Canlyniadau chwilio

1165 - 1176 of 1223 for "osmond williams"

1165 - 1176 of 1223 for "osmond williams"

  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym Peris; 1769 - 1847), bardd barddonol o dan y teitl Awengerdd Peris, a cheir yr awdlau a enwyd i gyd ynddo. Symudodd i fyw i Landygai yn ddiweddarach, ac yr oedd mewn cyfathrach agos yno â ' Gutyn Peris.' Ceir cywydd i annerch ' Gwilym ' o waith ' Gutyn ' yn yr Awengerdd a chywydd ateb ' Gwilym ' i'r cywydd hwnnw yw'r peth mwyaf diddorol a ysgrifennodd. Ynddo disgrifir ardal Llanberis a'r Cwmglas Mawr, cartref Abraham Williams, ei
  • WILLIAMS, WILLIAM (1817 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yn Nhan-y-coed, Penllin, bro Morgannwg, 30 Rhagfyr 1817, mab Evan Williams. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eryr, y Bont-faen. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhenllin yn 18 oed, a dechreuodd bregethu yn 21 oed. Bu'n cadw ysgol am dymor ym Mrynsadler a'r Brychtwn, a bu mewn masnach wedyn yn y Bont-faen. Cafodd alwad i Benclawdd, Browyr, yn 1844, ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Penybont-ar-Ogwr, 1848. Aeth i
  • WILLIAMS, WILLIAM (1748 - 1820), clerigwr, ac un o ragredegwyr mudiad yr ysgol Sul yng Nghymru mab Rhys ac Ann Williams, Glanwenlais, Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan esgob Tyddewi, 1 Medi 1771, ac yn offeiriad 14 Awst 1774. Bu'n gurad yng Nghaerfyrddin, ond fel curad S. Gennys, Cernyw, yr adwaenir ef. Bu'n gohebu â Thomas Charles o'r Bala ar fater addysgu Cymru. Caif y credyd o gychwyn ysgol Sul yn nhŷ Dafydd Elias, Brynteg, Cil-y-cwm, a cheir sicrwydd iddo
  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym ab Ioan; 1800 - 1868), bardd
  • WILLIAMS, WILLIAM (1788 - 1865), aelod seneddol Ganwyd 12 Chwefror 1788 yn Tredarren, plwyf Llanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin, pedwerydd mab Thomas Williams ac Esther (Phillips). Yn ysgol yr Eglwys ym mhentref ei blwyf y derbyniodd yr unig addysg ffurfiol a gafodd; yno yr oedd David Owen ('Brutus ') yn gydefrydydd ag ef. Wedi iddo fwrw ei brentisiaeth mewn siop yng Nghaerfyrddin cafodd, yn 1804, swydd ym masnachdy gwr a oedd mewn busnes fel
  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym Cyfeiliog; 1801 - 1876), bardd, englynwr, ac emynydd Ganwyd 4 Ionawr 1801 yn y Winllan, Llanbrynmair, mab Richard Williams ('cynghorwr' gyda'r Methodistiaid Calfinaidd) a Mary Williams (un o ddisgynyddion Henry Williams, Ysgafell, a chwaer y Parch. John Roberts, Llanbrynmair), a brawd hynaf y Parch. Richard Williams, Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr (uchod) ac yn ysgol William Owen, Trallwng. Dychwelodd gartref i'r Wig i helpu ei dad ar y
  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym ab Iorwerth; c. 1800 - 1859), bardd
  • WILLIAMS, WILLIAM (Creuddynfab; 1814 - 1869), llenor a bardd Ganwyd 20 Awst 1814 yn y Tŷ Du yn y Creuddyn, Llandudno, yn fab i Enoch ac Ellin Williams. Saer maen oedd ei dad. Fel yr hynaf o deulu lluosog ni chafodd Creuddynfab fawr o addysg a bu raid iddo ddechrau gweithio yn ieuanc ar ffermydd yr ardal. Yn ddiweddarach anfonwyd ef i Kenyside, ger Knutsford, at fodryb ac i weithio ar fferm yno.Symudodd i Fanceinion i weithio mewn masnachdy a thra yno
  • WILLIAMS, WILLIAM (1732 - 1799), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac ustus heddwch Ganwyd yn 1732 yn y Dre-fach, Llanfair Nantglyn, Sir Benfro, yn fab i William ac Anne Williams; yr oedd ei dad yn ustus heddwch ac yn perthyn i amryw o uchelwyr y cyffiniau, a'i stad yn werth £1,600 y flwyddyn. Bu farw ei rieni cyn iddo fod yn fwy na chwe mlwydd oed, ond gofalwyd amdano gan ymddiriedolwyr, a chafodd ysgolion da; ond ni wyddys yn wir ddim am ei hanes nes iddo yn 19 oed briodi ag
  • WILLIAMS, WILLIAM (Caledfryn; 1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a beirniad Ganwyd 6 Chwefror 1801 yn Bryn y Ffynnon, Dinbych, mab hynaf Thomas a Mary Williams - y tad yn wehydd ac yn cadw siop. Addysgwyd ef mewn amryw o ysgolion yn y dref ond oddeutu 1814 dyrysodd amgylchiadau ei dad; gwerthwyd y siop a symudodd y teulu i stryd Henllan lle parhaodd y tad ei waith fel gwehydd. Anfonwyd y mab at ei daid a'i ewythr yn Llanrwst i ddysgu gwaith gwehydd, ac yna dychwelodd i
  • WILLIAMS, WILLIAM (Carw Coch; 1808 - 1872), eisteddfodwr a llenor Ganwyd 6 Mawrth 1808 gerllaw Aberpergwm yn nyffryn Nedd, yn fab i Noah a Joan Williams, aelodau o gynulleidfa Undodaidd Blaen Gwrach. Symudodd yn ifanc i Dredegar, ac oddi yno i Lwydcoed, Aberdâr lle y priododd (1832) â merch o un o hen deuluoedd yr ardal. Yn 1837, cododd y gwesty yn Nhrecynon a elwid 'y Stag' - dyna'r eglurhad ar ei ffugenw - ac yno y bu weddill ei fywyd. Yr oedd yn wleidydd
  • WILLIAMS, WILLIAM (fl. 1853), cyfieithydd Uncle Tom's Cabin. yn 1853. Gweler bellach nodyn E. Wyn James yn Canu Gwerin, 27 (2004), t.46 (n.27), lle dangosir mai Thomas Levi oedd awdur y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd dan y ffugenw 'Y Lefiad'. Cyfrannodd y gweinidog Methodist William Williams (1817-1900) ragymadrodd i gyfieithiad Thomas Levi, Crynodeb o Gaban 'Newyrth Tom (1853).