif o arwr. Gwaith oriau hamdden oedd cynnyrch J. Ellis Williams ond nodweddir ei holl waith gan ymagwedd broffesiynol yn ei ofal wrth baratoi a chynllunio, ei barch at ddillynder crefft a'i allu i apelio at gynulleidfa eang heb ostwng ei safonau uchel ei hun.
Ymhlith ei brif weithiau ceir dramâu: Y Pwyllgorddyn, Wedi'r drin, Yr erodrôm, Awel gref (addasiad o Wind of heaven Emlyn Williams), ynghyd â chyfaddasiadai o rai o dramâu E. Einon Evans; 'Sglodion (1932), Whilmentan (1961), Dychangerddi (1967), Tri dramodydd cyfoes (1961), a hunangofiant, Inc yn fy ngwaed (1963). Ceir llyfryddiaeth o'i weithiau yn y gyfrol deyrnged a olygwyd gan Meredydd Evans, Gwr wrth grefft (1974). Mae'r ddau lyfr yn cynnwys ffotograffau o J.Ellis Williams.
Bu farw J. Ellis Williams yn ysbyty Dewi Sant Bangor 7 Ionawr 1975 ac amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Bangor. Gadawodd weddw ('Cadi') a dwy ferch.
Y mae casgliad o'i bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.