AMBROSE, WILLIAM (‘Emrys’; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor

Enw: William Ambrose
Ffugenw: Emrys
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1873
Rhiant: Elizabeth Ambrose
Rhiant: John Ambrose
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 1 Awst 1813 ym Mangor, unig fab John ac Elizabeth Ambrose. Daethai ei hen-daid, John Ambrose, crydd, o Iwerddon i Gaergybi yn 1715, a mab iddo ef, Robert, oedd ail weinidog y Bedyddwyr ym Mangor. Bu i Robert Ambrose ddau fab — Robert, tad y Parch. W. R. Ambrose, Talsarn, a John (tad ‘Emrys’) — a merch (mam John Ambrose Lloyd). Ceir enw tad ‘Emrys’ ymhlith aelodau cynharaf y Bedyddwyr ym Mangor. Buasai ei fam yn aelod yn Ebeneser gyda'r Dr. Arthur Jones, ond ymadawodd gydag eraill a sefydlu eglwys arall, Bethel (1843-55); bu hi f. yn 1853. Yn y Penrhyn Arms Inn, cartref cyntaf Coleg y Gogledd, yr oeddynt yn byw o 1813 hyd 1823, ac yno y ganwyd ‘Emrys’.

Addysgwyd ‘Emrys’ yn Ysgol y Friars ac wedi hynny yng Nghaergybi yn ysgol W. Griffith. Tua 1828 aeth yn brentis o ddilledydd mewn masnachdy yn Lerpwl. Ymaelododd yn y Tabernacl, Great Crosshall Street, o dan weinidogaeth John Breese. Yn 1834 aeth i Lundain i wasanaethu mewn masnachdy yn Borough Road. Ymunodd ag eglwys y Boro ac yno y dechreuodd bregethu ac ymddiddori mewn cyfansoddi barddoniaeth. Ymhen rhyw ddwy flynedd dychwelodd adref gyda'r bwriad o ymsefydlu mewn masnach ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Lerpwl. Yn y cyfamser, fodd bynnag, aeth yn gydymaith i William Williams (‘Caledfryn’) ar daith bregethu drwy Lyn ac Eifionydd. Ar y daith daeth i'w ran bregethu ym Mhorthmadog, a bu hynny'n achlysur ei wahodd i gymryd gofal yr eglwys yno am flwyddyn. Cydsyniodd yntau, ac ar derfyn y flwyddyn, 7 Rhagfyr 1837, urddwyd ef yn weinidog cyflawn i'r eglwys, ac yno y bu hyd ei f., 31 Hydref 1873. Ym mynwent Capel Helyg, Llangybi, y claddwyd ef. Yn 1879 adeiladwyd capel er cof amdano a adnabyddir fel Y Capel Coffa, Porthmadog.

Bu'n wr amlwg iawn yn enwad yr Annibynwyr — yn enwedig yn y Gogledd. Sefydlodd amryw achosion megis Penrhyndeudraeth, Penmorfa, Cricieth, a Beddgelert. Ef oedd cynrychiolydd Cymdeithas y Beiblau yn y Gogledd am flynyddoedd, a dug hynny ef i gyswllt agos â'r eglwysi. Cydolygodd Y Dysgedydd o 1853 hyd 1873, lle y cyhoeddodd ei ysgrifau, ‘Ein Hathrofau,’ yn 1862, dan yr enw ‘Phineas,’ ysgrifau a barodd gryn gythrwfl ynglyn â choleg y Bala, a ddibennodd ym mrwydr y Ddau Gyfansoddiad (1877-85). Yn y misolyn hwn hefyd y cyhoeddodd ei ysgrifau adnabyddus, ‘Adgofion fy Ngweinidogaeth.’

Rhoddir iddo le anrhydeddus ymhlith beirdd a llenorion y 19eg ganrif. Dechreuodd gystadlu yn ifanc mewn eisteddfodau, ac enillodd wobrau lawer. Daeth i sylw arbennig yn eisteddfod Aberffraw yn 1849 yng nghystadleuaeth yr awdl ar ‘Y Greadigaeth.’ Bu tro amryfus ynglyn â'r feirniadaeth. Yr oedd yno dri beirniad : barnai ‘Eben Fardd’ mai awdl ‘Emrys’ oedd yr orau, ond daliai J. Richards mai eiddo ‘Nicander’ a ddylid wobrwyo, ac er na chytunai y trydydd, Joseph Jones, â'r un o'r ddau ar y dechrau, newidiodd ei farn a rhoes ei bleidlais yn ffafr ‘Nicander,’ ac ef a gadeiriwyd. Bu dadlau brwd yn y Wasg am yn hir, a bernir i ‘Emrys’ gael cam. Y mae yn ei weithiau barddonol rai darnau sydd wedi ennill eu lle yn ein llenyddiaeth, ac yn eu plith rai emynau. Cyhoeddwyd Gweithiau y Parch. W. Ambrose (pigion o'i bregethau) yn Nolgellau (1875); yna, yn 1876, dan olygiaeth ‘Gwilym Hiraethog,’ ddwy gyfrol, sef Gweithiau Rhyddieithol y Parch. William Ambrose, Porthmadog, a Ceinion Emrys (gweithiau barddonol), a cheir cyfrol, Emrys, yng Nghyfres y Fil.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/