Ganwyd John Perrot ym mis Tachwedd 1528 yn Haroldston, mae'n debyg, ac yn ôl yr hyn a ddywedai ef ei hun cafodd ei addysg yn ysgol y gadeirlan Tyddewi. Pan oedd yn ddeunaw oed aeth i wasanaethu yr Arglwydd Drysorydd, William Paulet, Ardalydd Winchester. Yn groes i'r stori gyffredin ynghylch genedigaeth a thadolaeth Perrot, nid oedd yn fab anghyfreithlon i Harri VIII. Ni wasanaethodd mam Perrot, Mary Berkeley, fel boneddiges yn llys y brenin, ac nid urddwyd ei dad, Thomas, yn farchog.
Roedd John Perrot yn fawr o gorffolaeth ac yn nodedig o gryf, ond roedd iddo dymer ormesol a natur gwerylgar. Roedd y Tuduriaid yn hoff iawn ohono; credir i Harri VIII gynnig dyrchafiad iddo eithr bu farw cyn gallu ei roi. Cyfrifai Edward VI ef yn gyfaill a gwnaeth ef yn Farchog Gwyry yn 1549. Pan fu Richard Devereux farw, er nad oedd Perrot eto'n ugain oed cymerodd ei le fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin yn Senedd gyntaf Edward VI yn 1547. Gyda chefnogaeth ei lys-dad, y gŵr llys Syr Thomas Jones, a'r Arglwydd Drysorydd Paulet, ffynnodd gyrfa Perrot yn y Llys yn ystod teyrnasiad y plentyn o frenin. Yn haf 1551 aeth gydag Ardalydd Northampton i Ffrainc i negodi priodas y brenin â'r Dywysoges Elisabeth. Dywedir i Perrot achub bywyd Henri II ar helfa trwy ei arbed rhag baedd clwyfedig. Cynigiodd y brenin diolchgar le yn y Llys Ffrengig gyda 'pensiwn da i wasanaethu'. Gwrthododd Perrot a dychwelodd i Loegr, lle bu'n rhaid iddo forgeisio rhai o'i diroedd teuluol yn sgil ei afradlonedd. Yn ôl ei fab a'i fywgraffydd, Syr James, yng ngwanwyn 1553 cwrddodd Perrot ag Edward VI a gydymdeimlodd â'i argyfwng a pherswadio'r Cyngor i ddyfarnu £100 iddo. Mae'n glir bod Perrot yn rhannu ei amser rhwng y Llys a'r wlad pan ddewiswyd ef ym Medi 1551 yn siryf dros Sir Benfro. Yn 1553 fe'i penodwyd yn un o'r comisynwyr brenhinol a oedd yn gyfrifol am arolygu a rhestru eiddo eglwysi a brawdoliaethau yn Sir Benfro.
Gan iddo gofleidio'r ffydd Brotestannaidd yn frwd, go brin fod Perrot wedi croesawu dyfodiad y Gatholiges selog Mari yn 1553. Parhaodd ei brentisiaeth wleidyddol pan etholwyd ef yn aelod dros Sandwich yng Nghaint mewn dwy o seneddau Mari yn 1553 a 1555. Yn 1555, penodwyd ef i gomisiwn yr heddwch yn Sir Benfro gan wasanaethu fel ynad heddwch cyn derbyn rheolaeth dros gyfiawnder yn y sir pan ddyrchafwyd ef yn custos rotulorum neu brif ynad. Nid oedd gan Mari, ar y cyntaf, unrhyw wrthwynebiad i Brotestantiaeth gref Perrot, gan roi iddo les ar Gastell Caeriw hyd yn oed, ond trodd y llywodraeth yn ei erbyn pan ymuniaethodd â'r wrthblaid Brotestannaidd yn y senedd. Cyhuddwyd Perrot wedyn gan ei gymydog a'i elyn marwol, y Catholigwr Thomas Catherne (bu farw 1568) o Prendergast ger Hwlffordd, o lochesu hereticiaid yn ei gartref yn Haroldston, a charcharwyd ef am gyfnod byr yn y Fleet, a phenderfynodd mai doethach fydd treulio gweddill teyrnasiad Mari dramor, gan wasanaethu yn Ffrainc dan ei gyfaill, William Herbert (bu farw 1570), iarll Penfro. Yn Ffrainc ymroddodd Perrot i'r bywyd milwrol ac amlygodd ei hun yn y gwarchae ar St. Quentin. Dychwelodd i Brydain ychydig fisoedd cyn marwolaeth Mari, ond ni fu byth yn bell o helyntion dadleuol. Yn Chwefror 1558, ailgydiodd yn ei gynnen â Catherne, gan achwyn amdano i Gyngor y Frenhines yn ei gyhuddo o lygredd. Rhyw fis wedyn torrodd Perrot i mewn i dŷ Catherne gyda chriw o weision arfog a mynd ag ef i'r ddalfa yng Nghastell Caeriw. Ymddangosodd y ddau gerbron y Cyngor ym Mehefin lle cafwyd bod Perrot wedi camymddwyn ac fe'i carcharwyd eto yn y Fleet. Pan gafodd ei ryddhau rhwymwyd ef i gadw'r heddwch dan amod £200.
O dan Elisabeth roedd Perrot yn ffefryn mawr, ac roedd yn un o bedwar a benodwyd i gludo'r canopi brenhinol yn ei choroniad yn Ionawr 1559. Ym mlynyddoedd cyntaf teyrnasiad Elisabeth cadarnhaodd Perrot ei rym yn ne-orllewin Cymru trwy grynhoi nifer o swyddi pwysig: yn 1559, fe'i penodwyd yn stiward maenorau Caeriw, Coedraeth, Narberth a Sain Clêr, yn gwnstabl cestyll Narberth a Dinbych-y-pysgod ac yn geidwad carchar Hwlffordd. Yn 1560-1 gwasanaethodd fel maer Hwlffordd, ac fel comisiynydd dros diroedd cuddiedig, ac yn 1562 fe'i gwnaed yn ddirprwy-lyngesydd arfordir De Cymru. Y flwyddyn ganlynol etholwyd ef i'r Senedd yn aelod dros Sir Benfro. Yn fuan iawn ef oedd dyn mwyaf pwerus y sir, ond daeth yn amhoblogaidd iawn yng ngolwg ei gymdogion mwyaf eu dylanwad oherwydd ei ymgyfreithio mynych gyda'r bwriad o beri blinder i'w elynion. Yn 1570 fe'i gwnaed yn gomisiynydd dros fwstro, yn stiward arglwyddiaeth Cilgerran, a gwasanaethodd am ail dymor fel maer Hwlffordd, ar ôl cyfnod pryd y buasai maer a chorfforaeth y dref honno yn elyniaethus iawn tuag ato.
Yn 1570 penodwyd Perrot yn llywydd cyntaf Munster a gwasanaethodd yno o 1571 hyd 1573, yn sgil awydd Elisabeth i sefydlu yn y sir honno lywyddiaeth gyffelyb i'r un a fodolai eisoes yn Connacht. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y gorchwyl o ddifodi gwrthryfel James Fitzmaurice, nai iarll Desmond, a llwyddodd i wneud hynny ar ôl cyrch a nodweddwyd gan beth creulondeb. Yn 1573, fodd bynnag, dychwelodd i Gymru yn wael ei iechyd, a phenderfynu, fel y dywedodd wrth Burghley, fyw bywyd gwladwr a chadw rhag mynd i ddyled. Yn ystod y deng mlynedd nesaf bu ei 'fywyd gwladwr' yn gyfystyr â chyfnod o ymgyfreithio ar raddfa eang ac ymdrechion i ychwanegu at ei diroedd. Ymddiddorodd unwaith yn rhagor ym mywyd cyhoeddus Hwlffordd; erbyn hyn ymddengys fod ei gysylltiadau â'r maer a'r gorfforaeth yn llawer mwy cyfeillgar, a daeth ef ei hun yn faer am y trydydd tro yn 1575. Y flwyddyn cynt, gwnaethid ef yn aelod o Lys Goror Cymru, a chymerodd ran weithredol yn y gwaith o ddifodi môr-herwriaeth ar lannau De Cymru. Pan sefydlodd y Cyfrin Gyngor gomisiwn, yn 1575, i ddifodi môr-herwriaeth yn Sir Benfro, gwnaethpwyd Perrot yn brif gomisiynwr, ond pan sefydlwyd comisiwn cyffelyb y flwyddyn ganlynol i weithredu yn Sir Forgannwg a Sir Fynwy, gwrthododd gymryd gofal ohono, oherwydd gwaeledd ei iechyd, meddai ef. Mae ei lafur ynglŷn â difodi môr-herwriaeth o ddiddordeb yn bennaf oherwydd y cweryl cas a grewyd gan y gwaith hwn rhyngddo ef a Richard Vaughan, dirprwy brif-lyngesydd yng Nghymru a phrif gomisiynwr dros fôr-herwriaeth yn Sir Gaerfyrddin, a wrthwynebai'n gryf ymyrraeth Perrot yn yr hyn a oedd, yn ei farn ef, yn faes arbennig iddo ef.
Ym Medi 1579 rhoddwyd i Perrot ofal ysgadran o bum llong a gorchymyn i hwylio oddi ar arfordir gorllewin Iwerddon i glirio'r moroedd o fôr-herwyr ac atal unrhyw longau yn perthyn i Sbaen a geisiai lanio yno. Heblaw canfod un llong môr-herwyr, y 'Derifold,' a'i dal, ni ddigwyddodd dim o bwys, ond ar ei ffordd yn ôl aeth llong Perrot ei hun i helynt yn y Downs y tu allan i arfordir Caint. Pan gyrhaeddodd yr ysgadran i afon Tafwys yn ddiogel, cafodd Perrot fod ei elynion wedi manteisio ar yr anap hwnnw, a'r ffaith nad oedd wedi cyflawni fawr ddim yn ystod y cyrch, i'w ddifrïo yn y llys brenhinol. Llwyddodd, fodd bynnag, i adennill ei enw da. Ychydig yn ddiweddarach, yn 1580, daeth Thomas Wyrriott, a arferai fod yn un o'r 'Yeoman of the Guard', a brawd iau'r ustud heddwch George Wyrriott, ag achwyniadau yn erbyn Perrot a'u dwyn gerbron y Cyfrin Gyngor. Eithr barnodd y Cyngor eu bod yn ensyniadau enllibus a thaflwyd Wyrriott ei hun i garchar y Marshalsea. Gwnaeth Wyrriott yr un achwyniadau eto ar ôl hynny, a rhwng y cwbl costiodd ei gweryl â Perrot iddo o leiaf ddeng mlynedd o garchar a dirwy o 1,000 o farciau. Yn sgil cynnen ag uchelwyr eraill o Sir Benfro bu Perrot â rhan mewn nifer o achosion yn y Star Chamber, ond y cweryl chwerwaf oedd yr un yn 1581 â Gruffudd Rice o Newton, Sir Gaerfyrddin, y bu'n rhaid i'r Cyfrin Gyngor ei hun ymyrryd ynddo.
Llawenydd mawr yn ddiau i gymdogion Perrot yng Nghymru oedd clywed am ei benodi'n arglwydd-ddirprwy Iwerddon, swydd y bu ynddi o 1584 hyd 1588. Roedd gan y frenhines feddwl da o'i waith pan oedd yn llywydd Munster. Roedd hi hefyd wedi gofyn ei gyngor, yn 1581, ynglŷn â rhai o broblemau Iwerddon, a chafodd ei boddio'n fawr gan y 'Discourse' a ysgrifenasai ef yn ateb i'w chwestiynau, lle'r amlinellasai'r camau y dylid eu cymryd yn y wlad honno. Heblaw hynny roedd yn ŵr o gyfoeth, ac felly'n abl i ateb gofynion swydd bwysig o'r fath yng ngwasanaeth brenhines grintachlyd. Aeth Perrot â'i fab ifancaf William (bu farw 1587) a'i nai Thomas Jones (bu farw 1604), a urddodd yn farchog, i wasanaethu gydag ef yn Iwerddon. Ni fu'r pedair blynedd hyn yn gyfnod hapus i Perrot; pan glywodd am farwolaeth ei frawd Henry ym Medi 1586 gollyngodd ei nai, Thomas, o'i wasanaeth, ac ychydig fisoedd wedyn roedd yn galaru am ei fab William. Ceisiodd Perrot gael ei fab hynaf, Syr Thomas, i wasanaeth o dano yn Iwerddon yn 1587 fel meistr yr ordnans, ond gwrthodwyd y cais gan y frenhines gyda chefnogaeth ei phrif weinidog, William Cecil (bu farw 1598), Arglwydd Burghley. Rhoddwyd y swydd i Syr George Carew (bu farw 1629).
Er iddo gael ambell lwyddiant nodedig yn ystod ei wasanaeth yn Iwerddon, bu ei arglwydd-ddirprwyaeth yr un mor gythryblus â'i lywyddiaeth yn Munster, gan gynnwys ffrwgwd aruthrol (gerbron aelodau Cyngor Iwerddon) â'r cadlywydd oedrannus a checrus Syr Nicholas Bagnall (bu farw 1590). Llesteiriwyd arno i raddau gan swyddogion o Loegr a oedd yn aelodau o'i gyngor, roedd yntau'n gorfod dioddef oherwydd ei dafod di-reol a'i dymer afrywiog; blinid ef yn ddirfawr gan elyniaeth Arglwydd Ganghellor Iwerddon, Adam Loftus (bu farw 1605), archesgob Dulyn, ac eraill, a gofynnodd Perrot yn daer am gael ei ryddhau o'r swydd. Dychwelodd i Loegr yn 1588, yn chwerw ei ysbryd ac wedi ei ddadrithio, yn dioddef o gerrig yn y bustl a'r arennau, ond serch hynny yn gallu ymffrostio i'w olynydd yn y swydd, Syr William Fitzwilliam (bu farw 1599), iddo adael Iwerddon mewn cyflwr o heddwch perffaith.
Yn Chwefror 1589 fe'i gwnaed yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, lle y profodd ei hun yn gynghorwr atebol ac egnïol. Wedi absenoldeb o fwy na phum mlynedd ar hugain, etholwyd Perrot i'r Senedd yn aelod dros Hwlffordd. Serch hynny, cafwyd sibrydion yn fuan iawn iddo fod yn cynllwynio'n fradwrus. Philip Williams, ei ysgrifennydd yn Iwerddon, a roes gychwyn i'r sibrydion hyn, a gofalodd Adam Loftus iddynt gyrraedd yr awdurdodau priodol, sef olynydd Perrot Syr William Fitzwilliam. Bu'r Cyfrin Gyngor yn eu hystyried, ac ym Mawrth 1591 symudwyd Perrot i Dŵr Llundain. Profwyd ei achos ar gyhuddiad o fradwriaeth yn Ebrill 1592 a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Eithr bu farw yn y Tŵr ym mis Tachwedd 1592, cyn i'r ddedfryd gael ei gweinyddu. Mae'n weddol sicr nad oedd yn euog o fradwriaeth, eithr yn euog o ddefnyddio geiriau anghall am berson y frenhines; ei dymer afreolus oedd yn gyfrifol am hynny, yn ddiau. Dioddefodd yn fwy, efallai, oherwydd gelyniaeth rhai personau tuag ato. Un o'r pwysicaf o'r rhain oedd Syr Christopher Hatton (bu farw 1591), gŵr yr honnid i Perrot hudo ei ferch, Elizabeth, ac a frathwyd gan honiad Perrot iddo ennill ffafr y frenhines trwy ddawns y galiard. Er gwaethaf yr atentiad arno, ni fu'n rhaid i'w fab, Syr Thomas Perrot, aros yn hir cyn cael meddiant ei stadau trwy waed ym Mawrth 1593.
Priododd Perrot (1) ag Ann, merch Syr Thomas Cheyne, a chafodd ganddi fab, Syr Thomas Perrot (bu farw 1594), a briododd â Dorothy, merch Walter Devereux (bu farw 1576), iarll Essex; (2) â Jane, merch Hugh Prust o Thorney yn Nyfnaint a gweddw Syr Lewis Pollard o Oakford, Dyfnaint, a chael ganddi fab, William (bu farw 1587) a dwy ferch, Lettice, a briododd (1) â Rowland Laugharne, St. Bride's, (2) â Walter Vaughan o'r Gelli Aur a St. Bride's (yr olaf trwy hawl ei wraig), a (3) ag Arthur Chichester, barwn Chichester o Belfast ac arglwydd-ddirprwy Iwerddon wedi hynny; ac Ann, a briododd â John Philips o Bictwn. Heblaw y rhai hyn bu iddo rai plant anghyfreithlon; y pwysicaf ohonynt oedd Syr James Perrot, gan Sibil Jones o Sir Faesyfed, Elizabeth, merch Elizabeth Hatton, merch a briododd â David Morgan, a mab John (g. tua 1565), a ymaelododd â Broadgates Hall, Rhydychen, yn 1580.
Yn 1580 rhoes Perrot diroedd ac eiddo arall gwerth £30 y flwyddyn, yn rhydd rhag unrhyw ofynion arnynt, i dref Hwlffordd, a dyna gychwyn 'Ymddiriedolaeth Perrot'. Dros y canrifoedd gwerthwyd rhai rhannau o'r rhoddion hyn, ond mae gan yr ymddiriedolaeth elusennol bortffolio o 23 eiddo a buddsoddiad cyfalaf o hyd sy'n cynhyrchu dros £100,000 y flwyddyn er lles y dref.
Ganwyd Syr Thomas yn Haroldston, mae'n debyg, naill ai yn Awst neu ym Medi 1553. Ef oedd unig blentyn Syr John Perrot a'i wraig gyntaf Anne, merch Syr Thomas Cheyne, a fu farw ar yr enedigaeth neu'n fuan wedyn. Gwelir enw Perrot yn y cofnodion am y tro cyntaf ym Medi 1575 pan benodwyd ef yn gomisiynwr heddwch yn Sir Benfro. Hyrwyddwyd ei benodiad gan ei dad a oedd yn custos rotulorum neu brif ynad y sir. Yn haf 1579 aeth gyda'i dad pan benodwyd hwnnw gan y frenhines i arwain fflotila o longau i warchod y moroedd oddi ar dde Iwerddon. Pan aeth y llongau i mewn i borthladd Waterford urddwyd Perrot yn farchog gan Arglwydd Ustus Iwerddon Syr William Drury (bu farw 1579). Ar ôl dychwelyd o Iwerddon cafodd Perrot le yn y Llys, ond dangosodd ei fod yr un mor wyllt ei dymer â'i dad pan ffraeodd â Walter Ralegh (bu farw 1618). Yn Chwefror 1580 carcharwyd Perrot a Ralegh yn y Fleet am wythnos i'w hatal rhag ymladd gornest. Nid yw achos y ffrae yn hysbys, ond mae'n werth nodi bod Ralegh wedi ei garcharu eto yn y Marshalsea fis yn ddiweddarach am ffrae arall. Dychwelodd Perrot i Sir Benfro am gyfnod byr ar ddechrau 1581 pan benodwyd ef yn gomisiynydd dros fwstro yn Hwlffordd. Yn yr un flwyddyn aeth i'r Senedd am y tro cyntaf fel aelod dros Sir Benfro yn lle John Wogan o Wiston a fuasai farw ym Mai 1580.
Cadarnhaodd Perrot ei le yn y Llys yn 1581, pan fu'n un o 20 'amddiffynnwr' Castell Harddwch mewn pasiant a lwyfannwyd yn y 'Tilt Yard' gerbron y frenhines a llysgenhadon Ffrainc. Profodd Perrot ei fod yr un mor fedrus fel ymwanwr ag a fuasai ei dad yn ŵr ifanc. Serch hynny, collodd ewyllys da y frenhines pan garcharwyd ef yn y Fleet yn hydref 1583. Ei 'drosedd' oedd priodi'n gudd â boneddiges breswyl ddeunaw oed y frenhines, Dorothy Devereux (bu farw 1619). Roedd Dorothy yn ferch i Walter (bu farw 1576), iarll Essex, ac yn chwaer i Robert (bu farw 1601), yr ail iarll a ffefryn y Frenhines Elisabeth wedyn. Ni faddeuodd y frenhines i Dorothy ac fe'i diarddelwyd o'r Llys. Mae'n debyg fod gyrfa Perrot yn y Llys ar ben, ac o 1584 ymlaen gwelir ef a'i briod yn preswylio'n gyson ar stadau'r teulu yn Sir Benfro. Dychwelodd i Sir Benfro ar yr un adeg â phenodiad ei dad yn arglwydd ddirprwy Iwerddon, a'r tebyg yw bod Perrot wedi ei siarsio i warchod buddiannau'r teulu yn y sir yn absenoldeb ei dad.
Efallai mai yn ystod y cyfnod hwn yr ymroes Perrot i ddatblygu Haroldston a'r gerddi ffurfiol helaeth y gellir gweld eu gweddillion yn y dirwedd o amgylch adfeilion presennol y plas. Cyn ymgynefino â bywyd yn Sir Benfro, gwirfoddolodd Perrot i wasanaethu fel capten dan Leicester yn ymgyrch yr Iseldiroedd yn 1586. Disgleiriodd ym Mrwydr Zutphen ac roedd yn un o'r galarwyr yn angladd gwladol ei gyd-filwr Syr Phillip Sidney. Dychwelodd Perrot i Sir Benfro lle gwasanaethodd fel maer Hwlffordd yn 1586-7, ac fel dirprwy arglwydd raglaw y sir o 1586 i 1590. Ailafaelodd yn ei yrfa seneddol yn 1586 pan ddewiswyd ef yn aelod dros Sir Aberteifi mewn isetholiad yn sgil marwolaeth Griffith Lloyd o Lanllŷr. Gan iddo fethu â sicrhau swydd meistr yr ordnans yn Iwerddon o dan ei dad yn 1587, roedd yn rhydd i roi ei holl sylw i amddiffyn Sir Benfro pe digwyddai'r ymosodiad a ddisgwylid gan y Sbaenwyr. Yn Ebrill 1588 anfonodd Perrot a'i gyd-ddirprwy raglaw George Owen o Henllys adroddiad i'r Cyfrin Gyngor am fesurau i amddiffyn Aberdaugleddau yn erbyn glaniad gan y Sbaenwyr. Nid arweiniodd trechu Armada Sbaen at leihau'r pwysau ar swyddogion lleol i ddiogelu arfordir de Cymru, ac ymddengys oddi wrth lythyrau a ysgrifennwyd gan Perrot at y Cyfrin Gyngor ac at farnwyr y Morlys iddo gyfuno dyletswyddau dirprwy is-lyngesydd gyda rhai ei ddirprwy raglawiaeth.
Oherwydd y cyhuddiadau difrifol a wnaed yn erbyn ei dad yn 1590 diswyddwyd Perrot o'i raglawiaeth. Prif gychwynnydd diswyddiad Perrot oedd gelyn marwol ei dad yr Arglwydd Ganghellor Hatton. Wrth i sefyllfa ei dad waethygu, felly hefyd yr aeth hi ar Perrot, ac erbyn diwedd 1591 roedd yn y carchar heb gyhuddiadau yn ei erbyn. Fe'i rhyddhawyd yn y man, ac o fewn ychydig wythnosau i atentiad a marwolaeth ei dad ym mis Tachwedd 1592, roedd Thomas Egerton (bu farw 1617), y twrnai cyffredinol, yn adrodd am gais Perrot i hawlio'r stad. Fel aelod dros Sir Benfro yn Senedd 1593, diau ei bod yn achos cryn foddhad os nad rhyddhad i Perrot weld y ddeddf a'i hadferodd mewn gwaed er nad wrth enw. Pasiwyd y ddeddf gan y ddau Dŷ mewn cwta bedwar diwrnod, sy'n awgrymu bod ei adferiad yn ddyledus i ymdrechion ei frawd-yng-nghyfraith, Robert, iarll Essex, ac, yn bwysicach, i'r frenhines a fwriadai, yn ôl y sôn, roi pardwn i'w dad cyn ei farwolaeth annhymig yn y Tŵr. Etifeddodd Perrot Haroldston felly a llawer o weddill stadau'r teulu, ond nid cestyll Caeriw a Lacharn, a ddychwelodd i'r Goron ac i iarll Northumberland yn y drefn honno.
Nid oedd Perrot wedi cyrraedd ei ddeugain oed cyn mynd yn sâl a brysio i lunio ei ewyllys. Yn yr ewyllys a ddyddiwyd 12 Chwefror 1594 ac a brofwyd dri diwrnod wedyn, rhannodd ei stadau (yn niffyg etifeddion gwryw yn sgil marwolaeth ei fab Robert) rhwng ei wraig, Dorothy, a'i ferch, Penelope. Claddwyd Perrot yn eglwys St. Clement Danes yn y Strand.
Roedd Syr James yn fab anghyfreithlon i Syr John Perrot o Haroldston, a Sibil Jones o Sir Faesyfed. Mae'n bosibl iddo gael ei eni yn Haroldston, ond gan iddo gael ei gysylltu weithiau â Westmead, Sir Gaerfyrddin, dichon iddo gael ei eni a'i fagu yn y fan honno a oedd yn eiddo i'w dad. Yn 1586, yn 14 oed, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac aeth i'r Middle Temple yn 1591. Ar farwolaeth ei dad yn 1592 ceisodd gael ei gyfran o stad y teulu ac aeth â'i achos i lys yr Exchequer. Wedi mwy na degawd o ymgyfreithio chwerw llwyddodd i gael gafael ar lawer o stadau ei ddiweddar dad, gan gynnwys hen gartref y teulu yn Haroldston. Ymroddodd hefyd i lenydda ac yn 1596 cyhoeddodd Discovery of Discontented Minds …, dilynwyd hwn yn 1600 gan The First Part of the Considerations of Humane Conditions … etc. Ysgrifennodd hefyd waith ar fywyd a marwolaeth Syr Philip Sidney, ond ymddengys nad aeth hwn ymhellach na'i ffurf fel llawysgrif. Cyhoeddodd ei waith pwysig olaf yn 1630 dan y teitl Meditations and Prayers on the Lord's Prayer and Ten Commandments.
Urddwyd James Perrot yn farchog yn 1603, a phan gafodd Hwlffordd ei siarter yn nechrau teyrnasiad Iago I ei enw ef oedd y cyntaf ar rôl yr aldramoniaid newydd. Yn 1608 daeth yn Bensiynwr Bonheddig a gwasanaethodd yn fuan wedyn am ddwy flynedd yn Iwerddon fel capten milwyr traed a llywodraethwr Newry. Dewiswyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeistref Hwlffordd i Seneddau 1597-8, 1604, a 1614, ac yn Senedd 1614 cyfrannodd yn rymus i'r ddadl ar y trethi a elwid yn 'impositions'. Daeth yn amlwg yn gynnar ym mhlaid gwŷr y Senedd, ac wedi iddo gondemnio'r briodas arfaethedig â thywysoges o Sbaen yn Senedd 1621, gan fynnu datganiadau newydd yn erbyn Pabyddiaeth, collodd ffafr y brenhin ac alltudiwyd ef (mewn dull anrhydeddus) i Iwerddon i fod yn aelod o gomisiwn Syr Dudley Digges (bu farw 1639) a oedd i ystyried rhai achwynion yn y wlad honno. Roedd yn fwy sobr a lleddf yn Senedd 1624, lle'r oedd yn cynrychioli Sir Benfro, ond yn 1628, pan oedd wedi ei ethol dros Hwlffordd, ymosododd yn gryf ar yr Esgob William Laud (bu farw 1645), aelod o'r Cyfrin Gyngor ac un o ffefrynnau'r brenin. Yn 1624 cymerodd brydles ar fwyngloddiau'r Goron yn Sir Benfro a bu'n gwasanaethu fel dirprwy is-lyngesydd dros William Herbert (bu farw 1630), iarll Penfro. Dyrchafwyd ef yn is-lyngesydd y sir yn 1626, a bu'n cymell yr angen am ddelio â'r rhai a oedd yn achosi llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru. Dadleuodd hefyd dros adeiladu amddiffynfeydd yn Aberdaugleddau. Roedd yn aelod o'r Virginia Company, a thanysgrifiodd £37 10s i'r cwmni hwnnw. Bu farw 4 Chwefror 1637, a chladdwyd ef yn eglwys y Santes Fair, Hwlffordd.
Priododd â Mary, merch Robert Ashfield, ysw., Chesham, swydd Buckingham, ond ni oroesodd plant iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-11-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Sylwir yma ar dri aelod o'r teulu hwn.
Credid yn bur gyffredinol ei fod yn fab anghyfreithlon i Harri VIII ac un o'r boneddigesau a oedd yn gwasnaethu yn llys y brenin, sef Mary Berkeley, a briododd â Syr Thomas Perrot, Haroldston; pan briododd Thomas Perrot gwnaeth Henry ef yn farchog. Ganwyd Syr John yn 1530, yn Haroldston y mae'n debyg, ac, yn ôl yr hyn a ddywedai ef ei hun, cafodd ei addysg yn Nhyddewi. Pan oedd yn 18 oed aeth i wasnaethu ardalydd Winchester, yn ôl arfer yr oes honno. Yr oedd yn fawr o gorffolaeth ac yn nodedig o gryf, eithr yr oedd iddo dymer ormesol a natur gwerylgar. Yr oedd y Tuduriaid yn hoff ohono. Cynigiodd Harri VIII ddyrchafiad iddo, eithr bu farw cyn gallu ohono ei roddi iddo. Erbyn 1547, yr oedd wedi ei urddo'n farchog. Nid oedd gan Mari, ar y cyntaf, unrhyw wrthwynebiad i'w Brotestaniaeth cryf; yn ddiweddarach, fodd bynnag, achwynwyd arno gan gydwladwr o'r enw Catherne a ddywedodd ei fod yn llochesu hereticiaid yn ei gartref yng Nghymru; bu raid iddo dreulio ychydig amser yng ngharchar y Fleet; penderfynodd y byddai'n ddoethach iddo fynd dros y môr am weddill teyrnasiad y frenhines a bu'n gwasnaethu yn Ffrainc o dan ei gyfaill, iarll Pembroke. Dychwelodd i Brydain ychydig fisoedd cyn i Mari farw. Cafodd ffafr o dan Elisabeth ac yr oedd yn un o'r pedwar a ddewiswyd i gynnal canopi'r wladwriaeth pan goronwyd y frenhines honno. Yn 1562 dewiswyd ef yn is-lyngesydd arfordir De Cymru ac yn geidwad y carchar yn Hwlffordd, a'r mis Medi dilynol etholwyd ef yn aelod o'r Senedd dros sir Benfro. Yn fuan iawn daeth yn ddyn mwyaf pwerus y sir, eithr daeth yn amhoblogaidd iawn yng ngolwg ei gymydogion mwyaf eu dylanwad oblegid ei ymgyfreithio mynych gyda'r bwriad o beri blinder i'w elynion. Yn 1570 daeth yn faer Hwlffordd ar ôl cyfnod pryd y buasai maer a chorfforaeth y dref honno yn elyniaethus iawn tuag ato.
Efe oedd llywydd cyntaf Munster, yn Iwerddon, 1571-3; dymunai Elisabeth sefydlu yn y sir honno lywyddiaeth a fyddai'n gyffelyb i honno a geid eisoes yn Connacht. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y gorchwyl o ddifodi gwrthryfel James Fitzmaurice, nai iarll Desmond; llwyddodd Perrot i wneuthur hynny ar ôl cyrch a nodweddwyd gan beth creulondeb. Yn 1573, fodd bynnag, dychwelodd i Gymru, yn wael ei iechyd, a phenderfynu, fel y dywedodd wrth Burghley, fyw bywyd gwladwr a chadw rhag myned i ddyled. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf bu ei 'fywyd gwladwr' yn gyfystyr â chyfnod o ymgyfreithio ar raddfa eang ac ymdrechion i ychwanegu at ei diroedd. Ymddiddorodd unwaith yn rhagor ym mywyd cyhoeddus Hwlffordd; erbyn hyn ymddengys fod ei gysylltiadau â'r maer a'r gorfforaeth yn llawer mwy cyfeillgar, a daeth ef ei hun yn faer am yr ail dro yn 1575. Y flwyddyn cynt, gwnaethid ef yn aelod o lys goror Cymru, a daeth i gymryd diddordeb mawr yn y gwaith o ddifodi môrherwriaeth ar lannau De Cymru. Pan sefydlodd y Cyfrin Gyngor gomisiwn, yn 1575, i ddifodi môrherwriaeth yn Sir Benfro, gwnaethpwyd Perrot yn brif gomisiynwr; pan sefydlwyd comisiwn cyffelyb i weithredu yn Sir Forgannwg a sir Fynwy, gwrthododd gymryd gofal ohono, oherwydd gwaeledd ei iechyd, meddai ef. Y mae ei lafur ynglyn â difodi môrherwriaeth o ddiddordeb yn bennaf oblegid y cweryl cas a grewyd gan y gwaith hwn rhyngddo ef a Richard Vaughan, dirprwy-brif-lyngesydd yng Nghymru a phrif gomisiynwr môrherwriaeth yn Sir Gaerfyrddin, a wrthwynebai'n gryf ymyrraeth Perrot yn yr hyn a oedd, yn ei farn ef, yn faes arbennig iddo ef.
Ym mis Medi 1579 rhoddwyd ar Perrot ofal ysgadran o bum llong a gorchymyn i hwylio yng nghyffiniau arfordir gorllewin Iwerddon ac atal unrhyw longau yn perthyn i Sbaen a geisiai lanio yno. Os na welai ddim, yr oedd i anfon llong i chwilio'n ddyfal ym môr Hafren am longau môrherwyr. Un llong o'r fath a welwyd a llwyddodd Perrot i'w dal; eithr ni ddigwyddodd unrhyw beth o bwys ynglyn â'r cyrchoedd a gymerodd. Ar ei ffordd yn ôl daeth llong Perrot ei hunan i helynt yn y Downs y tu allan i arfordir Caint. Pan gyrhaeddodd yr ysgadran i afon Llundain yn ddiogel deallodd Perrot fod ei elynion wedi manteisio ar yr anap hwnnw ac ar y ffaith nad oedd dim o bwys wedi digwydd yn ystod y cyrch, i'w ddifrïo yn y llys brenhinol. Llwyddodd, fodd bynnag, i adennill ei enw da. Ychydig yn ddiweddarach, yn 1580, daeth gwr o'r enw Wyrriott, a oedd yn ustus heddwch ac a arferai fod yn un o'r ' Yeoman of the Guard,' ag achwyniadau enllibus yn ei erbyn a'u dwyn gerbron y Cyfrin Gyngor. Eithr barnodd y Cyfrin Gyngor fod yr ensyniadau yn enllibus a thaflwyd Wyrriott ei hunan i garchar y Marshalsea. Gwnaeth Wyrriott yr un achwynion yn ei erbyn ar ôl hynny; rhwng y cwbl costiodd ei gweryl â Perrot iddo 10 mlynedd o leiaf o garchar a dirwy o 1,000 o farciau.
Llawenydd mawr yn ddiau i gymdogion Perrot yng Nghymru ydoedd clywed iddo gael ei ddewis yn arglwydd-ddirprwy ('Lord Deputy') Iwerddon, swydd y bu ynddi o 1584 hyd 1588. Yr oedd gan y frenhines feddwl da o'i waith pan oedd yn llywydd Munster. Yr oedd hi hefyd wedi gofyn ei gyngor, yn 15811581, ynglyn â rhai o broblemau Iwerddon ac wedi ei boddio'n fawr gan y ' Discourse ' a ysgrifenasai ef yn ateb i'w chwestiynau hi; yn hwnnw amlinellasai'r camau a ddylid eu cymryd yn y wlad honno. Heblaw hynny, yr oedd yn wr o gyfoeth ac felly'n abl i ateb gofynion ariannol swydd bwysig o'r fath yng ngwasanaeth brenhines grintachlyd. Ni fu'r pedair blynedd hyn yn hapus; llesteiriwyd arno i raddau gan swyddogion o Loegr a oedd yn aelodau o'i gyngor, yr oedd yntau yn gorfod dioddef oblegid ei dafod di-reol a'i dymer afrywiog; blinid ef yn anghyffredin gan elyniaeth Adam Loftus, archesgob Dulyn, tuag ato, a gofynnodd yn daer am gael ei ryddhau o'r swydd. Dychwelodd i Loegr yn 1588, yn chwerw ei ysbryd ac yn wr yr agorasid ei lygaid, yn dioddef gan gerrig yn y bustl a'r elwlod; serch hynny yr oedd yn gallu ymffrostio, gerbron Syr William Fitzwilliam, ei olynydd yn y swydd, iddo gael Iwerddon mewn cyflwr o heddwch perffaith.
Yn 1589 gwnaethpwyd Perrot yn aelod o'r Cyfrin Gyngor eithr cyn pen llawer o amser sibrydid iddo fod yn cynllwynio'n fradwrus. Philip Williams, ei ysgrifennydd yn Iwerddon, a roes gychwyn i'r sibrydion hyn, a gofalodd Adam Loftus eu bod yn dod i glyw yr awdurdodau priodol. Bu'r Cyfrin Gyngor yn eu hystyried ac, ym mis Mawrth 1591, symudwyd Perrot i Dwr Llundain. Profwyd ei achos ym mis Ebrill 1592 ar gyhuddiad o fradwriaeth a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Eithr bu farw yn y Twr ym mis Mehefin 1592 cyn i'r ddedfryd gael ei gweinyddu. Y mae'n weddol sicr nad ydoedd yn euog o fradwriaeth eithr yn euog o ddefnyddio geiriau anghall am berson y frenhines; ei dymer wyllt a oedd yn gyfrifol am hynny, y mae'n ddiau. Dioddefodd yn fwy, efallai, oblegid gelyniaeth rhai personau tuag ato. Un o'r pwysicaf o'r rhain oedd Syr Christopher Hatton, gwr y treisiasid ei ferch Elizabeth gan Perrot ac a frathesid gan esboniad cas Perrot ar y dull arbennig yr enillasai ei elyn ffafr y frenhines drwyddo. ar waethaf yr Act of Attainder y cosbwyd Perrot dani,' ni fu raid i'w fab, Syr Thomas Perrot, aros yn hir cyn cael stadau ei dad yn ôl.
Priododd Perrot (1) ag Ann, ferch Syr Thomas Cheyney, a chafodd ohoni fab, Syr Thomas Perrot, a briododd â Dorothy, merch Walter Devereux, iarll Essex ; (2) â Jane, ferch Syr Lewis Pollard, a chael ganddi fab, William (a fu farw 1597), a dwy ferch - (a) Lettice, a briododd (1) â Roland Lacharn, S. Bride's; (2) â Walter Vaughan, S. Bride's; a (3) ag Arthur Chichester, barwn Chichester (o Belfast), ac arglwydd-ddirprwy Iwerddon wedi hynny; a (b) Ann, a briododd â John Philips. Heblaw y rhai hyn bu iddo rai plant anghyfreithlon; y pwysicaf ohonynt hwy oedd (a) Syr James Perrot o Sibil Jones, sir Faesyfed, a (b) merch, a briododd David Morgan.
Yn 1580 rhoes Perrot diroedd ac eiddo arall yn werth £30 y flwyddyn, yn rhydd rhag unrhyw ofynion arnynt, i dref Hwlffordd - dyna gychwyn ' The Perrot Trust.' Yn ystod y canrifoedd a ddilynodd gwerthwyd rhai rhannau o'r rhoddion hyn, eithr y mae'r ' Trust ' yn parhau i ddod ag incwm o tua £400 y flwyddyn i dref Hwlffordd.
Mab anghyfreithlon Syr John Perrot, Haroldston, Sir Benfro, a Sibil Jones o sir Faesyfed. Y mae'n debyg mai yn Haroldston y ganwyd ef, eithr fe'i cysylltir weithiau â Westmead, Sir Gaerfyrddin, a oedd yn perthyn i'w dad ac a ddisgynnodd, efallai, iddo yntau. Yn 1586, yn 14 oed, ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; aeth i'r Middle Temple yn 1590. Ar farw ei dad yn 1592 ceisiodd gael ei gyfran o stad y teulu ac aeth â'i achos i Lys yr Exchequer. Methodd yn ei gais, fodd bynnag; erbyn 1601, pan oedd trefniadau ynglyn â holl eiddo ei dad wedi eu cwpláu, cafodd ef lawer llai na'r hyn y gobeithiasai ei gael er na adawyd mohono heb ddim. Yn y cyfamser yr oedd wedi dechrau llenydda. Yn 1596 cyhoeddodd Discovery of Discontented Minds; dilynwyd hwn, yn 1600, gan The First Part of the Considerations of Humane Conditions. Ysgrifennodd hefyd waith ar fywyd a marwolaeth Syr Philip Sidney eithr ymddengys nad aeth hwn ymhellach na'i ffurf fel llawysgrif. Cyhoeddodd ei waith pwysig diwethaf yn 1630, sef Meditations and Prayers on the Lord's Prayer and Ten Commandments. Gwnaethpwyd James Perrot yn farchog yn 1603. Pan gafodd Hwlffordd ei siarter yn nechrau teyrnasiad Iago I, ei enw ef oedd y cyntaf ar rôl yr aldramoniaid newydd. Dewiswyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Hwlffordd i Seneddau 1597-8, 1604, a 1614. Yn Senedd 1614 bu'n brysur iawn yn siarad yn y ddadl ar y trethi a elwid yn 'impositions.' Daeth yn amlwg yn gynnar ym mhlaid gwyr y Senedd; wedi iddo gondemnio, yn Senedd 1621, y briodas y ceisid ei threfnu rhwng y tywysog Siarl a'r dywysoges o Sbaen, a hawlio hefyd ddatganiadau pendant yn erbyn Pabyddiaeth, collodd ffafr y brenin yr oedd wedi ei mwynhau gynt, ac alltudiwyd ef (eithr mewn dull anrhydeddus) i Iwerddon i fod yn aelod o gomisiwn Sir Dudley Digges a oedd i ystyried rhai achwynion a oedd yn codi yn y wlad honno. Yr oedd yn fwy sobr ac yn fwy lleddf yn Senedd 1624, lle yr oedd yn cynrychioli sir Benfro; yn 1628, fodd bynnag, wedi ei ethol dros Hwlffordd y tro hwn, bu'n ymosod yn gryf ar Laud. Yn 1624 cymerodd brydles ar fwyngloddiau'r Goron yn Sir Benfro a bu'n gwasnaethu fel dirprwy-is-lyngesydd dros iarll Pembroke. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn is-lyngesydd Sir Benfro yn 1626 a bu'n cymell yr angen am ddelio â'r rhai a oedd yn achosi llong-ddrylliadau ar hyd arfordir Cymru; bu hefyd yn annog yr angen am adeiladu amddiffynfeydd ar y Milford Haven. Yr oedd yn aelod o'r ' Virginia Company,' a thanysgrifiodd £37 10s. i'r cwmni hwnnw. Bu farw 4 Chwefror 1636 a chladdwyd yn eglwys S. Mary, Hwlffordd. Priododd â Mary, merch Robert Ashfield, Chesham, swydd Buckingham, ond ni bu iddynt blant.
Y gwr a sefydlodd gainc Northleigh o deulu Perrot. Er nad oes dystiolaeth iddo ymweld â Chymru erioed fe'i henwir yma gan ei fod yn ail fab George Perrot, Haroldston, ac Isabel Langdale, Langdale Hall, sir Gaerefrog. Yr oedd iddo beth enwogrwydd fel cerddor; daeth hefyd yn archddiacon Buckingham.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.