Cyhoeddir gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac fe'i cefnogir gan Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'r sefydliadau hyn yn cydnabod pwysigrwydd cenedlaethol yr adnodd, ond mae datblygiad parhaus Y Bywgraffiadur Cymreig yn dibynnu ar gymorth ariannol ychwanegol. Mae mynediad i'r wefan yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau'r mynediad ehangaf posibl, ond ar hyn o bryd nid oes gwarant o ffrwd incwm ac ni dderbynnir grantiau cymorth.
Ysgrifennir yr erthyglau yn wirfoddol, ond mae dal angen gwneud tipyn o waith i gomisiynu, golygu a digido'r holl gynnwys. Rydym felly’n cynnal ymgyrch codi arian i dalu cyfran o'r costau.
Byddai eich nawdd i’r Bywgraffiad Cymraeg yn ein galluogi i gynnal a datblygu'r adnodd, gan gynnwys:
Cynyddu nifer yr erthyglau ar gyfraniadau unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, yn arbennig menywod a phobl Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol
Ychwanegu at y cynnwys mewn meysydd fel busnes, gwyddoniaeth a chwaraeon
Ffwythiannau pellach i’r wefan er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr sy'n chwilio am wybodaeth am orffennol Cymru
Rydym yn anelu at godi £60,000 y flwyddyn i benodi swyddog i ddatblygu'r adnodd a'r gwaith cynnal a chadw technegol.
Mae'n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi gwerth yr adnodd hwn i bobl Cymru, a byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud i'w ddatblygu. Wrth gwrs, bydd yr holl nawdd yn cael ei gydnabod ar ein gwefan, mewn digwyddiadau hyrwyddo a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech drafod ymhellach, byddem yn hapus iawn i gwrdd â chi i egluro ein cynlluniau yn fwy manwl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r Bywgraffiadur Cymreig ewch i'n tudalen paypal. Os hoffech chi drafod noddi ymhellach, cysylltwch â'r Golygydd, Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston