I ddarganfod mwy am ba fath o wybodaeth y gallwch chi ddisgwyl ei chael yn erthyglau bywgraffyddol y Bywgraffiadur, cliciwch ar y ddolen 'Mwy am y prosiect' yng nghanol y dudalen Cartref, neu ar ddolen 'Y Prosiect' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i ddychwelyd i'r dudalen Cartref?
I gyrraedd y dudalen Cartref o unrhyw dudalen ar y safle, cliciwch ar 'Hafan' ar ben y dudalen.
Sut alla i gyrraedd y dudalen Cymorth o dudalennau eraill ar y safle?
I gyrraedd y dudalen Cymorth o unrhyw dudalen ar y safle, cliciwch ar y ddolen 'Cymorth' ar waelod y dudalen.
Sut alla i newid iaith y safle rhwng Gymraeg a Saesneg?
Cewch newid yr iaith rhwng Gymraeg a Saesneg trwy glicio ar 'Cymraeg' neu 'English' yn y gornel uchaf ar y dde ar unrhyw dudalen.
D.S. Mae hi'n bosibl i chi golli canlyniadau eich chwiliad os newidiwch iaith y rhyngwyneb yn ystod y chwiliad.
Sut alla i chwilio'r Bywgraffiadur?
Mae yna dair ffordd i chwilio: (i) trwy ddefnyddio rhestr A-Z o erthyglau; (ii) trwy ddefnyddio'r prif flwch 'Chwilio'; (iii) neu drwy ddefnyddio'r blwch 'Chwiliad testun rhydd'.
Rhestr A-Z o erthyglau
Rhestrir erthyglau yn nhrefn yr wyddor mewn tair man:
- o dan 'Rhestr Enwau' yng nghanol y dudalen Cartref
- pan gliciwch chi ar 'Pori' ar ben unrhyw dudalen
- ar ben pob tudalen sy'n agor pan gliciwch chi ar un o'r llythrennau
Cliciwch ar lythyren i weld rhestr o erthyglau ar gyfer enwau a ffugenwau personol sy'n dechrau gyda'r llythyren honno.
Darperir croesgyfeiriadau clicadwy yn y rhestr pan fydd person yn berchen ar fwy nag un enw, neu pan geir mwy nag un ffurf o'r enw.
Cliciwch ar enw sydd wedi cael ei oleuo er mwyn agor erthygl unigol.
Nid yw'n bosibl gweld canlyniadau ar gyfer mwy nag un llythyren o'r wyddor ar y tro.
Am resymau technegol, rhestrir erthyglau yn nhrefn yr wyddor Saesneg yn hytrach na'r wyddor Gymraeg.
Blwch 'Chwilio'
Dangosir y blwch 'Chwilio' yn amlwg ar ben y dudalen Cartref, yn y canol.
Mae e'n cynnig dwy opsiwn chwilio:
- 'Enw' – bydd hyn yn chwilio dim ond am enwau personol mewn penawdau erthyglau.
- 'Testun' – bydd hyn yn chwilio am enwau personol mewn penawdau erthyglau a hefyd am unrhyw ddata ym mhrif gorff erthyglau, felly cewch chwilio am enwau personol, enwau lleoedd neu unrhyw derm arall sy'n ymddangos yn y data.
I ddewis un o'r opsiynau hyn, defnyddiwch y fwydlen 'dropdown' sy'n ymddangos pan gliciwch ar y saeth a arddangosir ar ochr chwith y blwch chwilio.
- 'Enw' yw'r opsiwn diofyn ar gyfer chwilio.
I gychwyn eich chwiliad, teipiwch y term 'rydych chi am chwilio amdano yn y blwch, cliciwch ar eicon y chwyddwydr ar ochr dde'r blwch (neu bwyswch allwedd 'Return' ar eich byseddfwrdd), a bydd eich canlyniadau yn ymddangos.
Blwch 'Chwiliad testun rhydd'
Mae'r blwch 'Chwiliad testun rhydd' ar ben pob tudalen ar y safle, ar yr ochr dde, felly nid oes angen dychwelyd i'r dudalen Cartref i ddechrau chwiliad newydd heblaw eich bod chi am gyfyngu eich chwiliad i enwau personol mewn penawdau erthyglau.
Bydd 'Chwiliad testun rhydd' yn chwilio am enwau personol mewn penawdau erthyglau a hefyd am unrhyw ddata ym mhrif gorff erthyglau, felly cewch chwilio am enwau personol, enwau lleoedd ac unrhyw derm arall sy'n ymddangos yn y data.
I gychwyn eich chwiliad, teipiwch y term 'rydych chi am chwilio amdano yn y blwch, cliciwch ar eicon y chwyddwydr ar ochr dde'r blwch (neu bwyswch allwedd 'Return' ar eich byseddfwrdd), a bydd eich canlyniadau yn ymddangos.
Pwyntiau eraill i'w nodi am chwilio:
- Nid yw'r ffwythiant chwilio yn ddibynnol ar ddefnyddio priflythrennau neu lythrennau bychain.
- Cewch ddefnyddio seren fel nod chwilio; er enghraifft, bydd jon* yn cynhyrchu canlyniadau sy'n cynnwys 'Jones'.
- Ni chefnogir chwilio Boolean (e.e. A / NEU / NID).
- Os newidiwch chi iaith y rhyngwyneb rhwng Gymraeg a Saesneg yn ystod chwiliad, mae hi'n bosibl i chi golli eich canlyniadau chwilio.
Sut mae fy nghanlyniadau chwilio'n cael eu harddangos?
Mae eich canlyniadau chwilio yn ymddangos ar dudalen dros dro 'Canlyniadau chwilio', wedi eu trefnu yn ôl cyfenw neu ffugenw, gyda phob canlyniad yn dangos darn o'r erthyglau, y pennawd fel arfer. Lle canfyddir canlyniad o fewn erthygl ond nid yn y pennawd, dangosir darn perthnasol yr erthygl.
Arddangosir y wybodaeth ganlynol ar ben y rhestr 'Canlyniadau chwilio':
faint o erthyglau sy'n cynnwys eich term chwilio
cadarnhâd o'ch term chwilio a pha fath o chwiliad 'rydych chi wedi ymgymryd ag ef
nifer y canlyniadau a arddangosir ar y dudalen bresennol
Pan geir nifer fawr o ganlyniadau chwilio, cânt eu harddangos dros nifer o dudalennau. Dangosir y nifer mewn rhes o flychau petrual bach yn syth o dan y rhestr, gyda rhif 1 wedi ei oleuo i ddangos eich bod chi ar dudalen 1 o'r canlyniadau.
I symud rhwng y tudalennau yma, cliciwch ar y rhifau yn y blychau i fynd i'r tudalennau cysylltiedig, neu - lle ceir nifer fawr o dudalennau - ar y saeth/au sy'n ymddangos yn y blwch/blychau olaf ond un i ddynodi'r dudalen nesaf neu'r dudalen flaenorol.
Cewch ddewis i arddangos 12, 24 neu 48 o ganlyniadau ar bob tudalen. Cliciwch ar y botwm 'Opsiynau Arddangos' yn y gornel uchaf ar ochr dde'r dudalen a defnyddiwch y fwydlen 'dropdown' i newid y nifer o ganlyniadau a arddangosir ar bob tudalen.
Perthnasedd canlyniadau chwilio
Trefnir canlyniadau yn ôl perthnasedd, sy'n golygu y rhoddir pwys i nifer y canlyniadau ymhob erthygl, a hefyd pwysigrwydd enwau sy'n ymddangos mewn penawdau dros bwysigrwydd y rhai sydd ond yn ymddangos yng nghorff erthyglau. Beth bynnag, mae'r ystyriaethau hyn yn gallu gwrthdaro â'i gilydd, a mae sawl enw yn ymddangos fel cyfenw a hefyd fel enw blaen (a hefyd mewn cyfenwau nad ydynt yn derfynol, a mewn cyfenwau dwbl), felly mae hi'n bosibl na fydd y canlyniadau yn cael eu blaenoriaethu fel y byddwch chi'n disgwyl. Gobeithiwn i wella hyn yn y dyfodol.
I weld erthygl, cliciwch ar y ddolen sydd wedi cael ei goleuo.
Sut alla i fireinio fy chwiliad?
Cewch fireinio eich chwiliad mewn pedair ffordd:
Chwilio o fewn canlyniadau eich chwiliad diweddaraf trwy ychwanegu testun ato.
Cofiwch y gallwch chi ddefnyddio seren fel nod chwilio (gweler 'Sut alla i chwilio'r Bywgraffiadur?' uchod), yn ogystâl ag ychwanegu rhagor o dermau chwilio.
Defnyddio'r hidlau penodol ar ochr chwith y sgrin, sy'n cynnwys:
- Rhyw (cewch gyfyngu canlyniadau i erthyglau am ddynion neu wragedd)
- Awdur (cewch gyfyngu canlyniadau i awduron penodol yr erthyglau)
- Categori (cewch gyfyngu canlyniadau gan ddefnyddio allweddeirau penodedig sy'n dynodi meysydd gweithgareddau pobl yn y Bywgraffiadur)
- Iaith Erthygl (cewch gyfyngu canlyniadau i erthyglau a ysgrifennwyd yn Gymraeg neu yn Saesneg)
- D.S. Bwriad y safle yw i fod yn gwbl ddwyieithog, ond nid yw rhai o'r erthyglau ond ar gael mewn un iaith, a gall union gynnwys rhai erthyglau amrywio rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Mae'r rhif sy'n ymddangos mewn cromfachau ar bwys pob hidlwr yn dangos faint o ganlyniadau sydd wedi cael eu darganfod ar gyfer y term hwnnw.
Dewiswch opsiynau hidlo trwy glicio arnynt. Mae tic yn ymddangos yn y blwch ar y chwith i ddangos bod opsiwn hidlo wedi cael ei ddewis. Cewch fireinio eich chwiliad ymhellach trwy ddewis mwy nag un hidlwr a mwy nag un opsiwn tu fewn iddynt. I ddileu hidlwr, cliciwch eto i ddileu'r tic. Cewch glirio pob un o'r hidlau a ddewisoch ar unwaith trwy glicio ar y botwm 'Ailosod' ar ben y rhestr.
Chwilio o fewn y canlyniadau sydd gennych chi yn barod trwy ddefnyddio hidlwr pellach.
Mae yna blwch testun ar ben pob hidlwr yn dangos testun (e.e. 'Hidlo Categori'). Cewch ddefnyddio'r blwch hwn i chwilio o fewn y canlyniadau sydd gennych chi yn barod, er mwyn peidio â gorfod sgrolio trwy restr hir o ganlyniadau. Gweithredir y chwiliad hwn yn syth wrth i chi ddechrau teipio term sy'n ymddangos yn eich canlyniadau, a fe gaiff ei ddileu pan ddilewch chi'r testun yn y blwch. Nodwch, os gwelwch yn dda, na fydd y safle ond yn darganfod termau sydd yn y gronfa ddata.
Dewis trefn arddangos eich canlyniadau.
I ddidoli eich canlyniadau chwilio yn ôl enw mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol, cliciwch ar y botwm 'Opsiynau Arddangos' ar ben y rhestr o'ch canlyniadau chwilio, a dewiswch 'Esgynnol' neu 'Disgynnol'.
I ddidoli eich canlyniadau yn ôl perthnasedd, cliciwch ar y botwm 'Opsiynau Arddangos' ar ben y rhestr o'ch canlyniadau chwilio, a dewiswch 'Sgôr'. Am ragor o wybodaeth am berthnasedd, gweler 'Sut mae fy nghanlyniadau chwilio yn cael eu harddangos?' uchod.
Sut alla i bori'r Bywgraffiadur?
Cewch bori pob erthygl ar y safle trwy ddefnyddio'r rhestr A-Z o erthyglau. Gellir darganfod hon mewn tair man:
trwy glicio ar 'Pori' ar ben unrhyw dudalen
o dan 'Rhestr Enwau' yng nghanol y dudalen Cartref
o dan 'Rhestr Enwau' ar ben y dudalen sy'n agor pan gliciwch chi ar un o'r llythrennau
Cliciwch ar lythyren i weld rhestr o erthyglau ar gyfer enwau a ffugenwau personol sy'n cychwyn gyda'r llythyren honno, ac yna cliciwch ar yr enwau sy'n cael eu goleuo er mwyn agor erthyglau unigol.
Am resymau technegol, rhestrir erthyglau yn ôl trefn yr wyddor Saesneg yn hytrach na threfn yr wyddor Gymraeg.
Sut mae erthyglau'n cael eu harddangos?
I weld erthygl, cliciwch ar y ddolen sy'n cael ei goleuo.
Os ydych chi wedi darganfod yr erthygl trwy ddefnyddio term chwilio, caiff eich term chwilio ei oleuo o fewn testun yr erthygl.
Cewch ddychwelyd at eich canlyniadau chwilio o du fewn i erthygl trwy glicio ar 'Canlyniadau' ar ben y dudalen ar yr ochr chwith.
Pan agorwch chi erthygl, trefnir y wybodaeth ynddi fel a ganlyn:
pennawd sy'n dangos enw, dyddiadau a swyddogaeth/au'r person
blwch crynodeb sy'n rhoi manylion pellach, yn cynnwys perthnasau teuluol, awdur yr erthygl, ac ati
prif destun yr erthygl, yn cynnwys disgrifiad bywgraffyddol, gyda dolenni clicadwy, wedi'u goleuo, i bobl perthynol yn y Bywgraffiadur
enw Awdur yr erthygl
rhestr o'r Ffynonellau a ddefnyddiwyd yn yr erthygl – os crewyd y rhain ar ôl dyddiad yr erthygl wreiddiol, mae hyn yn ganlyniad i benderfyniad golygyddol i ychwanegu cyfeiriadau at weithiau perthnasol a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, yn ogystâl â ffynonellau pwysig na chymeradwywyd yn wreiddiol gan yr awdur.
gwybodaeth am Ddarllen Pellach, Dolenni Ychwanegol, Delweddau, ac ati, sy'n cynnwys deunydd perthynol mewn fformatiau amryw o gatalog LlGC a ffynonellau allanol ar y we
Dyddiad cyhoeddi'r erthygl
dolen i wybodaeth am Hawlfraint Erthygl
Lle mae erthygl wedi cael ei chywiro, gellir gweld y cywiriadau trwy glicio ar y botwm 'Cywiriadau' ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith.
Lle mae cynnwys erthygl wedi cael ei ddiwygio'n sylweddol ar ôl cyhoeddi, dangosir 'Erthygl a archifwyd', fel bod modd gweld y fersiwn wreiddiol a'r fersiwn ddiwygiedig ochr yn ochr â'i gilydd.
Sut alla i wneud copïau o erthyglau?
I greu copi PDF o erthygl, agorwch yr erthygl a chliciwch ar y botwm 'PDF' sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar ben ac ar waelod y dudalen fel ei gilydd. Bydd hyn yn creu ac yn agor copi PDF y gallwch chi ei argraffu a/neu ei safio i'ch peiriant eich hun.
Mae yna ddwy ffordd i argraffu erthygl:
Agor yr erthygl, clicio ar y botwm 'Argraffu' sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar ben ac ar waelod y dudalen fel ei gilydd, a dilyn y cyfarwyddiadau i argraffu.
Creu ac agor copi PDF o'r erthygl, ac yna clicio ar eicon yr argraffydd.
Sut alla i gyfeirnodi erthygl?
I gyfeirnodi erthygl (e.e. ar gyfer ymchwil a chyhoeddiadau ysgolheigaidd), agorwch yr erthygl a chliciwch ar y botwm 'Cyfeirnodi' sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar ben ac ar waelod y dudalen fel ei gilydd. Bydd hwn yn agor pop-yp gyda chyfeiriad swyddogol y gellir ei lawrlwytho. I safio'r cyfeiriad, cliciwch ar y botwm 'Copïo i'r clipfwrdd', ac yna pastiwch y cyfeiriad i mewn i ddogfen ar eich peiriant eich hun yn y modd arferol (e.e. pastio i ddogfen Word gan ddefnyddio CTRL+V).
Pwy biau hawlfraint yn y Bywgraffiadur?
Amddiffynnir pob elfen data yn y Bywgraffiadur gan hawlfraint, yn cynnwys yr erthyglau bywgraffyddol a phob agwedd o'r wefan ei hun. Mae hawlfraint yn caniatau defnyddio data o'r safle mewn rhai ffyrdd, ond bydd angen caniatâd deiliaid hawlfraint i ddefnyddio'r data mewn ffyrdd eraill. Am fanylion pellach, cliciwch ar y ddolen 'Hawlfraint' ar waelod unrhyw dudalen. Mae deiliaid hawlfraint ar safle'r Bywgraffiadur yn cynnwys awduron yr erthyglau, eu hetifeddion a'u haseinïaid cyfreithiol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion.
Sut alla i rannu erthygl neu dudalen?
I rannu erthygl neu dudalennau eraill o'r safle, cliciwch ar yr eicon 'Rhannu' ar ben unrhyw dudalen ac yna dewis i rannu ar Trydar, Facebook neu Google+.
Pam na alla i ddarganfod y person 'rydw i'n chwilio amdano/i?
Os na allwch chi ddarganfod person arbennig, mae hi'n werth ystyried y canlynol:
Ydych chi wedi ceisio defnyddio fersiynau gwahanol a sillafiadau gwahanol o'r enw?
Ydy'r person wedi marw? A farwon nhw mwy na thair neu bedair blynedd yn ôl?
Ydy'r person yn aelod o ryw grwp sydd wedi cael ei dangynrychioli'n hanesyddol (e.e. gwragedd, lleiafrifoedd ethnig, ac yn y blaen)? Rydym yn gweithio i gywiro hyn.
Ydy'r person yn syrthio o fewn meini prawf y Bywgraffiadur? Dangosir y rhain ar dudalen 'Cefndir y Bywgraffiadur Cymreig', y gellir ei chyrraedd trwy glicio ar ddolen 'Y Prosiect' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i weld yr erthyglau diweddaraf?
Mae detholiad o erthyglau diweddar yn ymddangos mewn blwch yn y gornel isaf ar ochr dde'r dudalen Cartref. I weld rhagor, cliciwch ar 'Gweld rhagor o erthyglau newydd' ar waelod y blwch.
Beth ydy Erthygl y mis?
Dewisir erthygl newydd neu amserol bob mis i ymddangos yn y gornel isaf ar y chwith ar y dudalen Cartref. I weld yr erthygl lawn, cliciwch ar y botwm 'Darllen Mwy'.
Sut alla i ddarganfod pob erthygl a ysgrifennwyd gan un awdur arbennig?
I weld pob erthygl a ysgrifennwyd gan un awdur arbennig, cliciwch ar 'Awduron A-Z' ar ben unrhyw dudalen. Mae hyn yn agor rhestr yn nhrefn yr wyddor o bob awdur yn ôl cyfenw. Cewch bori'r rhestr trwy glicio ar y llythyren berthnasol; nid yw'n bosibl i weld canlyniadau ar gyfer mwy nag un llythren o'r wyddor ar un waith. I weld erthyglau'r awdur dan sylw, cliciwch ar y ddolen sydd wedi cael ei goleuo. Byddwch chi'n gallu mireinio eich chwiliad yn bellach wedyn trwy ddefnyddio hidlau ar erthyglau'r awdur yn ôl Rhyw, Categori a/neu Iaith Erthygl; am ragor o wybodaeth am hidlau, gweler 'Sut alla i fireinio fy chwiliad?' uchod.
Sut alla i awgrymu cywiriadau neu ychwanegiadau at erthyglau, neu adrodd camgymeriadau ffeithiol?
I adael i ni wybod am gywiriadau, ychwanegiadau neu gamgymeriadau, cysylltwch â ni trwy glicio ar y ddolen 'Cysylltu' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i enwebu person fel testun erthygl fywgraffyddol?
I enwebu person fel testun erthygl, cysylltwch â ni trwy glicio ar y ddolen 'Cysylltu' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i ddarganfod y canllawiau ar gyfer awduron erthyglau?
I weld y canllawiau ar gyfer awduron erthyglau yn y Bywgraffiadur, cliciwch ar ddolen 'Y Prosiect' ar waelod unrhyw dudalen, ac yna sgrolio i lawr a dilyn y ddolen 'Canllawiau i awduron' a oleuir yn y testun.
I awgrymu awdur ar gyfer erthygl, cysylltwch â ni trwy glicio ar y ddolen 'Cysylltu' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i weld rhestr o erthyglau ar ddod?
I weld rhestr o erthyglau ar ddod, ewch i'r blwch 'Erthyglau Newydd' yn y gornel isaf ar ochr dde'r dudalen Cartref, cliciwch ar 'Gweld rhagor o erthyglau newydd' ar waelod y blwch, ac yna ewch i waelod y 'Rhestr o erthyglau a ychwanegwyd yn ddiweddar' a chlicio ar 'Erthylau ar ddod'.
Sut alla i ddarganfod mwy am y Bywgraffiadur?
I ddarganfod mwy am y Bywgraffiadur, yn cynnwys cefndir y prosiect a'r math o wybodaeth y cewch ddisgwyl ei chael yn yr erthyglau bywgraffyddol, cliciwch ar y ddolen 'Mwy am y prosiect' yng nghanol y dudalen Cartref, neu ar ddolen 'Y Prosiect' ar waelod unrhyw dudalen.
Ble alla i ddarganfod rhestr o aelodau'r Bwrdd Ymgynghorol?
I weld rhestr o aelodau Bwrdd Ymgynghorol y Bywgraffiadur Cymreig, cliciwch ar ddolen 'Y Prosiect' ar waelod unrhyw dudalen, ac yna scrolio i lawr a dilyn y ddolen 'Bwrdd Ymgynghorol' a oleuir yn y testun.
Sut alla i ddarganfod noddwyr y prosiect?
Ceir pedwar eicon clicadwy yn y gornel isaf ar y dde ar unrhyw dudalen, bob un ohonynt yn cysylltu â gwefan un o'r pedwar sefydliad sydd yn noddi'r prosiect:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Llywodraeth Cymru
Sut alla i ddarganfod polisi'r wefan ar gyfer preifatrwydd a chwcis?
Daw preifatrwydd a chwcis ar y safle hon o dan bolisïau perthnasol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y gellir eu gweld trwy glicio ar y ddolen 'Preifatrwydd a chwcis' ar waelod unrhyw dudalen.
Sut alla i weld ffrwd Trydar y Bywgraffiadur?
Cewch weld ffrwd Trydar y Bywgraffiadur trwy glicio ar eicon Trydar yn y gornel uchaf ar y dde ar unrhyw dudalen.
Sut alla i gysylltu â'r Bywgraffiadur?
Os nad yw'r dudalen Cymorth hon yn ateb eich ymholiad, cewch gysylltu â ni trwy glicio ar y ddolen 'Cysylltu' ar waelod unrhyw dudalen gydag ymholiadau neu sylwadau am unrhyw agwedd o'r Bywgraffiadur.