Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 12 Awst 1905 yn 9 Alma Terrace, Taibach, Port Talbot, yn fab i William Heycock, labrwr yn nociau Port Talbot, a'i wraig Mary Elizabeth (née Treharne). Ymfudodd ei hynafiaid yn niwedd y ddeunawfed ganrif o swydd Gaerwrangon a bu pedair cenhedlaeth o'r teulu yn lowyr ym maes glo Margam. Cyfrannodd nifer ohonynt i ddatblygiad y Mudiad Llafur yn Aberafan a'r cyffiniau. Gan mai Llewellyn Heycock oedd yr hynaf o chwech o fechgyn bu'n rhaid iddo adael Ysgol Eastern yn 14 mlwydd oed er mwyn helpu'r teulu yn ariannol. Cafodd waith oherwydd cysylltiadau ei ewythr Edward Heycock (marw 1938), un o arloeswyr y Blaid Lafur ym Mhort Talbot, yn Dyffryn Yard Loco Shed fel glanhawr trenau, ac yna yn danwr gyda'r GWR cyn llwyddo fel gyrrwr trenau o dde Cymru i orsaf Paddington, Llundain. Bu'n gyflogedig ar y rheilffyrdd hyd ei ymddeoliad yn 1973.
Manteisiodd yn ei oriau hamdden prin ar ddiwylliant y capel, gweithgarwch ei undeb (yr NUR), dosbarthiadau'r National Council of Labour Colleges a dosbarthiadau'r ysgol Sul. Dylanwadwyd arno gan arloeswyr y mudiad Llafur yn Nhaibach, yn eu plith Henry Davies (a fu farw yn 1927 ac y codwyd swyddfeydd Grŵp Llafur Taibach yn neuadd goffa er cof amdano), Taliesin Mainwaring, Rees Llewellyn a Robert (Bob) Williams, ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Aberafan yn Etholiad 'Khaki' 1918. Daeth o dan gyfaredd Ramsay MacDonald oherwydd ei huodledd fel areithydd sosialaidd, a bu dathlu mawr pan enillodd ef sedd Aberafan i Lafur oddi wrth y Rhyddfrydwyr yn Nhachwedd 1922. Fel eraill o selogion y Blaid Lafur, dadrithiwyd ef maes o law yn ei eilun.
Cymerodd Llewellyn Heycock ran amlwg yn Streic Gyffredinol 1926, yn gwerthu papurau'r chwith, yn osgoi'r heddlu ac yn cael ei ddenu i blith cangen leol y Comiwnyddion. Ond byr fu'r garwriaeth gan iddo ddod o dan gyfaredd Aneurin Bevan. Bu'n cadeirio cyfarfodydd y di-waith ar draeth Aberafan a chofiai 7,000 yn ymgynnull i wrando ar Bevan. Gwleidydd arall a fu yn ddylanwad aruthrol arno oedd James Griffiths. Trwy'r dylanwadau hyn a'i weithgarwch dygn mabwysiadwyd ef yn Gynghorydd Sir dros Taibach yn 1937 a bu'n cynrychioli'r gymuned hyd ei ymddeoliad yn 1977. Yn 1944 etholwyd ef yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Morgannwg a bu'n llywio polisïau addysg Sir Forgannwg am 30 mlynedd. Etholwyd ef yn 1949 yn aelod o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a bu yn Gadeirydd arno am 11 mlynedd. Gwahoddwyd ef yr un flwyddyn i fod yn aelod o Gyngor Cymru a Mynwy a chafodd ei ailethol i'r Cyngor ar ei newydd wedd yn 1959.
Cyfraniad pwysicaf Llewellyn Heycock oedd ei arweiniad cadarn ym maes addysg ddwyieithog gynradd ac uwchradd. Credai yn ddiysgog mai hanfod diwylliant Cymru oedd yr iaith Gymraeg. Er ei fod ef yn swil i lefaru yn yr iaith yn gyhoeddus, medrai sgwrsio yn ei gartref ac ymhlith Cymry academaidd a edmygai. Daeth ei safbwynt yn bolisi'r Pwyllgor Addysg a sefydlwyd ysgolion cynradd a rhai cyfun megis Rhydfelen. Canmolai Heycock agwedd y llywodraeth ganolog tuag at y polisïau dwyieithrwydd, a bu'r un mor gadarn yn Llys a phwyllgor gwaith Prifysgol Cymru. Cyfrannodd yn helaeth am bron i ddeugain mlynedd i Brifysgol Cymru ac anrhydeddwyd ef pan dderbyniodd radd Doethuriaeth (er anrhydedd) yn y Gyfraith. Ef oedd pensaer pennaf y frwydr am barhad ac undod Prifysgol Cymru yn nadleuon 1964.
Uchelgais Heycock erbyn 1957 oedd dilyn W. G. Cove yn Aelod Seneddol Aberafan. Roedd ar Banel Seneddol yr NUR a phan ddaeth y cyfle, enillodd 39 o enwebiadau, gyda bargyfreithiwr 28 oed o Geredigion, John Morris, heb dderbyn ond 3 enwebiad, ond bod un ohonynt yn enwebiad Undeb y Gweithwyr Dur, asgwrn cefn economi Port Talbot. Yn y gynhadledd i ddewis ymgeisydd enillwyd yr enwebiad gan John Morris er siom aruthrol i Heycock, ac yntau yn Drysorydd Pwyllgor Gwaith yr etholaeth ers 30 mlynedd, ysgrifennydd ward Taibach ers 40 mlynedd, ac yn ŵr mwyaf adnabyddus gwleidyddiaeth Morgannwg. Ar gyngor ei briod gwrthododd bwysau ei gefnogwyr iddo sefyll fel ymgeisydd Annibynnol Llafur yn etholiad cyffredinol 1959, a chanolbwyntiodd ar ei weithgarwch mewn llywodraeth leol lle y perchid ei ymroddiad er aml i feirniadaeth am ei duedd i gefnogi yn gyhoeddus ei ffrindiau a'i deulu mewn swyddi o fewn gweinyddiaeth y Cyngor Sir.
Bu'n ffodus yn ei briod, Elizabeth Olive Rees o Felindre, Port Talbot gan ei bod hithau a'i theulu yn weithgar yn y Blaid Lafur. Priodwyd hwy ar 30 Awst 1930 yng Nghapel Presbyteraidd Bethany, Port Talbot (capel a ddatgorffwyd yn 2009 a lle y bu ef yn flaenor ffyddlon) gan gartrefu yn Conduit Place, lle yr oedd penteulu pob tŷ yn gweithio ar y rheilffordd. Ganwyd dau o feibion iddynt, Bryan yn 1932 a fu farw mewn damwain ar y ffordd yn 1958, a Clayton (ganwyd 1941) a fu yn amlwg yng ngweinyddiaeth addysg Morgannwg. Symudodd y teulu i Llewellyn Close, Taibach tros ddegawd olaf ei fywyd, tai a stryd a elwid felly yn gydnabyddiaeth o'i gyfraniad sylweddol.
Ar ôl siom 1957 daeth nifer fawr o anrhydeddau i felysu ei fywyd, CBE yn 1959, ac yna Arglwydd am Oes ar 10 Gorffennaf 1967, i'w adnabod fel y Barwn Heycock o Taibach. Daeth i'w edmygu yn fawr yn nadleuon Tŷ'r Arglwyddi o 1967 i 1981 ond nid oes tystiolaeth yn Hansard iddo gymryd rhan o gwbl yn nadleuon y Tŷ ar ôl 1981. Tri phwnc a ddenai ef i siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, sef buddiannau de Cymru (e.e. Maes Glo Margam), addysg, a llywodraeth leol lle y cydnabyddid ef yn un o'r arbenigwyr pennaf. Yn ei areithiau ar addysg, cyfeiriai hyd at syrffed at ei brofiad maith fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, cadeirydd chwech o bwyllgorau llywodraethwyr ysgolion cyfun, ac am record Morgannwg yn hybu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng addysg y plant, a chefnogaeth i addysg oedolion, yn arbennig Coleg Harlech, lle y bu ef yn Llywydd am 30 mlynedd.
Methodd yn ei ymgyrch yn erbyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhannwyd y sir y bu ef mor bwerus ynddi yn dair sir, a throsglwyddodd ei deyrngarwch i gyngor sir newydd Gorllewin Morgannwg. Ef oedd Cadeirydd cyntaf y Cyngor (1973-5) (buasai'n Gadeirydd Morgannwg yn 1962, y gŵr cyntaf o Bort Talbot i'w anrhydeddu fel hyn) a gwelwyd newid er gwell o fewn y sir newydd yn ei hagwedd at addysg ddwyieithog. Rhoddodd wasanaeth helaeth i addysgu ar lefel Prydeinig fel Llywydd ac aelod amlwg o'r National Association of Divisional Education Executives for England and Wales a hefyd fel Llywydd yr Association of Education Committees for Great Britain. Ni chafodd yr un cynghorydd arall yr anrhydedd dwbl hwn. Bu hefyd yn 1976 yn Llywydd, wedi bod yn aelod o'r pwyllgor Gwaith am rai blybyddoedd y Welsh Association of County Councils ac arweiniodd y corff hwn a mwyafrif y cynghorwyr i wersyll y gwrth-ddatganolwyr. Perthynai i ymgyrch Neil Kinnock a Leo Abse yn y Refferendwm ar Ddatganoli yn 1979 er siom i lawer un a'i hedmygai am ei agwedd iach at y Gymraeg mewn addysg ac yn y bywyd cyhoeddus.
Bu yn arweinydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966, a rhoddodd gefnogaeth i Gôr Meibion Aberafan a Chôr Glee Cymric. Gwaned ef yn 'Commander' Urdd Sant Ioan yn 1967. Gwnaeth gyfraniad helaeth i fro ei febyd, fel prif ysgogydd prynu Parc Margam, a phrynu cae rygbi ar gyfer Clwb Rygbi Aberafan. Roedd rygbi yn bwysig iddo. Bu'n gadeirydd clwb rygbi Aberafon ac yn Llywydd clwb rygbi Taibach; teithiai i weld Cymru'n chwarae yn Ffrainc a'r Iwerddon.
Derbyniodd ryddfraint bwrdeisdref Port Talbot yn 1962, gyda chyn Glerc y Dref, William King-Davies, y ddau ohonynt yn gyn-ddisgyblion ysgol Eastern. Lluniodd y cerflunydd Paul Thomas, Y Barri, benddelw ohono yn 1977 pan ymddeolodd o fywyd llywodraeth leol a'i osod yn yr Orangery, Parc Margam.
Yr oedd ŵr unplyg, dygn a dwys ei grefydd; yn gadarn ei argyhoeddiadau Calfinaidd, yn ddirwestwr ac yn wrth-ysmygwr, a gredai yn sancteiddrwydd Dydd yr Arglwydd, ac yn hynod o ddrwgdybus o'r cyfryngau torfol. Anaml yr ymddangosai ar y teledu. Bu beirniadu cyson arno gan y Western Mail, a theflid llysnafedd ato gan gylchgrawn Y Gweriniaethwr, ond teimlai gohebydd y Times, Trevor Fishlock, fod llawer o'r gwrthwynebiad yn tarddu o genfigen a snobyddiaeth at lwyddiant un a ddaeth o gefndir llwm y dosbarth gweithiol.
Mwynhaodd ei ymddeoliad o lywodraeth leol, gan fyw y drws nesaf i'w fab a'i deulu ac ymhlith pobl y bu ef yn eu gwasanaethu mor egnïol yn Nhaibach, gan ddal i gefnogi Clwb Ieuenctid Taibach a bod yn Ysgrifennydd Cangen Taibach o'r Blaid Lafur. Bu farw yn Ysbyty Cyffredinol Castell-nedd ddydd Mawrth, 13 Mawrth 1990 a bu'r arwyl ddydd Sadwrn, 17 Mawrth yn Eglwys Anglicanaidd St Theodores, Port Talbot ac yna yn Amlosgfa Margam.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-09-14
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.