Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 235 for "1941"

49 - 60 of 235 for "1941"

  • EMANUEL, HYWEL DAVID (1921 - 1970), llyfrgellydd ac ysgolhaig Lladin Canol Ganwyd 14 Mai 1921 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William David Emanuel, ysgolfeistr, a'i wraig Margaret (ganwyd James). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y bechgyn, Llanelli, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn Lladin yn 1941. Wedi pum mlynedd o wasanaeth tramor yn y Llynges yn ystod y rhyfel, penodwyd ef yn 1947 yn geidwad cynorthwyol yn
  • EMMANUEL, IVOR LEWIS (1927 - 2007), canwr ac actor Ganwyd Ivor Emmanuel yn 3 Prince Street, Margam ar 7 Tachwedd 1927, yn fab i Stephen John Emmanuel (1905-1941), gweithiwr dur, a'i wraig Ivy Margaretta (ganwyd Lewis, 1908-1941). Roedd ganddo chwaer a brawd iau, Mair a John. Pan oedd Ivor yn llai na blwydd oed symudodd y teulu i Bontrhydyfen, y pentref lle ganwyd yr actor Richard Burton, a daeth y ddau'n ffrindiau. Ar 11 Mai 1941 dinistriwyd
  • ENOCH, SAMUEL IFOR (1914 - 2001), gweinidog (Presbyteriaid) ac athro diwinyddol graddiodd mewn Diwinyddiaeth yno. Wedi blwyddyn o ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala derbyniodd alwad yn 1941 i fugeilio Eglwys Saesneg Trinity Aberdâr. Yn 1948 parhaodd â'i astudiaethau yn y Testament Newydd yn Union Theological Seminary, Efrog Newydd, lle daeth o dan ddylanwad yr ysgolhaig adnabyddus, F.C. Grant. Fe'i hapwyntiwyd i lenwi Cadair y Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol
  • EVANS, DAVID (1879 - 1965), gwas sifil ac emynydd Weinyddiaeth Iechyd gan gyfuno'r dyletswyddau â rhai'r Prif Arolygydd. Ymddeolodd o'r Gwasanaeth Sifil yn 1944. Yn ystod ei flynyddoedd yng Nghaerdydd yr oedd David Evans wedi ymgysylltu â llawer o gyrff cymdeithasol a chrefyddol, yn arbennig eglwys Bresbyteraidd Crwys Road lle y gwasanaethodd am nifer o flynyddoedd yn flaenor ac yn 1941 yn ysgrifennydd cyffredinol. Yr oedd hefyd yn aelod o gyngor Cymdeithas
  • EVANS, DAVID DELTA (Dewi Hiraddug; 1866 - 1948), newyddiadurwr, awdur, gweinidog (U) youth - hunangofiant ar ffurf nofel; Athrofa Mab y Saer; Jesus the Galilean; Ymdaith Pererin; a Why do we pray? Ceir nifer o'i weithiau yn Llyfrgell Coleg Bangor, yn eu plith eiriau'n cymeradwyo Ymdaith Pererin a chywydd i Delta gan Thomas Gwynn Jones (Bywg. 2, 33) yn 1942, a hefyd lythyr ato yn gwerthfawrogi Rhedeg ar ôl cysgodion yn 1941. Mae'n debyg ei fod yn rhugl mewn Esperanto a Hindustani. Yr
  • EVANS, Syr DAVID EMRYS (1891 - 1966), addysgydd a chyfieithydd ysgol uwchradd Longton am ysbeidiau byrion. Yn 1919 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn y clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac yn athro'r clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, yn 1921. Yn 1927 dychwelodd i goleg Bangor fel prifathro, ac yno y bu nes ymddeol yn 1958. Gwasanaethodd fel is-ganghellor Prifysgol Cymru bedair gwaith - yn 1933-35, 1941-44, 1948-50, 1954-56. Bu'n gadeirydd
  • EVANS, DAVID TECWYN (1876 - 1957), gweinidog (EF) yn America ac aeth yno wedyn yn 1913. Bu'n weinidog yn y lleoedd a ganlyn: Aberdyfi 1902, Llanddulas 1904, Y Felinheli 1907, Conwy 1910, Llanrwst 1911, Birkenhead 1914, Wrecsam 1919, Rhyl 1922, Bangor 1925, Llandudno 1928, Tre-garth 1931, Abergele 1936, Aberdyfi 1939. Yn 1941 aeth yn 'uwchrif' gan fyw yn y Rhyl. Yno y bu farw yn 80 oed 27 Hydref 1957. Ei briod oedd Nanna Stirrup o Langefni a fu
  • EVANS, EVAN KERI (1860 - 1941), gweinidog gyda'r Annibynwyr a rhoddodd i fyny ei gadair yn y coleg yn 1907. Ar ôl anterth y diwygiad ailddeffrôdd ei ddawn lenorol ddisglair. Cyhoeddodd gofiant ei frawd D. Emlyn Evans yn 1919, cofiant Dr. Joseph Parry yn 1921, a chofiant Dr. David Adams yn 1924. Yn 1938, ymddangosodd ei lyfr nodedig, Fy Mhererindod Ysbrydol. Yr un flwyddyn ymddeolodd o'r weinidogaeth a symudodd i Lanelli lle y bu farw 7 Mehefin 1941. Yr
  • EVANS, GEORGE EWART (1909 - 1988), llenor ac hanesydd llafar Delight (1975), a leolir yng nghymoedd De Cymru, yn taro cywair mwy storïol a naturiol. Bu farw 11 Ionor 1988 yn Brooke; bu ei angladd yn Norwich; gwasgarwyd ei lwch ar y bryniau uwchben Abercynon. Bu farw ei wraig yn Brooke 19 Medi 1999. Bu ei fab Matthew, ganwyd 1941) yn gadeirydd cwmni Faber & Faber, cyhoeddwyr llyfrau ei dad, ac yn 2000 dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Evans o Temple
  • EVANS, GWYNFOR RICHARD (1912 - 2005), cenedlaetholwr a gwleidydd -73) ac i gynrychioli'r etholaeth ddwywaith yn San Steffan (1966-70, 1974-79). Ar Ŵyl Ddewi 1941 priododd â Rhiannon Prys Thomas (1919-2006) y bu ei chefnogaeth ddiamod i'w gŵr ac i'r achos cenedlaethol yn gwbl allweddol drwy lafur diflino a chyffroadau ei yrfa wleidyddol, ac a gariodd i raddau anghymesur y cyfrifoldeb o fagu eu saith plentyn. Yng Ngorffennaf 1940 cafodd Gwynfor ryddhad diamod rhag
  • EVANS, JOHN RICHARDS (1882 - 1969), gweinidog (MC) ac awdur yn y Bwlch, Brycheiniog (1906-10), a Bethlehem, Aberpennar, Morgannwg (1914-39). Ymddeolodd o ofal bugeiliol yn 1939, ac yng Nghaerdydd y bu ei gartref hyd ddiwedd ei oes. Priododd, 1941, Anne May Thomas. Yr oedd J.R. Evans, yn ei ddydd, yn un o brif arweinwyr y MC. Bu'n llywydd Sasiwn y De (1952), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1955). Ef, a'r esgob Havard, oedd llywyddion cyntaf Cyngor
  • EVANS, JOHN YOUNG (1865 - 1941), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac athro yng ngholeg Trefeca ac wedi hynny yng ngholeg diwinyddol, Aberystwyth esboniad Cymraeg ar Efengyl Luc, 1927, ac ysgrifennodd lawer i newyddiaduron a chylchgronau ar bynciau clasurol, hanesyddol, a chrefyddol (gweler y rhestr yn Who's Who). Ordeiniwyd ef yn 1897, bu'n ddarlithydd Davies ('Cymun Corff Crist'), 1928, Llywydd Cymdeithasfa'r De, 1941-42; bu farw cyn diweddu ei dymor 26 Rhagfyr 1941. Yr oedd yn ŵr hynod o wybodus mewn mwy nag un maes, eithr nid oedd ei ddoniau i