Y BYWGRAFFIADUR CYMREIG

CANLLAWIAU I GYFRANWYR

Mae Y Bywgraffiadur Cymreig yn waith cyfeiriadol safonol a ddylai fod yn fan cychwyn i unrhyw un sy’n ceisio gwybodaeth fywgraffyddol am hanes Cymru. I lawer o ddefnyddwyr erthygl yn y Bywgraffiadur fydd pen draw eu darllen. Dylai’r erthyglau gyflwyno digon o wybodaeth i greu darlun eglur o’r gwrthrych ac i ddangos ei b/phwysigrwydd ym mywyd Cymru (a thu hwnt lle bo’n briodol), a hynny mewn modd difyr a darllenadwy. Nid awdl o fawl sydd angen, ond asesiad gonest o gyfraniad y gwrthrych, gan gydnabod ei wendidau a’i fethiannau yn ogystal â’i gampau. Disgwylir i’r erthyglau fod yn ffrwyth ymchwil a bod y ffeithiau wedi’u dilysu, hyd y gellir. Dylent fod yn waith gwreiddiol yr awdur, ac nid yw’n dderbyniol atgynhyrchu darnau o ffynonellau eraill heb eu cydnabod.

I gael patrymau o ran strwythur ac arddull gellir edrych ar amryw o’r erthyglau diweddar ar y wefan, e.e. yr actor Richard Burton (esiampl dda o ymdriniaeth gytbwys, ac o roi sylw i gefndir Cymreig ffigwr rhyngwladol), yr awdur Rhiannon Davies Jones, y mathemategydd Mary Warner, a’r chwaraewr rygbi Clive Sullivan.

Dylai pob erthygl gynnwys y wybodaeth sylfaenol ganlynol, hyd y bo modd:

Gwybodaeth bersonol am y gwrthrych

Enw: enwau llawn, gydag unrhyw enwau eraill megis enw barddol, enw proffesiynol, talfyriadau, llysenwau

Dyddiadau: geni, marw, claddu / amlosgi, yn llawn

Lleoedd: man geni, preswyliad(au), marw, claddu / amlosgi

Cymeriad: nodweddion o ran personoliaeth ac, efallai, o ran pryd a gwedd

Achos marwolaeth

Teulu

Tad: enw llawn, blwyddyn geni a marw, galwedigaeth

Mam: enw llawn, enw morwynol, blwyddyn geni a marw, galwedigaeth (os yn addas)

Brodyr a chwiorydd: nifer, enwau, trefn mewn perthynas â’r gwrthrych

Cymar neu bartner: enwau llawn, ac ar gyfer gwraig enw blaenorol, blynyddoedd geni a marw, blwyddyn y briodas neu ddechrau perthynas

Plant: nifer, enwau, o ba berthynas os oedd mwy nag un, gwybodaeth bellach amdanynt os yn berthnasol ac yn ddiddorol

Bywyd

Addysg: ysgol, coleg, prifysgol, gyda dyddiadau, graddau a chymwysterau

Galwedigaeth

Swyddi: dyddiadau penodi i swyddi o bwys

Anrhydeddau: teitlau, aelodaeth o gymdeithasau, cyrff cyhoeddus etc.

Cyraeddiadau a chynhysgaeth: manylion am y gorchestion pwysicaf, teitlau a dyddiadau’r prif weithiau, a chrynodeb o weddill y gwaith

Arwyddocâd: barn gytbwys am bwysigrwydd cyfraniad y gwrthrych, sef y rheswm pam y mae’n haeddu ei g/chofio

Ffynonellau

Y ffynonellau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr erthygl (gan gynnwys gwybodaeth bersonol neu lafar), ysgrifau coffa, bywgraffiadau a thrafodaethau safonol (lle bo'n briodol), a chyfeiriadau at ddarluniau neu gerfluniau o'r gwrthrych, defnyddiau ffilm a sain, a chasgliadau o archifau a phapurau. Ni ddylid rhestru cyhoeddiadau'r gwrthrych (heblaw hunangofiannau).

Y Fformiwla agoriadol

Dylai erthygl ddechrau yn y dull hwn:

JONES, SARAH RHIANNON DAVIES (1921-2014), awdur a darlithydd

Ganwyd Rhiannon Davies Jones ar 4 Tachwedd 1921 yn Llanbedr, Meirionnydd, yn ail ferch i Hugh Davies Jones (1872-1924), gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a’i wraig Laura (g. Owen, 1887-1977), athrawes.

Neu, os na ellir cael dyddiadau llawn y rhieni:

PRYCE, THOMAS MALDWYN (1949-1977), rasiwr ceir

Ganwyd Tom Pryce yn Sir Ddinbych ar 11 Mehefin 1949, ac fe’i magwyd yn Nantglyn. Roedd yn ail fab i Jack Pryce (b.f. 2007), heddwas a ddaeth yn sarsiant yn ddiweddarach, a’i wraig Gwyneth (g. Hughes, b.f. 2009), nyrs ardal. Bu farw ei frawd hŷn, David J. Pryce (1947-50), yn dair oed.

Bydd popeth yn y pennawd yn mynd fel y mae i’r rhestr gynnwys. Cadwch y disgrifiad o’r alwedigaeth yn gryno, gan nodi’r prif weithgarwch a sail enwogrwydd yn unig. Sylwer bod y frawddeg lawn gyntaf yn rhoi enw’r gwrthrych yn ei ffurf fwyaf cyffredin.

Mae’r wybodaeth gryno ar frig erthyglau ar-lein yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig o gynnwys yr erthygl, ac nid oes angen i chi ei darparu yn y ffurf honno.

Byddai’n ddefnyddiol iawn petaech chi hefyd yn gallu darparu rhestr ar wahân o enwau llawn, gyda dyddiadau lle bo’n bosibl, ar gyfer pawb a enwir yn eich erthygl. Mae hyn ar gyfer cronfa ddata a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Gofynnir i gyfranwyr gytuno i’r erthygl gael ei chyhoeddi ar wefan y Bywgraffiadur Cymreig dan drwydded ‘Creative Commons Attribution’. Trwy osod trwydded Creative Commons ar eich cyfraniad, rydych yn caniatáu i eraill ei ddefnyddio a’i ail-bwrpasu dan rai amodau heb unrhyw ganiatâd pellach gennych.

Os bydd rhyw wybodaeth newydd neu gyhoeddiad o bwys yn dod i’r amlwg ar ôl cyhoeddi eich erthygl, rhowch wybod i Olygydd y Bywgraffiadur fel y gallwn ychwanegu cyfeiriad er mwyn cadw’r fersiwn ar-lein mor gyfredol â phosibl.