Canlyniadau chwilio

1657 - 1668 of 1877 for "Mai"

1657 - 1668 of 1877 for "Mai"

  • TREHERNE, GEORGE GILBERT TREHERNE (1837 - 1923), hynafiaethydd . Gan mai â stadau mawrion yn ne-orllewin Cymru yr oedd a fynnai llawer o'i waith fel cyfreithiwr, atynwyd ef at hanes a hynafiaethau'r wlad honno; a thyfodd yn awdurdod ar dref Talacharn a'i hamgylchedd - ymddiddorai'n neilltuol yn eglwys Cymyn; darganfu yno'r arysgrif Ladin ac Ogam enwog ' Avitoria ' (An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. Vol. V - County of Carmarthen, 40
  • teulu TREVOR Brynkynallt, garedigrwydd gan ei ewythr Arthur Trevor (uchod), a'i paratôdd ar gyfer mynd i'r Middle Temple (Tachwedd 1654); oddi yno galwyd ef i'r Bar ym mis Mai 1661. Chwe blynedd yn ddiweddarach aeth gyda'i berthynas o'r un enw, a ddaeth yn ysgrifennydd y Wladwriaeth (bu farw 1672), ar neges lys-genhadol i Ffrainc. Gwnaethpwyd ef yn farchog, 29 Ionawr 1671, ac yn 1673 aeth i'r Senedd, gan eistedd dros fwrdeisdrefi
  • teulu TREVOR Trefalun, Plas Teg, Gymraeg (a ddyfynnir gan A. N. Palmer yn Gresford, 101). Y mae'n debyg mai brawd oedd RICHARD TREVOR (bu farw 1614), aelod o Doctors' Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5). Mab hynaf John Trevor oedd Syr RICHARD TREVOR (1558 - 1638), milwr, gwleidyddwr a gweinyddwr yn Iwerddon Milwrol Gwleidyddiaeth a
  • TREVOR, Syr CHARLES GERALD (1882 - 1959), arolygydd coedwigoedd enillodd amryw wobrau. Yr oedd yn aelod blaenllaw o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac yn flaengar gyda phob gweithgaredd amaethyddol. Am 17 mlynedd gwasanaethodd fel ynad heddwch, ac ef oedd Uchel Siryf ei sir yn 1941. Yn 1912 priododd ag Enid Carroll Beadon a bu iddynt dair merch. Bu farw 20 Mai 1959.
  • TREVOR, JOHN (bu farw 1410), esgob Llanelwy dechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr, gwelwyd ef yn ddirprwy 'r tywysog Harri, a ddaeth wedyn yn Harri V. Ond yn sydyn, tua diwedd y flwyddyn ddilynol, penderfynodd ymuno ag Owain Glyndŵr. Er bod ffeithiau ei fywyd yn awgrymu mai Eglwyswr hunangeisiol, nodweddiadol o'i oes, ydoedd, rhaid cofio iddo, cyn iddo ymuno â'r achos gwladgarol, brotestio'n aflwyddiannus yn y Senedd yn erbyn y driniaeth drahaus a
  • TREVOR, JOHN (bu farw 1357), esgob Llanelwy Ni wyddys fawr ddim amdano, a phrif amcan y nodyn hwn yw rhagflaenu'r duedd gyffredin iawn i'w gymysgu â John Trevor II. Y mae'n bur amlwg mai 'dringwr' ydoedd. Yn llys y pab yn Avignon y clywir gyntaf amdano - yn 1343, pan gafodd ganiatâd i ddal canoniaeth ym Mangor ar yr un pryd â chanoniaeth yn Llanelwy - cafodd yn 1344 chwanegu prebend yn Llanelwy. Ar farw Dafydd, esgob Llanelwy, bwriadai'r
  • TROY, BLANCHE HERBERT (Y FONESIG TROY), (bu farw tua 1557), gofalwraig magwraeth Elisabeth I, Edward VI a'r Frenhines Mari , trwy drwydded 21 Mai 1545; mab oedd hwnnw i Mary Boleyn ac felly'n gefnder i'r Frenhines Elisabeth, neu efallai'n hanner-brawd iddi gan i Mary fod yn wraig ordderch i Harri VIII. Disgynyddion Robert yw cangen hŷn teulu Whitney'r UDA). Ailbriododd Blanche rywbryd rhwng Gorffennaf 1500 ac Awst 1502, yn ail wraig William Herbert o Troy Parva, mab i Syr William Herbert, Iarll Penfro, ac un o'i
  • TRUBSHAW, Dâm GWENDOLINE JOYCE (1887 - 1954), gweinyddwr cyhoeddus a gweithiwr cymdeithasol; . Urddwyd hi yn D.B.E. yn 1938. Er mai Cae Delyn, Llanelli, oedd ei chartref, yn Llundain y bu farw, 8 Tachwedd 1954.
  • TUDUR ALED (fl. 1480-1526), bardd Ganwyd ym mhlwyf Llansannan. Ceir llawer o gopïau o'i ach yn y llawysgrifau, ond ysywaeth, y mae ychydig amrywiadau ynddynt. Ymddengys mai enw ei dad oedd Robert ac mai enw ei daid oedd Ithel a'u bod hwy'n ddisgynyddion i Lywelyn Chwith; dywed Huw ap Dafydd yn ei farwnad i Tudur Aled - ' Ail Iolo, o Lywelyn, Ag o du'r Chwith, gwenith gwyn ' (G.T.A., ii, 728). Ar ochr ei dad, felly, yr oedd y
  • TURBERVILLE, EDWARD (c. 1648 - 1681), cam-dyst ('informer') Dywedir fod ei dad yn hanfod o'r Sger, gerllaw Porthcawl, Sir Forgannwg, eithr nid ef bioedd y stad, gan mai teulu Loughor oedd perchenogion honno y pryd hwnnw. Rhydd y D.N.B. fanylion gweddol lawn am ei yrfa anghlodforus. Daeth i'r amlwg mewn modd neilltuol ym mlynyddoedd y 'Popish Plot'; ar wahân i'w ddechreuad nid oedd ond ychydig gysylltiad rhyngddo a Chymru. Bu farw 18 Rhagfyr 1681.
  • TURNER, MERFYN LLOYD (1915 - 1991), diwygiwr cymdeithasol ac awdur math. Rhannu bywyd fel teulu oedd yr allwedd i lwyddiant Norman House, a phrif nod y fenter oedd cynnig amgylchedd diogel a sefydlog i'r dynion er mwyn iddynt allu ailsefydlu eu hunain yn y gymdeithas. Adlewyrchai hyn gred ganolog Turner mai amodau cymdeithasol, emosiynol a theuluol difreintiedig oedd yn arwain at y mwyafrif o droseddau yn hytrach nag unrhyw fath o ddrygioni cynhenid: 'No man is born
  • TURNOR, DAVID (1751? - 1799), clerigwr a diwygiwr amaethyddol Mab John Turnor, Crugmawr, Llangoedmor (a fu farw 1775), o'i wraig Margaret Gyon, merch Ffynnon Coranau, Sir Benfro. Addysgwyd ef yn Rhydychen (ymaelodi yn Christ Church, 22 Mai 1767, yn 16 oed, B.A. 1771, M.A. yng Nghaergrawnt) a'i ordeinio'n ddiacon 7 Mawrth 1773, ac yn offeiriad, 21 Medi 1774. Bu'n gurad Penbryn a Betws Ifan, Sir Aberteifi, caplan i iarll Cawdor, rheithor Rudbaxton, 1790-7