Canlyniadau chwilio

2557 - 2568 of 2571 for "john hughes"

2557 - 2568 of 2571 for "john hughes"

  • WYNNE, DAVID (1900 - 1983), cyfansoddwr astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o dan David Evans a John Morgan Lloyd, a graddio'n B. Mus. yn 1928. Er iddo gael Evans a Lloyd yn geidwadol iawn eu hagwedd gerddorol, gwerthfawrogai'r ffaith fod sgoriau o weithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes yn cael eu pwrcasu i lyfrgell y Coleg yn rheolaidd. O 1929 hyd 1960 bu'n athro cerdd yn Ysgol Lewis, Pengam (yr athro cerdd amser llawn
  • WYNNE, ELLIS (1670/1 - 1734), clerigwr a llenor Llanfair-juxta-Harlech. WILLIAM WYNN (1704 - 1761), clerigwr Crefydd Ail fab Ellis Wynne o'r ail wraig. Ganwyd 14 Gorffennaf (a'i fedyddio 15 Gorffennaf) 1704. Cafodd ef ei addysg yng Nghaer dan Dr. Henchman, yn Llanegryn, Sir Feirionnydd, dan John Edwards, 1717-22, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 10 Mawrth 1722/3 hyd Gorffennaf 1726 (B.A. ac M.A.). Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor, 6 Awst 1726, ac yn
  • WYNNE, JOHN (1650 - 1714), anturwr diwydiannol Mab Copa'rleni (y mae sawl ffurf ar yr enw; gweler Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Flintshire, 159-60; tŷ-fferm ' y Gop ' ydyw'r plas heddiw), Trelawnyd, Sir y Fflint. John Wynne hefyd oedd enw ei dad, ei daid, a'i hendaid; yr oedd yr hendaid yn fab i Edward ap John Wynne ap Robert ap Ieuan ap Cynwrig ap Ieuan ap Dafydd ap Cynwrig, o hil Edwin ap Gronw o Degeingl (Powys Fadog, iv
  • WYNNE, JOHN (1667 - 1743), esgob Llanelwy a phennaeth Coleg Iesu, Rhydychen Ganwyd yn 1667 yn fab i Humphrey Wynne, Maes-y-coed, Caerwys, a'i wraig Elizabeth (Wynne, merch John Wynne o Gopa'rleni, Trelawnyd, a'i wraig Catherine Thelwall, Bathafarn, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 369 - yr oedd yr esgob felly'n gyfyrder i'r John Wynne o Gopa'rleni y sonnir amdano yn yr ysgrif o flaen hon). Aeth i ysgolion Llaneurgain a Rhuthyn, ac yn 1682 i Goleg Iesu; graddiodd yn 1685
  • WYNNE, JOHN (1724 - 1801), Meinciwr yn y Deml Ganol - gweler WYNNE, JOHN
  • WYNNE, OWEN (1652 - ?), swyddog yn y gwasanaeth gwladol Ail fab Hugh Gwyn ('Hugh ap John Owen') o'r Waunfynydd, Llechylched, Môn (o hil Hwfa ap Cynddelw, arglwydd Llifon yn y 12fed ganrif), ac Elin ferch Robert ap John ap William o Dre'r-ddolphin. Ymaelododd yn Rhydychen o Goleg Iesu, 10 Gorffennaf 1668, a graddiodd yn 1672; yn ddiweddarach cafodd radd doethur yn y gyfraith ac yn ôl pob tebyg yr oedd yn ddadleuydd yn Doctors' Commons, 10 Ionawr 1694
  • WYNNE, ROBERT (bu farw 1720), clerigwr a bardd ., Fellow of Jesus College, Oxford.' Ceir dwy gerdd gan Robert Wynne, ficer Gwyddelwern, yn Blodeu-Gerdd, 1759, sef 'Haf Gân yn amser Heddwch,' a ysgrifennwyd yn 1712, a 'Marwnad ar ôl y Frenhines Ann' (a fu farw 1 Awst 1714). Ceir englynion beddargraff ganddo - i Huw Morys, 'Siôn Dafydd Lâs,' a John Maesmor o Faesmor; 'Cerdd tros Mr. Andro Thelwall i ofyn Coed att wneythyr certwyn gan ysgwier Salesbyry o
  • WYNNE, WILLIAM (1671? - 1704), hanesydd Un o deulu Wynniaid Garthewin (J. E. Griffith, Pedigrees, 167), cainc iau o Wynniaid Melai (op. cit., 376). Priododd Robert Wynne (bu farw 1682), ail fab i John Wynne o Felai, â Margaret Price, aeres Garthewin, Llanfair Talhaiarn; a phriododd eu mab, Robert Wynne (1636 - 1680), rheithor Llanddeiniolen a Llaniestyn a chanon ym Mangor, â Catherine Madryn, aeres Llannerch Fawr, Llannor. Mab hynaf y
  • WYNNE-FINCH, Syr WILLIAM HENEAGE (1893 - 1961), milwr, tirfeddiannwr Quarter Sessions Records 1541-50 yn 1956. Bu'n llywydd Cymdeithas Hanes sir Gaern. o 1957 hyd ei farw. Cyflawnodd nifer o swyddi eraill ym mywyd gweinyddol a chyhoeddus y sir. Gwnaed ef yn farchog yn 1960 a bu farw 16 Rhagfyr 1961. Priododd yn 1929 â Gladys, merch John J. Waterbury a'i wraig, New Jersey, T.U.A. ond ni bu iddynt blant.
  • teulu YALE Plas yn Iâl, Plas Gronw, ') Caergaint. Ar ôl cael ei ethol yn archesgob Caergaint, 1576, ymgynghorodd Grindal â Yale a William Awbrey ar fater diwygio y llysoedd eglwysig, a phan gymerwyd lle Grindal oddi arno ('sequestration'), bu Yale yn gweinyddu'r holl archesgobaeth hyd adeg ei afiechyd marwol ym mis Tachwedd 1577 pryd y'i dilynwyd gan Awbrey. Y mae'n weddol sicr mai mab anghyfreithlon John Wyn (Yale), aer Plas yn Iâl a brawd
  • YONG, JOHN - gweler MORGAN, JOHN
  • YORKE, PHILIP (1743 - 1804) Erddig, Erthig,, hynafiaethydd Mab hynaf Simon Yorke (bu farw 1767), ŵyr Simon Yorke, Dover, groser cyfanwerthol, a chefnder i'r arglwydd-ganghellor Hardwicke; ganwyd 29 Gorffennaf 1743 yn Erthig, a etifeddasid gan Simon (1732) oddi wrth ei ewythr, John Meller, a brynasai'r stad ar ôl i Josua Edisbury fynd yn fethdalwr. Yr oedd yn fab-bedydd Hardwicke. Wedi iddo fod mewn ysgolion paratoawl yn ymyl Llundain (1758-9), treuliodd