JONES, IORWERTH (1913-1992), gweinidog, awdur a golygydd

Enw: Iorwerth Jones
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 1992
Priod: Nesta Jones (née Roberts)
Plentyn: Eurgain Jones
Plentyn: Nia Jones
Plentyn: Powys Jones
Rhiant: Catherine Jones (née Rowlands)
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog, awdur a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Derwyn Morris Jones

Ganwyd ef Hydref 17, 1913 yn 90 Melrose Road, Kirkdale, Lerpwl. Yr oedd yn un o bedwar o blant Edward Jones a'i wraig, Catherine Rowlands. Hanai ei dad o'r Brithdir Coch ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, a'i fam o Drws-y-coed yn Nyffryn Nantlle. Daeth y naill i weithio yn y dociau yn Lerpwl, a'r llall i weini fel morwyn yn Bootle. Cyfarfu'r ddau yng nghapel Trinity Road, Bootle. O adeg eu priodas yn 1912 hyd nes y daeth yr achos i ben ym 1928, capel yr Annibynwyr yn Trinity Road oedd cartref ysbrydol y teulu, ac yno y derbyniwyd Iorwerth yn aelod, yn y Cymundeb olaf un a gynhaliwyd yno.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Fonthill Road yn ymyl ei gartref, ac yn Ysgol Uwchradd Oulton ynghanol y ddinas. Cafodd flas ar fwrlwm ac amrywiaeth dinas Lerpwl - y llyfrgell rad yn Brock St, y baddonau yn rhannau tlotaf y ddinas, ffilmiau'r sinemau, “variety” a dramâu y theatrau, a'r ffwtbol yn Goodison. Bu ei deyrngarwch i grysau gleision Everton yn barhaol a di-ildio! Erbyn cyrraedd y chweched dosbarth yr oedd ei fryd ar y Weinidogaeth Gristnogol. Yr oedd y teulu erbyn hynny wedi ymaelodi yng nghapel Annibynnol Great Mersey St. Yno y dechreuodd bregethu ym 1930, a mynd y flwyddyn ddilynol i goleg y Brifysgol, Bangor, a Choleg Bala-Bangor. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Athroniaeth, ac yna mewn Diwinyddiaeth. Athrawiaeth Gristnogol oedd ei hoff bwnc yn y cwrs gradd hwnnw, ond John Morgan Jones, athro Hanes yr Eglwys a phrifathro Coleg Bala-Bangor, a adawodd y dylanwad diwinyddol mwyaf arhosol arno.

Fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn eglwys Pant-teg, Ystalyfera ym 1938. Bu'n eithriadol o ddiwyd yno am un mlynedd ar hugain, ac ar ben ei brysurdeb mewn eglwys enwog am ei gweithgarwch, bu'n hyrwyddo'r Ymgyrch Newydd yng Nghymru a gweithgarwch y Ganolfan Ecwmenaidd ym Mlaendulais, a chychwyn Y Crynhoad (y Reader's Digest Cymraeg) ym 1949.

Ar Awst 15, 1940 priododd â Nesta Roberts o Landegái, Bangor, nyrs wrth ei galwedigaeth, ac un â'i gwreiddiau yn Sir Fôn, ei thad o Lanfairpwllgwyngyll, a'i mam o Langoed. Ganwyd iddynt ddwy ferch, Nia ac Eurgain, a mab, Powys. Derbyniodd alwad i Gapel Als, Llanelli ym 1969, a bu yno hyd ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr ym 1975. Cyn hynny, fe'i hetholwyd yn llywydd Undeb yr Annibynwyr a thraddododd ei anerchiad yn Undeb Dolgellau ym 1971 ar y testun “Y Weinidogaeth Gristnogol - ei Hargyfwng a'i Hangenrheidrwydd”. Ymddeolodd ym 1981.

Daeth Iorwerth Jones yn olygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn misol yr Annibynwyr ym 1952, a bu wrth y gwaith am yn agos i ddeunaw mlynedd. Pan unwyd hwnnw â Y Drysorfa y Presbyteriaid ym 1969, ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn newydd Porfeydd. Ym 1972 fe'i dewiswyd yn olygydd papur wythnosol yr Annibynwyr Y Tyst. Yr oedd yn hynod o fedrus a bywiog fel golygydd.

Paratodd gofiant i David Rees y Cynhyrfwr a gyhoeddwyd ym 1971, a dyfarnwyd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru a Gwobr Goffa Ellis Griffith am ei lafur. Ym 1988 cyhoeddwyd cyfrol o'i argraffiadau cynnar, Dyddiau Lobsgows yn Lerpwl. Er mai ef oedd cofiannydd David Rees, arch-elyn y Torïaid a'r Eglwyswyr a'r Pabyddion yn ei ddydd, ac er iddo yntau ar dro feirniadu'n ddeifiol sawl plaid ac enwad, gan gynnwys ei enwad ei hun, ni bu'n ail i neb yn ei werthfawrogiad o gyfoeth yr amrywiol draddodiadau yn nheulu'r Ffydd, a bu'n Llywydd Cyngor Eglwysi Cymru 1982-1984. Fel golygydd, yr oedd yn anogwr a chalonogwr i ysgrifenwyr o bob oedran, a'i ganllaw yn y swydd honno oedd geiriau C.P. Scott a ddyfynnai yn fynych: Comment is free, but facts are sacred. Yng ngeiriau ei ragflaenydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Trebor Lloyd Evans: “fel pregethwr a golygydd a dadleuwr dros egwyddorion yr Efengyl a'i safonau, saif yn y rheng flaenaf o amddifynwyr y Ffydd ynghanol blynyddoedd di-gred yr 20fed ganrif”.

Bu farw Iorwerth Jones Mawrth 15, 1992 yn Llanelli. Cafwyd gwasanaeth angladd yng Nghapel Als, Llanelli, ac yn Amlosgfa Treforys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/