IOLO GOCH (c. 1320 - c. 1398), bardd

Enw: Iolo Goch
Dyddiad geni: c. 1320
Dyddiad marw: c. 1398
Rhiant: Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Henry Lewis

brodor o ddyffryn Clwyd, mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd. Yn ôl stent arglwyddiaeth Dinbych gan Hugh de Beckele yn 1334, daliai Ithel Goch ddarn bach o hen etifeddiaeth y teulu ar rent yn nhref Lleweni, ac yr oedd ganddo dŷ i fyw ynddo yno. Yn ychwanegol rhentai oddi wrth yr arglwydd ddarnau bychain o dir yn Llechryd ac ym Merain. O'r gweithiau a briodolir i Iolo yn y llsgrau, yr hynaf a ellir ei ddyddio yw awdl i Dafydd ap Bleddyn, esgob Llanelwy o 1314-46, ac un o'r rhai diweddaraf yw cywydd i Ieuan Trefor II, esgob Llanelwy, a ganwyd yn ôl pob tebyg yn 1397. Rhwng y ddau begwn hyn ceir cywyddau ganddo fel hyn: mawl i Edward III, diwedd 1347; marwnad Syr Rhys ap Gruffudd a fu farw yn 1356 (yr oedd Iolo yn ei angladd yng Nghaerfyrddin); marwnad Tudur Fychan, Tre'r Castell, Môn, a fu farw yn 1367; mawl i Syr Hywel y Fwyall, cyn 1381; marwnad Ithel ap Robert, archddiacon Llanelwy, a fu farw 1382; marwnad Ednyfed a Gronwy, meibion Tudur Fychan (boddodd Gronwy yn 1382); mawl i Ieuan ab Einion o Chwilog pan oedd yn siryf Caernarfon (1385-90); mawl i Syr Rosier Mortimer, iarll Mars (a iarll Dinbych), a ganwyd rhwng 1395 a 1398; ac awdl fendith ar lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy o 1385-97. Ceir tri chywydd a ganodd i Owain Glyndŵr, ond prin iawn y gellir dyddio'r olaf o'r tri wedi 1386. Perthynai Iolo felly yn hollol i'r 14eg ganrif, ac yr oedd yn gyfoeswr â Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch Amheurig Hen; canodd farwnadau i'r ddau. Bu hefyd yn ffraeo'n farddol gyda Gruffydd Gryg. Canodd awdlau yn null y Gogynfeirdd, a hyd yn oed yn ei gywyddau ceir digon o olion hynafiaeth o ran geirfa a chystrawen. Fel Dafydd ap Gwilym cwerylodd yn bur gas gyda'r Brodyr Llwyd. Mewn un cywydd, ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r corff (hen thema lenyddol), disgrifia daith glera drwy Geri, y Drenewydd, Maelienydd, Elfael, Buallt, Blaenau Taf, Caeo, Cydweli, Ystrad Tywi, yr Hen Dygwyn-ar-Daf, Ceredigion hyd Ystrad Fflur, a hynny efallai tua 1387. Un o'i gywyddau enwocaf yw hwnnw i'r llafurwr, gyda'i ddisgrifiad gwych o'r aradr. Pennaf noddwr Iolo Goch oedd Ithel ap Robert. Yr oedd y rhan fwyaf a folodd yn bleidwyr selog i goron Lloegr, ac ni chododd ei lef mewn gwrthryfel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.