EVANS, LEWIS PUGH (1881-1962), milwr a ffigwr cyhoeddus, Brigadydd Gadfridog, VC, CB, CMG, DSO

Enw: Lewis Pugh Evans
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1962
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a ffigwr cyhoeddus, Brigadydd Gadfridog, VC, CB, CMG, DSO
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Christopher Evans

Ganwyd ef yn Aber-mad, Aberystwyth ar 3 Ionawr 1881, yn ail fab Syr Griffith Evans, KCIE, DL, YH, bargyfreithiwr, a'r Fonesig Evans, o Gelli Angharad, Aberystwyth. Addysgwyd ef yn Eton 1895-1898, ac yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Sandhurst o Ionawr i Ragfyr 1899. Comisiynwyd ef yn 2il lefftenant yn y Black Watch ar 23 Rhagfyr 1899, a gwasnaethodd ar unwaith yn rhyfel De Affrica, gan gymryd rhan yn y gweithrediadau yng Ngweriniaeth Rydd yr Afon Oren gan gynnwys gweithrediadau Poplar Grove, Drietfontein a'r Afon Vet, ac yn ddiweddarach yn nhrefedigaeth yr Afon Oren. Yn y Transvaal bu'n bresennol yn y brwydrau a ymladdwyd yn Johannesburg, Pretoria, Diamond Hill a Belfast. Fe'i hapwyntiwyd yn is-gapten 1 Mai 1901, ac yn y blynyddoedd nesaf cymerodd ddyletswyddau swyddog yn y Black Watch yn yr India. Fe'i hapwyntiwyd yn Gapten yn Hydref 1906. Cafodd ei dderbyn i'r Coleg Staff ym 1913, cymhwysodd fel peilot o'r Corfflu Awyr Brenhinol gyda thystysgrif awyrennwr (Rhif 595) yn 1939, gadawodd y Coleg Staff a chafodd ei apwyntio'n GS03 yn y Swyddfa Ryfel. Yna fe'i hanfonwyd i Ffrainc gyda'r Corfflu Awyr Brenhinol, sgwadron Rhif 3, gan wasanaethu fel peilot / arsylwr ar yr Aisne yn mapio'r llinellau Almaenig. Dychwelodd yn ddiweddarach i'r Black Watch fel Cadlywydd.

Enillodd Lewis Evans ei DSO cyntaf yn Hooge ar y 16eg o Fehefin 1915. 'Pan gymysgodd y fyddin symudodd i fyny ac i lawr y llinell o dan danio trwm a di-dor am 14eg awr yn ail-drefnu'r unedau ac yn dod ag adroddiadau'n ôl', London Gazette, 24 Mehefin 1915. Fe'i hapwyntiwyd yn uwchgapten ym Medi 1915, a GS02 HQ 6ed adran ym Mawrth 1916. Fe'i hapwyntiwyd yn ddirprwy lefftenant-cyrnol a phennaeth milwrol Catrawd y 1st Lincolnshire ym Mawrth 1917. Enillodd Groes Fictoria ym Mhaschendalle ar y 4ydd o Hydref 1917, 'am ddewrder amlwg ac arweinyddiaeth'. 'Arweiniodd y Lefftenant-cyrnol Evans ei fataliwn drwy danio dychrynllyd y gelyn, gan ffurfio'r unedau ei hun, a'u harwain yn yr ymosodiad. Tra oedd safle peirianddryll cadarn yn creu anafiadau difrifol a'r fyddin yn gweithio ar yr ystlys, rhuthrodd y Lefftenant-cyrnol Evans ymlaen gan danio ei lawddryll drwy'r bwlch saethu, a gorfodi'r garsiwn i ildio. Ar ôl ennill y bwriad cyntaf, anafwyd Evans yn ddifrifol yn ei ysgwydd, ond gwrthododd gael rhwymo ei anaf, ail-ymgasglodd ei fyddin, nodi'r targedau nesaf, ac unwaith eto arweiniodd ei fataliwn ymlaen. Anafwyd ef yn ddrwg eto, ond er hynny parhaodd i arwain y fyddin nes ennill yr ail fwriad, ac wedi sefydlogi'r sefyllfa, syrthiodd oherwydd iddo golli gwaed. Gan fod cynifer o glwyfedigion, gwrthododd gymorth, a chyrhaeddodd yr orsaf driniadau drwy ei ymdrechion eu hun. Ysgogodd ei ddewrder digynnwrf wroldeb a phenderfyniad i ennill o fewn yr holl rengoedd,' London Gazette, 26 Tachwedd 1917. Fe'i hanrhydeddwyd â Chroes Fictoria gan y Brenin Siôr 5ed ym Mhalas Buckingham ar yr 2 Ionawr 1918. Wedi gwella o'i glwyfau, cymerodd reolaeth ei gatrawd ei hun, y Bataliwn 1af o'r Black Watch, yn Ionawr 1918. Enillodd Lewis Evans ei ail DSO yn Givenchy ar y 18-20 Ebrill 1918, 'am ddewrder ac ymroddiad i'w ddyletswydd dros gyfnod o dri diwrnod. Ar y diwrnod cyntaf symudodd drwy'r ardaloedd blaen i gyd, ar yr ail ddiwrnod fe wnaeth yn bersonol arwain rhagchwiliad am wrthymosodiad a arweiniodd ar y trydydd diwrnod gan yrru'r gelyn allan o'r trefnwaith blaen', London Gazette, 16 Medi 1918.

Cafodd ei benodi'n Frigadydd Cyffredinol a Chadlywydd y 14eg Brigâd ym Mehefin 1918, a Phenswyddog safleoedd Byddin Afon Rhine yn Rotterdam yn 1919. Dyfarnwyd y CMG iddo yn 1919 am ei wasanaeth yn rheoli'r 14eg Brigâd, yn ogystal â'r Officier de l'Ordre de Leopold (Gwlad Belg) yn 1917 a'r Croix de Guerre (Ffrainc) yn 1918 am ei wasanaeth i Wlad Belg a Ffrainc yn ystod y rhyfel. Cafodd ei enwi saith gwaith mewn Cadnegeseuau yn ystod y rhyfel.

Wedi'r rhyfel gwnaed Lewis Evans yn hyfforddwr yn Ysgol yr uwch swyddogion, ac yna'n rheolwr Brigâd Gwyr Traed Dyfnaint a Chernyw, a swyddi GSO2 ym Melffast, Glasgow a Newcastle upon Tyne cyn cymryd rheolaeth o 2il Fataliwn y Black Watch yn 1926. Wedi 1930 bu'n gweithio am gyfnod yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain.

Gwnaed ef yn rheolwr y 159 Brigâd Gwyr Traed Gororau Cymru yn 1933. Ar ei ymddeoliad yn Ionawr 1938 fe'i hanrhydeddwyd â'r CB. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i gwnaed yn swyddog cydgysylltwr milwrol y Rheolwyr Gorllewinol ym Mhencadlys Cymru yng Nghaerdydd, ac yna'n gadeirydd Bwrdd Cymru i ddyfarnu comisiynau i'r Cartreflu.

Yn dilyn marwolaeth ei frawd hynaf Griffith yn 1945, etifeddodd ystâd Gelli Angharad ger Aberystwyth, a dychwelodd i fyw yng Ngheredigion, lle bu'n weithgar mewn amaethyddiaeth a materion cyhoeddus tan ei farwolaeth o drawiad ar y galon yng ngorsaf Paddington ar 30 Tachwedd 1962. Claddwyd ef ym mynwent Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.

Yr oedd Lewis Evans yn ddisgynnydd o hen deulu o Sir Feirionnydd a allai olrhain ei gwreiddiau'n ôl i Ail Lwyth Brenhinol Cymru. Ymysg ei hynafiaid yr oedd teulu Vaughan o Gorsygedol a theulu Owen o Ddolgellau (gan gynnwys y Barwn Lewis Owen, A.S., siryf a Barwn y Trysorlys am Ogledd Cymru – honnai ei wraig ei bod yn ddisgynnydd o chwaer Owain Glyndwr), Gruffydd Dda a ymladdodd ym mrwydr Agincourt, a Syr Gruffydd ab Adda o Ynysymaengwyn, y gwelir ei feddrod a'i ddelw yn Eglwys Tywyn.

Priododd Lewis Pugh Evans â Dorothea Margaret Seagrove Vaughan-Pryse-Rice o Lwyn-y-brain, Llanymddyfri ar 10 Hydref 1918, a ganed un mab iddynt, Griffith Eric Carbery Vaughan Evans, a fu farw cyn ei dad. Yr oedd priodas Lewis Evans a Dorothea yn creu cyswllt rhyngddo a theulu Pryse o Gogerddan a theulu Vaughan o Gelli Aur. Bu Dorothea farw ar 5 Rhagfyr 1921.

Daliodd Lewis Evans nifer o swyddi cyhoeddus: Dirprwy Lefftenant Ceredigion (1937-62), (gwrthododd y swydd o Arglwydd Lefftenant Ceredigion ym 1952 oherwydd ei oedran); Cyrnol Anrhydeddus y 16eg Bataliwn (Cymreig) o 1947; Cyrnol Anrhydeddus Byddin y Cadlanciau Ceredigion; Cadeirydd y Brigad Ambiwlans St Ioan, Ceredigion, dyfarnwyd iddo'r Urdd Sant Ioan Caersalem, (Order of St John of Jerusalem (Commander); aelod o Fwrdd Rheoli'r Eglwys yng Nghymru; Rhyddfreiniwr Bwrdeisdref Aberystwyth, Ynad Heddwch a Chadeirydd mainc Llanbadarn Fawr; Cadeirydd Cymdeithas y Gwartheg Jersi (Cymru).

Dywed ysgrif goffa: 'Yr oedd gan Lewis Evans bersonoliaeth ddymunol ac anwylodd ei hun i bawb a ddaeth i'w adnabod. O dan ei ffordd fwyn a diymhongar gorweddai cymeriad grymus a feddai ar synnwyr cryf o ddyletswydd. Yr oedd yn hollol anhunanol mewn achosion yn ymwneud a dyletswydd. Cyfuniad o'r agwedd yma o'i bersonoliaeth, a'i wroldeb personol a ddaeth i'r amlwg yn y rhinweddau ymladdol enwog a arddangosodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.' Ef yw'r unig Gymro i dderbyn Croes Fictoria a dwy Urdd Gwasanaeth Nodedig (Distinguished Service Orders).

Mae portread o Lewis Evans gan S. Morse Brown yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru (wedi'i gomisiynu gan Syr Leonard Twiston Davies yn rhan o gyfres o bortreadau o Gymry pwysig).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.