Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 235 for "1941"

25 - 36 of 235 for "1941"

  • teulu CORY MARGARET CORY, Duffryn, S. Nicholas (bu farw 11 Tachwedd 1936), a thri mab - (1) HERBERT B. CORY (bu farw 1927), (2) Syr CLIFFORD JOHN CORY, barwnig, llywydd y ' Monmouthshire and South Wales Coalowners Association ' yn 1906 (bu farw 3 Chwefror 1941), a (3) REGINALD R. CORY ((1871-1934). Bu John Cory farw 27 Ionawr 1910, a chladdwyd ef yn eglwys S. Nicholas. RICHARD CORY II (1830 - 1914), Ail fab Richard
  • DANIEL, JOHN EDWARD (1902 - 1962), athro coleg ac arolygydd ysgolion Ganwyd 26 Mehefin 1902, ym Mangor, yr hynaf o ddau fab Morgan Daniel (1864 - 1941), gweinidog (A), ac Anna, ei wraig. Addysgwyd J.E. Daniel ym Mangor a meithrinwyd ef yn y traddodiad clasurol yn Ysgol y Friars. Yn 1919 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a thra oedd yno enillodd yn 1922 radd dosbarth I yn Classical Moderations a'r flwyddyn ddilynol radd dosbarth I mewn Litterae
  • DAVIES, ANEIRIN TALFAN (1909 - 1980), bardd, beirniad llenyddol, darlledwr a chyhoeddwr ' mewn cromfachau o dano, a'r arwydd 'fferyllydd' yn y ffenestr. Dinistriwyd ei siop a'i gartref yn llwyr gan un o gyrchoedd awyr yr Almaen ar Abertawe yn 1941. Wedi colli ei siop a'i gartref, symudodd Aneirin a'i deulu i Dŷ-croes, ac ymunodd yntau â staff y BBC, fel darllenydd newyddion rhan-amser i ddechrau, ac wedyn fel cynhyrchydd sgyrsiau radio a rhaglenni nodwedd. Dychwelodd i Lundain am gyfnod
  • DAVIES, CLEMENT EDWARD (1884 - 1962), gwleidydd dychwelodd at y Blaid Ryddfrydol annibynnol yn 1941. Yng nghyfnod Rhyfel Byd II yr oedd yn un o gefnogwyr pybyr y glymblaid. Yn 1945 gwnaethpwyd ef yn gadeirydd y Blaid Ryddfrydol a daliodd y swydd hyd 1956. Yr oedd yn ymladdwr cadarn dros ryddid a chyfiawnder cymdeithasol. Etholwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o Neuadd y Drindod yn 1950 ac yn feinciwr yn Lincoln's Inn yn 1953. Derbyniodd ryddfraint y
  • DAVIES, DAFYDD GWILYM (1922 - 2017), gweinidog, darlithydd a Phrifathro Coleg y Bedyddwyr , ac Ysgol Sir Aberteifi. Yn ddwy ar bymtheg oed teimlodd ei fod yn cael ei alw i'r weinidogaeth ymhlith y Bedyddwyr, a threuliodd y blynyddoedd rhwng 1941 a 1952 yn ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth, yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Mansfield yn Rhydychen. Enillodd radd B.A. (Economeg) cyn ennill gradd B.A. (Groeg Clasurol), ac wedyn radd B.D. - gradd uwch
  • DAVIES, DAVID JACOB (1916 - 1974), gweinidog, llenor a darlledwr arno, a llwyddodd i gael mynediad i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1941 gan astudio Addysg a Chymraeg a graddio yn 1945. Bu'n olygydd cylchgrawn Y Wawr, ac etholwyd ef yn llywydd myfyrwyr Aberystwyth yn 1944. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n weinidog ar Gapel Undodaidd New Street yn Aberystwyth, gan bregethu yno ddwywaith bob Sul, a dyma'r cyfnod y dechreuodd ysgrifennu sgriptiau a darlledu. Cychwyn
  • DAVIES, DAVID RICHARD (1889 - 1958), diwinydd, newyddiadurwr a chlerigwr fyddai yn ei alluogi i ganolbwyntio ar ysgolheictod ac ymchwil. Trodd at yr Eglwys Anglicanaidd am gefnogaeth, a maes o law cafodd ei dderbyn fel ymgeisydd at ei ordeinio. Yn dilyn cwrs yn Llyfrgell Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint, fe'i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1941 ac yn offeiriad yn 1942. Roedd yn giwrad yn St. John, Newland, Hull o 1941 i 1943, ac yn ficer West Dulwich o 1943 i 1947, a Holy
  • DAVIES, EDWARD TEGLA (1880 - 1967), gweinidog (EF) a llenor dreiddgar o wewyr enaid. Cyfieithwyd hi i'r Saesneg. Un nofel arall yn unig a gyhoeddodd: y nofel fer ddychanol Gyda'r glannau (1941). Yr oedd wedi ysgrifennu storïau byrion i gyfnodolion, a chasglodd hwy ynghyd yn Y Llwybr arian (1934). Ac eithrio nifer o lyfrau crefyddol i bobl ifainc, cyfrolau o ysgrifau a gyhoeddodd yn bennaf rhwng 1943 a diwedd ei oes: detholion, gan mwyaf, o'i ysgrifau wythnosol i'r
  • DAVIES, FRANCIS (1605 - 1675), esgob Llandaf llyfrgell yn yr eglwys gadeiriol (fe'i distrywiasid yn ystod y Werin-Lywodraeth); efe hefyd a osododd y gloch fwyaf yn nhŵr yr eglwys gadeiriol. Bu farw 14 Mawrth 1675, a chladdwyd ef o flaen yr allor yn Llandaf; daeth ei garreg fedd i'r golwg ar ôl y cyrch bomio o'r awyr yn 1941.
  • DAVIES, GLYNNE GERALLT (1916 - 1968), gweinidog (A) a bardd gyfrol o farddoniaeth: Yn ieuenctid y dydd (1941) a Y Dwyrain a cherddi eraill (1945). Ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd trydedd gyfrol o'i farddoniaeth, Yr ysgub olaf (1971). Enillasai radd M.A. Prifysgol Lerpwl yn 1958 am draethawd ar fywyd a gwaith Gwilym Cowlyd a chyhoeddodd ei weddw ef dan y teitl Gwilym Cowlyd 1828-1904 (1976). Priododd Freda Vaughan Davies, Maesneuadd, Pontrobert a bu iddynt fab a
  • DAVIES, Syr HENRY WALFORD (1869 - 1941), cerddor . Priododd 1924 Constance Margaret, merch William Evans, offeiriad Arberth a Chanon Tyddewi. Bu farw yn Wrington, Bryste, 11 Mawrth 1941.
  • DAVIES, JOSEPH EDWARD (1876 - 1958), cyfreithiwr rhyngwladol gan lywodraeth T.U.A.; a chafodd anrhydeddau cyffelyb gan lywodraethau deg gwlad arall. Ceir ysgrifau ganddo mewn amryw gylchgronau (1913-47), ac adroddiadau ar ddiwydiant, treth corfforaethau ac agweddau ar y gyfraith. Daeth yn adnabyddus i gylch ehangach wedi cyhoeddi ei lyfr dadleuol, Mission to Moscow (1941). Priododd (1), 10 Medi 1902, Emlen Knight, a bu iddynt dair merch: Eleanor, Rahel ac