Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Leighton Rees 17 Ionawr 1940 yn Ysbyty Aberpennar, Morgannwg, unig fab Thomas Rees, gyrrwr lori a'i briod Olwen Rees (née Holt). Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Trerobert yn Ynys-y-bwl lle trigai ei rieni, ac yno y cartrefodd ef am weddill ei oes. O Ysgol Trerobert aeth i Ysgol Eilradd Fodern Mill Street, Pontypridd, ac dechreuodd ymddiddori yn y gêm y daeth yn gymaint meistr arni yn fachgen ysgol yng Nghlwb y Lluoedd Unedig, Ynys-y-bwl. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a chafodd waith mewn ffactri leol, Simmond Air Accessories, cwmni a ddarparai gyfrannau i'r diwydiant moduron. Bu'n gyflogedig gyda'r cwmni hwn am 21 mlynedd. Deuai cyfle iddo bob amser cinio i ymarfer ei hobi. Trefnwyd tîm o'r ffactri i chwarae yng Nghynghrair Dartiau Pontypridd a'r Cylch a oedd ymarfer yn y Colliers' Arms, Porth. Ar ôl dwy flynedd derbyniodd wahoddiad taer i ailymuno yn y clwb yn ei bentref genedigol ac ni allai wrthod gan mai yno y cafodd gyntaf y cyfle i berffeithio ei fedrau unigryw.
Ei uchelgais oedd ennill y bencampwriaeth dartiau a drefnwyd gan y papur Sul News of the World. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yn 1970, 1974 a 1976 ond ni wireddwyd ei freuddwyd. Erbyn 1970 yr oedd yn ddigon da i'w ddewis i chwarae dros Gymru a hefyd yn nhîm dartiau Prydain Fawr. Dechreuodd dderbyn llu o wahoddiadau i ymddangos mewn arddangosfeydd ledled Prydain. Erbyn 1972 clywodd Sid Waddell, cynhyrchydd gyda Yorkshire Television, am y doniau a oedd ar gael yn Ne Cymru, sef y tri chwaraewr arbennig o fedrus, Tony Ridler, Casnewydd, Alan Evans y Rhondda, a Leighton Rees, Ynys-y-bwl, a threfnodd i roddi cyfle iddynt ar y teledu.
Yr oedd hon yn adeg gyffrous i Leighton Rees ac yntau bellach ar groesffordd. Yr oedd y gêm amatur o dan weinyddiaeth Cymdeithas Dartiau Prydain (BDO) yn troi yn gêm broffesiynol. Yn ychwanegol cyflwynai'r teledu sefyllfa gwbl newydd a chynulleidfa fawr a dderbyniai foddhad neilltuol o wylio'r gêm. Perswadiwyd ef gan ei gyfaill David Alan Evans (1949-1999), aelod arall o dîm Cymru, i droi yn broffesiynol, a chafodd arbenigwr i ofalu am ei fuddiannau a'i wahoddiadau yn Eddie Norman, a ddaeth yn asiant iddo. Yn 1976 y bu hyn, a daeth Leighton Rees yn un o chwaraewyr dartiau mwyaf adnabyddus y sgrin deledu.
Daeth llwyddiant ysgubol iddo o fewn blwyddyn yng Nghanolfan Wembley yn Llundain (Rhagfyr 1977) yng nghwmni ei gyd-chwaraewyr rhyngwladol o dîm Cymru. Enillwyd buddugoliaeth Cwpan y Byd ganddynt, a Rees a enillodd deitl Chwaraewr Gorau'r gystadleuaeth. Ond mae'n sicr mai camp uchaf ei yrfa oedd ei lwyddiant ar 10 Chwefror 1978 pan ddaeth y chwaraewr dartiau cyntaf i ennill teitl Pencampwr y Byd yn y gystadleuaeth a drefnwyd gan y BDO yn Nottingham. Dyma'r tro cyntaf y cynhaliwyd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd. Derbyniodd siec am dair mil o bunnoedd. Anrhydeddwyd ef ym mro ei febyd pan alwyd stryd yn Ynys-y-bwl yn Leighton Rees Close.
Yr oedd bellach yn atyniad a theithiai'n helaeth trwy'r byd. Treuliai o leiaf dri mis bob blwyddyn yn cystadlu yn yr Unol Daleithiau, gan ganolbwyntio ar daleithiau Florida, Arizona, California ac yn arbennig ddinasoedd Efrog Newydd a Las Vegas lle cynhelid Cystadleuaeth Dartiau yr Amerig yn flynyddol. Cyfrifir Leighton Rees yn hanes y gêm, ynghyd ag Eric Bristow, Jocky Wilson, John Lowe a Cliff Lazarenko, fel y rhai a boblogeiddiodd y gêm a bu Rees yn ffefryn arbennig gan wylwyr teledu. Y tu allan i'w deulu a'r gêm ei ddiddordeb pennaf oedd cefnogi tîm rygbi Pontypridd ym Mharc Ynys Angharad.
Cyfarfu â Debbie Ryle, chwaraewraig ddartiau o Anaheim, California, ar y llong 'Queen Mary' yn Long Beach, a phriodwyd hwy yn Las Vegas ar 16 Awst 1980; yr oedd ganddi un mab, Ryan y cymerodd Leighton Rees ato fel ei fab ei hun. Erbyn y 1990au yr oedd iechyd Leighton Rees yn dirywio oherwydd clefyd y galon. Cafodd driniaeth ar y ei galon yn 2001 a bu farw yn Ysbyty Frenhinol Morgannwg yn Llantrisant ar 8 Mehefin 2003. Bu farw ei weddw yn 2007.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-04-13
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.