Cywiriadau

GITTINS, EDWARD ('Iorwerth Pentyrch '; bu farw 1884), hanesydd lleol

Enw: Edward Gittins
Ffugenw: Iorwerth Pentyrch
Dyddiad marw: 1884
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awduron: Walter Thomas Morgan, Edward Ronald Morris

Ganwyd yn yr Efail, Pentyrch, Llanfair Caereinion, lle treuliodd ei holl fywyd. Yr oedd yn of wrth ei alwedigaeth, ac er na chafodd lawer o gyfleusterau addysg enillodd fri mawr fel bardd a hynafiaethydd. Cystadlai yn aml mewn eisteddfodau lleol, a chipiodd amryw wobrwyon am englynion. Adeg Nadolig 1881 enillodd wobr yn eisteddfod Llanfair am draethawd ar hanes y plwyf. Y mae'r ysgrif hon yn werthfawr; cyfieithwyd hi yn Saesneg gan T. W. Hancock, a chyhoeddwyd hi yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xvi a xvii. Yn ôl Cofnodion Plwyf Llanfair Caereinion bu farw dechrau Mawrth 1884 yn 41 oed, a chladdwyd ar y 6ed o Fawrth.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

    Dyddiad cyhoeddi:

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.