Canlyniadau chwilio

613 - 624 of 2571 for "john hughes"

613 - 624 of 2571 for "john hughes"

  • GLYN, JOHN, deon Bangor - gweler GLYN, WILLIAM
  • GLYN, WILLIAM (1504 - 1558), esgob Bangor; Ganwyd 1504, mab John Glyn, Heneglwys, sir Fôn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Queens', Caergrawnt (B.A. 1527, M.A. 1530, B.D. 1538, D.D. 1554), daeth yn gymrawd ei goleg yn 1530, yn un o gymrodyr gwreiddiol Coleg y Drindod, ac yn is-feistr y coleg hwnnw, 1546-51. Fel ei gyfaill a'i gyfoed Thomas Thirlby (gw D.N.B.), ymddengys iddo dderbyn cyfnewidiadau crefyddol teyrnasiad Harri VIII, serch iddo
  • teulu GLYNNE Cangen oedd y teulu hwn o deulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, y gellir olrhain ei achau yn ôl i Cilmin Droed-ddu, sefydlydd pedwerydd llwyth Gwynedd. Yn 1654 prynodd JOHN GLYNNE (1602 - 1666), ail fab Syr William Glynne, Glynllifon, gastell Penarlâg, y faenol, a'r stad a berthynai iddi. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster, a derbyniwyd ef i Hart Hall, Rhydychen, 9 Tachwedd 1621, ac i Lincoln's
  • GLYNNE, MARY DILYS (1895 - 1991), patholegydd planhigion Ganwyd Mary Dilys Glynne yn Glyndyl, Menai Avenue, Bangor Uchaf ar 19 Chwefror 1895, y ferch ieuengaf o bump o blant a oroesodd i John Glynne Jones (1849-1947), cyfreithiwr, a'i wraig Dilys Lloyd Glynne Jones (ganwyd Davies, 1857-1932). Roedd teulu ei thad yn hanu o Dyddyn Isaf (Cymryd) ym mhlwyf Y Gyffin ger Conwy. Un o Gymry Llundain oedd ei mam, yn ferch i'r cerflunydd a cherddor William
  • GODWIN, JUDITH (bu farw 1746), un o ohebwyr Howel Harris Ei henw morwynol oedd Weaver; dywedir yn fynych, ond yn anghywir, ei bod hi'n ferch i John Weaver (a fu farw 1712), gweinidog Piwritanaidd ym Maesyfed Newydd ac wedyn yn nhref Henffordd; eto y mae pob tebygrwydd ei bod hi o'r un teulu ac iddi gael ei geni yn sir Faesyfed. Priododd ddwywaith: yn gyntaf, â Samuel Jones (1680? - 1719) o Tewkesbury, ac yn ail (1721) ag Edward Godwin (1680? - 1764
  • GOODWIN, JOHN (1681 - 1763), gweinidog olaf y Crynwyr yng Ngogledd Cymru Ganwyd yn 1681, yn fab, efallai, i Thomas Goodwin (gynt o Lanidloes), a oedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn Dolobran, Sir Drefaldwyn. Ymaelododd John Goodwin, c. 1708, gyda'r Crynwyr yn Llangurig a daeth yn weithiwr egnïol yn eu plith, a maes ei weinidogaeth yn ymestyn o Langurig hyd at odreon Aran Benllyn, Aran Fawddwy, a Chader Idris. Pan oedd tua'r canol oed ymwelai'n fynych â chanolfannau'r
  • GORE, HUGH (1613 - 1691), esgob, sefydlydd ysgol ramadeg Abertawe Ganwyd Hugh Gore yn fab hynaf John Gore, archddiacon Lismore a pherthynas i iarlliaid Arran, ym Maiden Newton, swydd Dorset. Anfonwyd ef i'r ysgol yn Lismore yn Iwerddon, ac oddi yno aeth i Goleg y Drindod, Rhydychen, lle yr ymaelododd 20 Mehefin 1628. Ar ôl ychydig dymhorau yno, gadawodd Rydychen ac aeth i Goleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn D.D. yn y pen draw. Credir mai ei fywiolaethau
  • GOUGE, THOMAS (1605? - 1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr Stephen Hughes ynglyn â'r gwaith o ddosbarthu llyfrau Cymraeg. Apeliodd am danysgrifiadau drwy Loegr a Chymru er mwyn hyrwyddo'i waith ac, yn 1674, trefnwyd Ymddiriedolaeth Gymreig (y ' Welsh Trust') a noddwyd gan brif arweinwyr crefyddol y dydd. Sylfaenwyd tua 300 o ysgolion i ddysgu plant tlodion Cymru i ddarllen ac ysgrifennu Saesneg, i gyfrif, ac i adrodd y Catecism. Cyfieithwyd llawer o lyfrau i'r
  • GOUGH, JETHRO (1903 - 1979), Athro patholeg Nghymru ac am hyfforddi meddygon ysbyty ac ymarferwyr cyffredinol ar sut i'w ddefnyddio, yn arbennig yn achos clwyfedigion rhyfel. Ddiwedd y rhyfel, a John Bright Duguid, ei bennaeth adran, yn dilyn astudiaethau arloesol yn afiechyd y rhedwelïau, daliodd Jethro Gough ati gyda'i ymchwil i newmoconiosis. Yn ystod y 1930au derbynnid yn gyffredinol mai'r silica tanddaear oedd achos newmociniosis ymhlith
  • GOUGH, MATHAU (fl. hanner cyntaf y 15fed ganrif), milwr Ganwyd tua 1390, brodor o Faelor. Owen Gough, beili Hanmer, oedd ei dad, a'i fam yn ferch David Hanmer; bu hi'n famaeth John, arglwydd Talbot (iarll Shrewsbury wedi hynny). O'r llu o Gymry a fu'n ymladd yn Ffrainc yn ystod rhan olaf y Rhyfel Can Mlynedd nid enillodd neb fwy o glod na Mathew Gough. Ceir ei enw yn rhestrau y rhai a gymerth ran ym mrwydrau Crevant (1423) a Verneuil (1424). Bu wedi
  • GOWER, Syr ERASMUS (1742 - 1814), llyngesydd Ganwyd yn Glandovan ('Glan Duan,' yn ôl West Wales Records, ii, 39), Cilgeran, ac aeth i'r môr yn fore, gyda'r capten John Donkley a oedd yn briod â chwaer ei dad. Wedi bwrw peth amser ar wahanol longau, anfonwyd ef ddwywaith ar fordeithiau ymchwil o gwmpas y byd, ac yn 1769 (bellach yn swyddog) i Ynysoedd Falkland (collwyd ei long cyn cyrraedd y lan). Bu gartref o 1770 hyd 1779; yna, bu'n gapten
  • GOWER, HERBERT RAYMOND (1916 - 1989), gwleidydd Ceidwadol senedd ym 1987, ond perswadiwyd ef i sefyll eto oherwydd pryderon bod ganddo bleidlais bersonol sylweddol o fewn yr etholaeth ac efallai na fyddai ymgeisydd newydd yn llwyddo i ddal ei afael ar etholaeth oedd yn weddol o ymylol i'r Ceidwadwyr. (Fel mae'n digwydd, yn yr is-etholiad agos dros ben a ddilynodd ym mis Mai 1991 ar ôl marwolaeth Raymond Gower llwyddodd John Smith a'r Blaid Lafur i gipio'r