Cefndir Y Bywgraffiadur Cymreig

Beth yw'r Bywgraffiadur Cymreig?

Pwy sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig?

Mae angen awduron newydd i ysgrifennu erthyglau am unigolion sy'n haeddu lle yn Y Bywgraffiadur Cymreig er mwyn sicrhau bod bywgraffiadau newydd yn cael eu cyhoeddi'n brydlon a pharhaus. Gellir gweld rhestr o erthyglau sydd angen eu hychwanegu i'r Bywgraffiadur yma.

Os hoffech lunio erthygl am rywun ar y rhestr, cysylltwch â ni.

Pa wybodaeth sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig ar gyfer pob unigolyn?

Amcan pob erthygl yw egluro pwy oedd yr unigolyn, eu pwysigrwydd, a'u perthynas â Chymru. Mae pob erthygl yn cael ei ymchwilio'n llawn, a'r ffeithiau'n cael eu dilysu hyd y gellir. Nid molawdau mo'r erthyglau, ond asesiadau gonest o gyfraniad y gwrthrych, gan gydnabod gwendidau a methiannau yn ogystal â champau. Hyd y bo modd, dylai'r wybodaeth ym mhob erthygl gynnwys manylion am:

Mae dolenni o fewn erthyglau yn darparu croesgyfeiriadau i erthyglau perthnasol am aelodau teulu, cydweithwyr a chyfeillion.

Mae'r canllawiau i awduron ar gael yma.

Rydym yn croesawu sylwadau gan ddefnyddwyr. Os hoffech chi awgrymu erthygl newydd neu olygiad i erthygl sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni gan gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib yn eich neges. Bydd y tîm golygyddol yn adolygu'ch awgrymiadau ac yn cysylltu'n ôl â chi.

Beth yw hanes y Bywgraffiadur Cymreig?

Os hoffech chi gyfrannu'n ariannol tuag at gynnal a datblygu'r wefan hon, ewch i'n tudalen codi arian.