EVAN, EVAN DAFYDD (fl. 1771-9), cynghorwr Methodistaidd

Enw: Evan Dafydd Evan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

a drigai yn Nhŷ'rclai (neu Tir-y-clai), Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn enwog yn ei ddydd oherwydd ei ymddangosiad hynod a'i ddull gwreiddiol o bregethu. Ef oedd moddion troëdigaeth yr hynod Jenkin Thomas ('Siencyn Penhydd'). Ef, ynghyd ag eraill, a gododd gapel cyntaf y Methodistiaid yn Llanfynydd, c. 1771. Enwir ef 'Evan David of Tir y Clai Cordwainer' yn ewyllys Morgan Rhys, 1779 - ef oedd un o gymynweinyddwyr ewyllys olaf yr emynydd. Ni wyddys pa bryd y bu farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.