Canlyniadau chwilio

733 - 744 of 2571 for "john hughes"

733 - 744 of 2571 for "john hughes"

  • HARRIES, HENRY (bu farw 1862), sywedydd, meddyg gwlad, a swynwr Mab JOHN HARRIES (bu farw 1839), Pantcoy, Cwrt-y-cadno, Sir Gaerfyrddin. Cyfrifir Henry Harries a'i dad ymysg yr enwocaf o swynwyr Cymreig y cyfnod cymharol ddiweddar; gwyddys i bobl o bob rhan o Dde Cymru a'r Gororau fyned i ymgynghori â hwynt. Cawsai'r tad addysg ffurfiol lawer gwell nag a gafodd ei gymdogion, ac yr oedd ganddo yn ei lyfrgell brif lyfrau meddygol ei ddydd ynghyd â llyfrau yn
  • HARRIES, HYWEL (1921 - 1990), athro celf, arlunydd, cartwnydd Ganed Hywel Harries yn y Tymbl, sir Gaerfyrddin 7 Hydref 1921, yn fab i David John Harries a'i wraig Sarah Ann. Derbyniodd ei addysg yn lleol ac yn ysgol ramadeg y Gwendraeth. Dangosodd dalent arbennig mewn arlunio ac aeth i Ysgol Gelf Llanelli ond ymunodd â'r Llu Awyr ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1941 gan wasanaethu am bum mlynedd. Wedi'i ryddhau yn 1946 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Technegol
  • HARRIES, JOHN (c.1785 - 1839), astrolegydd a meddyg Mae'n debyg i John Harries (Shon Harri Shon) gael ei eni ym Mhantycoy (Pant-coi), Cwrt-y-cadno, Sir Gaerfyrddin, ac fe'i bedyddiwyd yng Nghaio ar 10 Ebrill 1785. Ef oedd yr hynaf o chwech o blant Henry Jones (Harry John, Harry Shon), Pantycoy (1739-1805), saer maen, a'i wraig Mary Wilkins. Derbyniodd addysg gymharol ffurfiol, yn Y Cowings, Academi Breifat Fasnachol yng Nghaio tan yn ddeg oed, ac
  • HARRIES, JOHN (1722 - 1788) Dreamlod, cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Na chymysger ef â John Harris (1704 - 1763) 'o S Kennox'. Ac ystyried ei enwogrwydd, y mae'n syn mor ychydig yw'r ffeithiau pendant a wyddys amdano. Yr oedd â gofal seiadau yng ngogledd sir Benfro arno'n gynnar, a daeth yn ddeheulaw i Howell Davies; nid damwain yw'r ffaith mai ym mhlwyf Treamlod y mae Woodstock, capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y sir. Ar farwolaeth Howell Davies (1770
  • HARRIS, HOWELL (1714 - 1773), diwygiwr crefyddol ddadl Galfinaidd, ond cyfeillachai Harris yn gyson â'r ddau Wesley gan geisio undeb. Yn 1744 priododd Anne Williams, merch John Williams, yswain, o'r Ysgrin. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn pregethu yng Nghymru a Lloegr a sefydlu seiadau fel y cerddai. Daeth o dan gyfaredd y Morafiaid a dechreuodd goleddu athrawiaeth Batripasaidd er mawr ofid i'w gyfeillion. Heblaw hynny, dylanwadwyd arno gan wraig
  • HARRIS, JOHN (1704 - 1763) S. Kennox, cynghorwr Methodistaidd a Morafaidd, ffermwr Na chymysger ef â John Harries (1722 - 1788) 'o Dreamlod '; ganwyd yn Nhrefdraeth ar ddydd Gwener y Groglith, 1704. Ei wraig oedd Esther Davies (a fu farw 1766), ferch Llewellyn Davies o'r Clynfyw, Maenor Deifi - ei chwaer hi, Letitia, priod James Bowen o'r Dygoed ym mhlwyf Clydai, a wahoddodd Howel Harris i ymweld am y tro cyntaf â Sir Benfro, yn 1739. Troes Harris yn gynnar at Fethodistiaeth
  • HARRIS, JOHN (1680 - 1738), esgob Llandaf rhoes ei holl egni i'r gwaith o gasglu arian. Trefnodd i'r pensaer enwog, John Wood, o Bath, adeiladu y ' Deml Eidalaidd ' y tu mewn i furiau'r eglwys gadeiriol; edmygid hon yn fawr yn ei ddydd ef eithr condemniwyd hi'n llwyr yn y ganrif ddilynol. Bu'r esgob farw ar 28 Awst 1738 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Wells. Gosododd ei fab dabled yn ei goffáu ar fur deheuol y clas.
  • HARRIS, JOHN - gweler HARRIES, JOHN
  • HARRIS, JOHN RYLAND (Ieuan Ddu; 1802 - 1823)
  • HARRIS, JOSEPH (1704 - 1764), 'Assay-master at the Mint' Dredwstan. Daeth eu merch, ANNA MARIA HARRIS, yn wraig i Samuel Hughes (un o dystion priodas Elizabeth, ferch Howel Harris); hyhi a etifeddodd gyfoeth ei hewythr Thomas Harris, ac felly y daeth Samuel Hughes 'o Dregunter' yn siryf Brycheiniog yn 1790. Cawsant ddwy ferch, Amelia Sophia a fu farw yn 1794, ac ELIZA ANNE HUGHES, a briododd ddwywaith. Ei gwr cyntaf oedd Roderick Gwynne, Buckland. Bu ef farw 20
  • HARRIS, SOLOMON (1726 - 1785), gweinidog Ariaidd ac athro coleg Ganwyd yn Cilgwyn, Sir Aberteifi, 21 Chwefror 1726. Fe'i haddysgwyd gan y Parch. Timothy Davis, Cilgwyn a Chaeronnen, ei weinidog, digon tebyg, ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1746-1750). Fe'i cynorthwyid yn y coleg gan y Bwrdd Cynulleidfaol. Yn 1750 derbyniodd alwad i eglwys Bresbyteraidd Abertawe, ac fe'i hordeiniwyd yno 4 Medi 1751. Agorodd ysgol gyda chynhorthwy John Bache yn nechrau 1753, a
  • HARRIS, WILLIAM HENRY (1884 - 1956), offeiriad ac Athro Cymraeg Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion Ganwyd 28 Ebrill 1884 ym Mhantysgallog, Dowlais, Morgannwg, mab John ac Anne Harris. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Merthyr Tudful, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle'r enillodd ysgoloriaeth Traherne a dyfod yn brif fyfyriwr yn ogystal ag ennill gwobrau Creaton am draethodau Cymraeg a Saesneg. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth I yn Gymraeg, 1910, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen gydag