A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: DOMDocument::loadXML(): Start tag expected, '<' not found in Entity, line: 1

Filename: controllers/Article.php

Line Number: 119

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 119
Function: loadXML

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 91
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

CONYBEARE, WILLIAM DANIEL (1787 - 1857), clerigwr a daearegwr | Y Bywgraffiadur Cymreig
Cywiriadau

CONYBEARE, WILLIAM DANIEL (1787 - 1857), clerigwr a daearegwr

Enw: William Daniel Conybeare
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1857
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a daearegwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Frederick John North

Ganwyd 8 Mehefin 1787, mab rheithor S. Botolph's, Bishop's Gate, Llundain. Bu Conybeare yn rheithor Sully, sir Forgannwg, 1822-1835, ac yn ddeon Llandaf, 1845-1857. Fel daearegwr bu iddo ran bwysig yn y gwaith o sefydlu astudiaeth ffosylau ymlusgiaid o'r oesoedd cyntefig. Pan oedd yn Sully rhoes gymorth gyda gosod sylfeini'r wybodaeth o feysydd glo De Cymru; tynnodd sylw at y plyg gwrthorweddol sydd yn ymestyn ar draws rhan ddeheuol y maes glo ac sydd o'r herwydd yn ei gwneuthur yn bosibl i weithio haenau na ellid mo'u gweithio oni bai am y plyg. Yr oedd yn F.G.S. ac yn F.R.S.

Pan oedd yn Llandaf bu Conybeare yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am atgyweirio'r eglwys gadeiriol; yr oedd ei ragflaenydd wedi cychwyn ar y gwaith, gan roi sylw i'r ' lady chapel '; cyhoeddodd erthygl (yn Archæologia Cambrensis, 1850) ar hanes a phensaernïaeth yr eglwys.

Bu farw 12 Awst 1857.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

    Dyddiad cyhoeddi:

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.