Ganwyd John Darwin Hinds ar 28 Rhagfyr 1922 ym Maerdy, Sir Forgannwg, ac fe'i magwyd yn Stryd Morgan yn y Barri. Roedd ei fam, Gwenllian Hinds (g. Lloyd) yn wraig tŷ a anwyd yn y Barri, a'i dad, Leonard Hinds (1887-1942), yn forwr a ddaethai i'r Deyrnas Unedig o Farbados, ac yn nes ymlaen yn löwr. Gwasanaethodd Leonard fel taniwr ar longau masnachol yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac enillodd Fedal Ryfel y Llynges Fasnachol yn 1919, a ddyfarnwyd i'r rhai a fu ar y môr am o leiaf chwe mis ac ar o leiaf un daith drwy barth peryglus. Wedi'r rhyfel, aeth Leonard yn löwr ym Maerdy. Ganwyd iddo ef a Gwenllian chwech o blant, yn cynnwys chwaer hŷn John, Elvira Gwenllian Payne (1917-2007), y fenyw Ddu gyntaf i fod yn gynghorydd yng Nghymru.
Ar ôl gadael yr ysgol dilynodd John Hinds ei dad trwy weithio fel glöwr ym Margoed am rai blynyddoedd. Ond cafodd gyfle wedyn i weithio yn Swyddfa'r Trefedigaethau yn Llundain, profiad a fu'n sbardun i'w ddeffro'n wleidyddol. Ymunodd â'r Blaid Lafur, ac wedi dychwelyd i'r Barri dechreuodd weithio i hyrwyddo galluogi cymdeithasol yn ne Cymru. Cafodd droedigaeth i'r ffydd Islamaidd tua'r un adeg ar ôl bod yn agos at farw o'r ddarfodedigaeth.
Cafodd Hinds yrfa lwyddiannus mewn gwleidyddiaeth leol yng Nghymru. Ef oedd y cynghorydd Du cyntaf a'r cynghorydd Mwslemaidd cyntaf yng Nghymru pan etholwyd ef i Gyngor Tref y Barri yn 1958. Ac yntau'n rhugl ei Gymraeg, roedd yn un o ddim ond tri o gynghorwyr a fedrai'r iaith. Yn 1975, gwnaeth hanes am yr eilwaith drwy fod y maer Mwslemaidd a'r maer Du cyntaf ar Gyngor Sir yng Nghymru (ac ym Mhrydain) pan etholwyd ef yn Faer Bro Morgannwg. Gwasanaethodd ei chwaer Elvira Gwenllian Payne yn Arglwydd Faeres iddo. Roedd ei ymroddiad i actifiaeth gymunedol yn amlwg yn ei ymdrechion i ddatrys amryw broblemau cymdeithasol, gan gynnwys anniogelwch tai. Pleidiodd achos cyfiawnder i'r anabl hefyd trwy ddadlau dros sefydlu cangen leol o'r Gymdeithas Cŵn Tywys i'r Deillion.
Bu John Darwin Hinds farw ar 15 Mawrth 1981. Roedd yn arloeswr a dorrodd rwystrau hil, crefydd, a chynrychiolaeth mewn swyddi cyhoeddus yn ystod ei yrfa. Saif ei etifeddiaeth heddiw yn dyst i gyfraniadau Mwslemiaid Du yng Nghymru, ac mae ei waith arloesol mewn gwleidyddiaeth ac actifiaeth gymunedol wedi llunio gweledigaeth fwy cynhwysol o hunaniaeth Gymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-25
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.