Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

BIRCH, EVELYN NIGEL CHETWODE, (Barwn Rhyl o Dreffynnon) (1906-1981), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Evelyn Nigel Chetwode Birch
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1981
Rhiant: Florence Hyacinthe Birch (née Chetwode)
Rhiant: James Frederick Noel Birch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed Nigel Birch ar 18 Tachwedd 1906, yn fab i'r Cadfridog Syr Noel Birch a'i wraig Florence Chetwode, 11 Kensington Gore, Llundain SW7. Addysgwyd ef yn Ysgol Eton, a threuliodd y rhan gyntaf o'i yrfa fel brocer stoc. Bu'n bartner o fewn cwmni Cohen, Laming a Hoare. Erbyn iddo gyrraedd 33 oed roedd wedi crynhoi swm personol sylweddol o ryw £45,000, yn bennaf o fewn y farchnad eurymyl. Galluogodd hyn ef i ymddeol a rhoi o'i amser yn llwyr i astudio gwleidyddiaeth. Gwasanaethodd yn y Fyddin Diriogaethol hyd yn oed cyn y rhyfel, ac yn y Reifflwyr Brenhinol a'r Staff Cyffredinol yn ystod y rhyfel gan gyrraedd rheng lefftenant-cyrnol yno. Dyfarnwyd OBE iddo ym 1945. Birch oedd yr AS Ceidwadol dros Sir y Fflint, 1945-50 ac, yn dilyn ail-ddosbarthu'r etholaethau seneddol, dros etholaeth Gorllewin Sir y Fflint o 1950 hyd at 1970.

Gwnaeth Birch ei farc o fewn Ty'r Cyffredin ar unwaith, lle siaradodd yn bennaf ar faterion tramor. Daliodd y swyddi canlynol: Is-Ysgrifennydd yr Awyrlu, 1951-52; Ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Amddiffyn, 1952-54, Gweinidog Gweithiau, 1954-55, Ysgrifennydd yr Awyrlu, 1955-57, ac Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys, 1957-58. Cyhoeddodd ym 1948 The Conservative Party. Ym 1955 penodwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Yn y flwyddyn 1958 ymddiswyddodd, gyda Peter Thorneycroft, Canghellor y Trysorlys, ac Enoch Powell, gweinidog arall o fewn y Trysorlys, yn dilyn anghydweld dros bolisi. Ni ddaeth swydd fel gweinidog byth i'w ran eto, yn rhannol oherwydd gwrthdaro personol rhyngddo ef a Harold Macmillan (gwr yr ymosododd yn hallt arno yn nadl enwog Profumo yn y Ty Cyffredin), ac oherwydd bod ei olwg yntau yn graddol ddirywio.

Enillodd glod gan bawb oherwydd ei allu cynhenid eithriadol, ansawdd a chyflymdra ei feddwl a llymder ei dafod, rhinweddau arbennig a'i galluogodd i gymryd rhan mewn nifer o ddadleuon yn y senedd gyda chryn effaith. Ei brif gonsyrn oedd yr angen i ennill y frwydr wleidyddol yn erbyn chwyddiant, ac roedd ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn materion tramor ac mewn amddiffyn. Yn dilyn ymddiswyddiad Macmillan fel arweinydd y Blaid Geidwadol ym 1963, Nigel Birch oedd un o'r cefnogwyr mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i geisio sicrhau mai'r Arglwydd Home a ddylai ei olynu. Yn wir gwnaeth bwynt o deithio i gynhadledd flynyddol ei blaid yn unig swydd er mwyn ceisio dylanwadu ar ei gydweithwyr o fewn y senedd.

Gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Cwmni Yswiriant Llundain a Manceinion. Ar ôl cyfnod yn ffermio yn Sir y Fflint, aeth ati i ddatblygu ystâd fechan gwerth rhyw £60,000 o fewn Hampshire. Etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Johnson ym 1966, ac ym 1970 daeth yn Arglwydd am Oes, gan gymryd teitl yr Arglwydd Rhyl. Ymhlith ei ddiddordebau oedd darllen hanes, garddio, saethu a physgota.

Priododd ar 1 Awst 1950 yr Anrhydeddus Esmé Glyn, merch y 4ydd Barwn Wolverton. Ni fu iddynt blant. Ei gyfeiriadau oedd 73 Ashley Gardens, Llundain SW1 a Holywell House, Swanmore, Hampshire.

Bu farw Nigel Birch ar 8 Mawrth 1981.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.