O Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, disgybl i Ruffudd Hiraethog a disgybl pencerddaidd ail eisteddfod Caerwys (1568). Cadwyd nifer mawr o'i gerddi, yn y mesurau caeth gan mwyaf, a llawer ohonynt yn llawysgrif y bardd (e.e., NLW MS 3030B ). Testunau ei farddoniaeth oedd mawl, marwnad, a gofyn i wahanol foneddigion Gogledd Cymru, crefydd, serch, dychan, ac ymryson. Yr enwocaf o'r ymrysonau yw'r un hir rhyngddo ag Edmwnd Prys. Ceir ganddo hefyd herodraeth (e.e., Bangor MS. 5943), brut (Peniarth MS 212 ), gramadeg (Cardiff MS. 38), a darn o eiriadur yn llaw Edward Williams ('Iolo Morganwg') (NLW MS 13142A ). Cedwir copi o'i ewyllys, a wnaethpwyd ychydig cyn ei farw, yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe'i claddwyd yn Ysbyty Ifan a chanwyd marwnad iddo gan Edmwnd Prys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.