Canlyniadau chwilio

757 - 768 of 1877 for "Mai"

757 - 768 of 1877 for "Mai"

  • JONES, Syr THOMAS (bu farw 1622?), clerigwr a bardd fe welir nad yw'r dyddiadau uchod yn gwahardd credu hynny. Bernir hefyd (G. J. Williams, loc. cit.) mai ef a wnaeth y gwndid (Llanover MS. 23) sy'n dechrau 'Nid llai'n beie na'n pechode' (gweler Hen Gwndidau, 281), y mae ei hawdur yn ei alw ei hunan yn 'fab hen brelad sydd offeyriad.' Ond ni ellir bod yn sicr o hyn, gan fod rhyw Thomas Jones arall cyfoes yn ficer Llanarth gyfagos (Mehefin 1589
  • JONES, BENJAMIN (1865 - 1953), canghellor eglwys gadeiriol Bangor Ganwyd ym Minffordd, Llangeinwen, Môn, 17 Mai 1865, yn fab i was fferm o'r enw Thomas Jones, a'i wraig Ann (ganwyd Williams). Wedi cyfnod yn ddisgybl-athro yn ysgol S. Paul, Bangor, penderfynodd fynd yn offeiriad. Addysgwyd ef, 1889-90, yn ysgol ddiwinyddol Bangor (dan nawdd hostel yr eglwys, lle ceid hyfforddiant mewn darllen, pregethu, ymweld, etc.), ac yn 1890 ymaelododd ym Marcon's Hall
  • JONES, BENJAMIN MAELOR (1894 - 1982), addysgwr ac awdur Meirionnydd a thu hwnt. Bu'n gyfarwyddwr addysg doeth, effeithiol a phoblogaidd. Roedd yn berson hynaws a mawrfrydig ac yn gwmnïwr a storïwr diddan. Priododd yn 1930 â Magdalen Mary Jones (bu hi farw 11 Mai 1972) o Uwchmynydd, ger Aberdaron, Sir Gaernarfon, a oedd yn nyrs yn Llundain ar y pryd. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw ar 13 Ionawr 1982 yn 87 oed yn Hywyn, ei gartref yn Nolgellau, ac amlosgwyd ei
  • JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd Ganwyd Mai 1783 yn y Deildre Uchaf, Llanuwchllyn, unig blentyn John a Dorothy Cadwaladr. Ni bu ei rieni erioed yn perthyn i'r Ymneilltuwyr ac nis cyfrifid yn grefyddwyr amlwg - at yr Eglwys Sefydledig y gogwyddent. Yr oedd ef yn 11 oed pan ddaeth Dr. George Lewis yn weinidog i Lanuwchllyn, ac ef a'i derbyniodd yn aelod yn yr Hen Gapel yn 1803. Dechreuodd bregethu yn 1806, a derbyniwyd ef yr un
  • JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (Cynan; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr yr Orsedd a'i chyswyllt â'r derwyddon, gan gydnabod yn agored mai dyfais a chreadigaeth Iolo Morganwg ydoedd. Llwyddodd i gael llawer o aelodau newydd, ac yn eu plith rai gwŷr academig. Yn 1935 dechreuwyd ar yr addrefnu a ddug i fod Lys a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu i Cynan ran amlwg yn y gwaith. Yn 1967 etholwyd ef yn llywydd y Llys. Bu'n amlwg iawn hefyd fel cystadleuydd yn yr
  • JONES, DAFYDD (Dafydd Siôn Siâms; 1743 - 1831), cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr Bedyddiwyd 5 Mai 1743 yn eglwys Llandanwg, Sir Feirionnydd, mab John a Gwen James. Bu'n byw ym Maentwrog, lle y priododd ei wraig gyntaf, ac ym Mhenrhyndeudraeth (lle yr adeiladodd dy a'i alw'n ' Llundain'). Gofalai am y canu yn eglwys plwyf Llanfrothen ac âi o gwmpas i eglwysi eraill i ddysgu cantorion. Dywedir iddo adael yr Eglwys gan ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd, a gofalu am y canu yn y
  • JONES, DAFYDD RHYS (1877 - 1946), ysgolfeistr a cherddor Mhrydain ac yn athro yn Henffordd. Yr oedd G.J. Williams prifathro ysgol Cwmystwyth (a chefnder i'r Athro Griffith John Williams) wedi ei alw i'r fyddin, a phrifathrawon dros dro yn cymryd ei le. Yn Ionawr 1917 yr oedd Dafydd Rhys yn dechrau ar ail dymor fel prifathro yn ei hen ysgol, a bu yno nes i'r prifathro parhaol ddychwelyd yn niwedd Ionawr 1920, a thrachefn am rai wythnosau yn Ebrill a Mai wedi i
  • JONES, DANIEL (1771 - 1810), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Undodaidd rhydd-gymunol Ganwyd yn y Drefach (Llangeler) yn 1771. Gan ei fod â llaw gelfydd, prentisiwyd ef gyda gwneuthurwr clociau ac oriaduron, Yr oedd yn aelod gyda Bedyddwyr y Pant Teg gerllaw Castellnewydd Emlyn; dechreuodd bregethu a bu yn academi'r Bedyddwyr ym Mryste, 1788-92. Galwyd ef i fugeilio'r Pant Teg, ond bu'n well ganddo fynd i eglwys Back Lane, Abertawe. Er mai ymraniad Calfinaidd o Hen Dŷ Cwrdd
  • JONES, DANIEL (1725? - 1806), bardd amheus mai ef a gyfieithodd i'r Gymraeg ran o lyfr y Dr. John Gill Exposition of the Revelation of St. John fel y dywedir yn Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, iii, 67. Yn ôl NLW MS 325E (39) 'roedd dros ei 80 mlwydd oed pan fu farw tua diwedd 1803, ond yn ôl cofnodion swyddogol Esgobaeth Llanelwy ar 10 Mawrth 1806 y claddwyd ef o'r elusendy yn Rhiwabon.
  • JONES, DANIEL (1908 - 1985), gwleidydd Llafur Ganwyd ef yn Danos Jones yn y Porth yng nghwm Rhondda ar 26 Medi 1908, yn fab i Daniel Jones, glöwr (Mae un ffynhonnell yn dweud mai yn Ystradgynlais y ganwyd ef). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Ynyshir a Chyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur. Gweithiodd fel glöwr, 1920-32, dioddefodd gyfnod o ddiweithdra, 1932-36, ac bu'n beiriannydd o fewn y diwydiant awyrennau ar ôl 1936. Dyfarnwyd y BEM iddo
  • JONES, DANIEL JENKYN (1912 - 1993), cyfansoddwr , bu'n dadgodio negeseuon cryptig yn Bletchley. Perfformiwyd simffoni gyntaf Daniel Jones yn 1945, ac ystyrir mai hon oedd y simffoni gynharaf o bwys gan gerddor Cymreig. Yn 1950 enillodd Wobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol am ei Prologue i gerddorfa, ac yn 1954 ef a gyfansoddodd y gerddoriaeth i gyd-fynd â'r darllediad clasurol o Under Milk Wood. Ymddiddorodd yn fawr mewn strwythurau a phatrymau
  • JONES, DANIEL OWEN (1880 - 1951) Madagascar, gweinidog (A) a chenhadwr ac ysgol. Priododd 1 Mai 1912 yn Eglwys Goffa Faravohitra, Antananarivo â Hilda Victoria Smith, aelod o Eglwys Loegr yn Watford, a hwyliasai allan ym Mawrth i'w briodi. Bu iddynt bedair merch. Symudwyd ef i Ambopotsy yn 1915 i ofalu am gylch eang o eglwysi a darlithio dri bore o'r wythnos yn y Coleg Diwinyddol Unedig. Daeth ei seibiant cyntaf yng Nghymru ar ben deng mlynedd. Wedi iddo ddychwelyd