Canlyniadau chwilio

2185 - 2196 of 2571 for "john hughes"

2185 - 2196 of 2571 for "john hughes"

  • THOMAS, DEWI-PRYS (1916 - 1985), pensaer Ganwyd Dewi-Prys Thomas ar 5 Awst 1916 yn ardal Toxteth Park, Lerpwl, plentyn hynaf Adolphus Dan Thomas (1889-1974), swyddog undeb y gweithwyr banc, a'i wraig Elysabeth (Lys) Watkin Thomas (g. Jones, 1888-1953). Ganwyd ei chwaer Rhiannon ('Nannon') Prys Thomas yn 1919. Roedd yr hanesydd Robert John Pryse ('Gweirydd ap Rhys', 1807-1889) yn hen daid iddo. Sylwer mai yn ddiweddarach y mabwysiadodd
  • THOMAS, DYLAN MARLAIS (1914 - 1953), bardd a llenor Ganwyd Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, ar 27 Hydref 1914, yn fab i David John Thomas (1876-1952) a'i wraig Florence Hannah (ganwyd Williams, 1882-1958), y ddau o gefndir Cymraeg gwledig yn Sir Gaerfyrddin, y naill o ogledd y sir a'r llall o'r de-orllewin. Cymraeg a siaradai'r tad a'r fam â'i gilydd, ond penderfynodd y tad (gŵr gradd o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gydag
  • THOMAS, DYLAN MARLAIS (1914 - 1953) Ganwyd 27 Hydref 1914 yn Abertawe, yn fab i David John Thomas a'i wraig Florence Hannah (ganwyd Williams); hanent ill dau o dras gwledig a Chymraeg yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Bu'r tad, a oedd yn nai i Gwilym Marles, yn athro Saesneg yn ysgol ramadeg Abertawe o 1899 hyd 1936, a bu Dylan Thomas yn ddisgybl yno o 1925 hyd 1931. Dyna oedd yr unig gyfnod o addysg ffurfiol a gafodd. Aeth
  • THOMAS, EDWARD (Cochfarf; 1853 - 1912) a oedd yn trefnu i John Hobson Mathews weithio ar ddogfennau swyddogol Caerdydd. Câi materion ynglŷn â Llyfrgell Rydd Caerdydd lawer o'i sylw hefyd; ysgrifennai yn aml i'r Wasg leol ac i gyfnodolion. Yr oedd yn Fedyddiwr ac yn Rhyddfrydwr, a bu'n ymladd yn gryf o blaid datgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys Sefydledig. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Custom House Street Coffee Tavern y ffurfiwyd
  • THOMAS, EDWARD (1925 - 1997), paffiwr a hyfforddwr hynod o lwyddiannus a gwr cyhoeddus ym mywyd Merthyr Tudful ). Ganwyd iddynt chwech o feibion, Idris, Evan John, Edward, Urias (Hugh), Ronald a Cyril. Bu pump o'r brodyr yn frwd dros baffio, a gweithiodd pob un ohonynt am gyfnodau fel glowyr. Addysgwyd Eddie yn Ysgol Gynradd Heolgerrig, un o ardaloedd Cymreicaf bwrdeisdref Merthyr, ac yn ei blentyndod adnabyddid ef fel bachgen oedd yn chwaraewr da ym myd pêl-droed a bocsio ac yn canu yng Nghôr Eglwys Anglicanaidd
  • THOMAS, EVAN (Ieuan Fardd Ddu; 1733 - 1814), argraffydd a chyfieithydd Mab John Abel (neu John Thomas) a oedd yn fab i Thomas Abel o'r Wtra Wen ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn. Argraffydd oedd wrth ei alwedigaeth, a chan ei fod hefyd yn ysgolhaig Cymraeg da yr oedd galw mawr am ei wasanaeth mewn argraffdai Seisnig lle'r argreffid llyfrau Cymraeg. O Amwythig, lle y gweithiai yn 1765, symudodd i Gaer; yna, tua 1767, i Gaerfyrddin lle'r arhosodd am rai
  • THOMAS, EVAN CAMBRIA (1867 - 1930), meddyg ac arloeswr iechyd cyhoeddus Ganwyd Evan Cambria Thomas ar 28 Mawrth 1867 yn Nhŷ Coch, Llanarth, Ceredigion, yr olaf o chwech o blant Capten Evan Thomas (1825-1900), morwr yn y gwasanaeth masnachol, a'i wraig Emma Jones (1824-1871), tafarnwraig y Llew Coch, Llanarth. Mynychodd Ysgol Llanarth o 1872 o dan hyfforddiant John Edward Rees (1854-1912), Athro Ysgol Ardystiedig. Derbyniwyd ef yn 1883 i astudio meddygaeth yn Ysgol
  • THOMAS, EVAN (c. 1710 - c. 1770), bardd a chrydd William Hughes Griffiths, Llandysiliogogo, ac ymgymerodd ' Brutus ' ag ysgrifennu rhagymadrodd. Yn y mesurau rhydd y canai gan amlaf. Mae ei destunau yn werinaidd-gymdeithasol, a gwelir olion y baledi ar ei ganu. Ni chadwyd ond pump o'i englynion, a thystia'r rheini na feistrolodd mo grefft y gelfyddyd gaeth. Yr oedd yn awdur halsingod hefyd. Cyfarfu Lewis Morris ag ef yn 1761, ac nid oedd y pryd hwnnw
  • THOMAS, FRANCIS (Crythwr Dall o Geredigion; 1726 - 1796) chyhoeddwyd dwy o'i gerddi, ' Cynghor i Fab Ieuanc ' a ' Hanes Cyflwr Dyn yn mhob rhan o'i oes,' gan John Howell ('Ioan Howell') yn Blodau Dyfed, 1824. Bu farw 4 Mawrth 1796 yn Llanwennog.
  • THOMAS, FREDERICK HALL (Freddie Welsh; 1886 - 1927), paffiwr Ganwyd 5 Mawrth 1886, ym Mhontypridd, mab i John Thomas o Bontypridd, a Elizabeth Thomas (ganwyd Hall). Cafodd ei addysg yn Long Ashton, Bryste, a dangosai duedd gref anghyffredin at chwaraeon er pan yn ieuanc iawn. Pan yn yr ysgol cipiodd nifer o wobrwyon am baffio, ymaflyd codwm, rhedeg, a neidio. Cafodd ei lwyddiant cyntaf o bwys pan yn 20 oed, pryd y curodd Hock Heyes am gampwriaeth
  • THOMAS, HELEN WYN (1966 - 1989), actifydd heddwch Ganwyd Helen Wyn Thomas ar 16 Awst 1966 yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i John Thomas a'i wraig Janet (g. Jones). Cadwai ei rhieni ddwy siop yn y dref, JDR Thomas ac Y Goleudy. Mynychodd Helen Ysgol Dyffryn Teifi ac wedyn astudiodd hanes yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl graddio, teithiodd Helen i India am chwe wythnos, lle cwrddodd â'r Fam Theresa
  • THOMAS, HUGH (bu farw 1720), herod a hynafiaethydd Mab i William Thomas, masnachwr yn Llundain, o'i wraig Petronilla ferch William Brand, Lincoln's Inn. Fe'i ganwyd 30 Mehefin 1673, yn Fetter Lane, a'i fedyddio 1 Gorffennaf yn S. Dunstans-in-the-West. Yr oedd o hen deulu (Catholig, meddir) yn Llanfrynach gerllaw Aberhonddu, ond yr oedd ei daid, Roger Thomas, wedi gwerthu'r hendre. Sgrifennodd ei hendaid, Thomas ap John (a fu farw 1616 - y mae