HARRIES, HENRY (bu farw 1862), sywedydd, meddyg gwlad, a swynwr

Enw: Henry Harries
Dyddiad marw: 1862
Rhiant: John Harries
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sywedydd, meddyg gwlad, a swynwr
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Hanes a Diwylliant; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Emrys George Bowen

Mab JOHN HARRIES (bu farw 1839), Pantcoy, Cwrt-y-cadno, Sir Gaerfyrddin. Cyfrifir Henry Harries a'i dad ymysg yr enwocaf o swynwyr Cymreig y cyfnod cymharol ddiweddar; gwyddys i bobl o bob rhan o Dde Cymru a'r Gororau fyned i ymgynghori â hwynt. Cawsai'r tad addysg ffurfiol lawer gwell nag a gafodd ei gymdogion, ac yr oedd ganddo yn ei lyfrgell brif lyfrau meddygol ei ddydd ynghyd â llyfrau yn Lladin a Groeg (y mae rhai o'r cyfrolau hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Yn nes ymlaen bu'r tad a'r mab yn cydweithio â'i gilydd, ac ychydig cyn marw'r tad cyhoeddodd y mab hysbysiad yn rhoi manylion am eu gwaith. Yn hwn hawliai y gallent broffwydo ynglŷn â genedigaeth, dywedyd ffortiwn pob un â ymgynghorai â hwynt, dywedyd wrth ' friends and enemies, trade or profession best to follow: whether fortunate in speculation, viz. Lottery, dealing in Foreign markets, etc., etc. Of marriage, if to marry… of children, whether fortunate or not, etc., etc., deduced from the influence of the Sun and Moon, with the Planetary Orbs at the time of birth. Also, judgment and general issue in sickness and diseases, etc…. ' Gallent hefyd swyno poen i ffwrdd, darganfod lladron, gwrthweithio effaith rheibiaeth, a gorchymyn i ysbrydion ymddangos. Nid oes ddadl na bu i wŷr fel John a Henry Harries chwarae rhan bwysig ym mywyd y wlad yn eu hoes hwy. Ychydig o feddygon trwyddedig a oedd o fewn cyrraedd trigolion y rhannau gwledig, ychydig o heddgeidwaid i helpu i ddarganfod troseddau a throseddwyr, ac ychydig hefyd o feddygon anifeiliaid y gellid cael eu barn pan fyddai anifeiliaid yn wael; rhoddai'r dewiniaid gymorth ym mhob un o'r amgylchiadau hyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.