PERROT (TEULU), Haroldston, Sir Benfro

Sylwir yma ar dri aelod o'r teulu hwn.

(1) PERROT, Syr JOHN (1530 - 1592), gwleidydd yn oes Elisabeth a Lord Deputy Iwerddon Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol o 1584 hyd 1588.

Credid yn bur gyffredinol ei fod yn fab anghyfreithlon i Harri VIII ac un o'r boneddigesau a oedd yn gwasnaethu yn llys y brenin, sef Mary Berkeley, a briododd â Syr Thomas Perrot, Haroldston; pan briododd Thomas Perrot gwnaeth Henry ef yn farchog. Ganwyd Syr John yn 1530, yn Haroldston y mae'n debyg, ac, yn ôl yr hyn a ddywedai ef ei hun, cafodd ei addysg yn Nhyddewi. Pan oedd yn 18 oed aeth i wasnaethu ardalydd Winchester, yn ôl arfer yr oes honno. Yr oedd yn fawr o gorffolaeth ac yn nodedig o gryf, eithr yr oedd iddo dymer ormesol a natur gwerylgar. Yr oedd y Tuduriaid yn hoff ohono. Cynigiodd Harri VIII ddyrchafiad iddo, eithr bu farw cyn gallu ohono ei roddi iddo. Cyfrifai Edward VI ef yn gyfaill a gwnaeth ef yn Farchog o Urdd y Bath. Nid oedd gan Mari, ar y cyntaf, unrhyw wrthwynebiad i'w Brotestaniaeth cryf; yn ddiweddarach, fodd bynnag, achwynwyd arno gan gydwladwr o'r enw Catherne a ddywedodd ei fod yn llochesu hereticiaid yn ei gartref yng Nghymru; bu raid iddo dreulio ychydig amser yng ngharchar y Fleet; penderfynodd y byddai'n ddoethach iddo fynd dros y môr am weddill teyrnasiad y frenhines a bu'n gwasnaethu yn Ffrainc o dan ei gyfaill, iarll Pembroke. Dychwelodd i Brydain ychydig fisoedd cyn i Mari farw. Cafodd ffafr o dan Elisabeth ac yr oedd yn un o'r pedwar a ddewiswyd i gynnal canopi'r wladwriaeth pan goronwyd y frenhines honno. Yn 1562 dewiswyd ef yn is-lyngesydd arfordir De Cymru ac yn geidwad y carchar yn Hwlffordd, a'r mis Medi dilynol etholwyd ef yn aelod o'r Senedd dros sir Benfro. Yn fuan iawn daeth yn ddyn mwyaf pwerus y sir, eithr daeth yn amhoblogaidd iawn yng ngolwg ei gymydogion mwyaf eu dylanwad oblegid ei ymgyfreithio mynych gyda'r bwriad o beri blinder i'w elynion. Yn 1570 daeth yn faer Hwlffordd ar ôl cyfnod pryd y buasai maer a chorfforaeth y dref honno yn elyniaethus iawn tuag ato. Efe oedd llywydd cyntaf Munster, yn Iwerddon, 1571-3; dymunai Elisabeth sefydlu yn y sir honno lywyddiaeth a fyddai'n gyffelyb i honno a geid eisoes yn Connaught. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y gorchwyl o ddifodi gwrthryfel James Fitzmaurice, nai iarll Desmond; llwyddodd Perrot i wneuthur hynny ar ôl cyrch a nodweddwyd gan beth creulondeb. Yn 1573, fodd bynnag, dychwelodd i Gymru, yn wael ei iechyd, a phenderfynu, fel y dywedodd wrth Burghley, fyw bywyd gwladwr a chadw rhag myned i ddyled. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf bu ei ‘fywyd gwladwr’ yn gyfystyr â chyfnod o ymgyfreithio ar raddfa eang ac ymdrechion i ychwanegu at ei diroedd. Ymddiddorodd unwaith yn rhagor ym mywyd cyhoeddus Hwlffordd; erbyn hyn ymddengys fod ei gysylltiadau â'r maer a'r gorfforaeth yn llawer mwy cyfeillgar, a daeth ef ei hun yn faer am yr ail dro yn 1575. Y flwyddyn cynt, gwnaethid ef yn aelod o lys goror Cymru, a daeth i gymryd diddordeb mawr yn y gwaith o ddifodi môrherwriaeth ar lannau De Cymru. Pan sefydlodd y Cyfrin Gyngor gomisiwn, yn 1575, i ddifodi môrherwriaeth yn Sir Benfro, gwnaethpwyd Perrot yn brif gomisiynwr; pan sefydlwyd comisiwn cyffelyb i weithredu yn Sir Forgannwg a sir Fynwy, gwrthododd gymryd gofal ohono, oherwydd gwaeledd ei iechyd, meddai ef. Y mae ei lafur ynglŷn â difodi môrherwriaeth o ddiddordeb yn bennaf oblegid y cweryl cas a grewyd gan y gwaith hwn rhyngddo ef a Richard Vaughan, dirprwy-brif-lyngesydd yng Nghymru a phrif gomisiynwr môrherwriaeth yn Sir Gaerfyrddin, a wrthwynebai'n gryf ymyrraeth Perrot yn yr hyn a oedd, yn ei farn ef, yn faes arbennig iddo ef. Ym mis Medi 1579 rhoddwyd ar Perrot ofal ysgadran o bum llong a gorchymyn i hwylio yng nghyffiniau arfordir gorllewin Iwerddon ac atal unrhyw longau yn perthyn i Sbaen a geisiai lanio yno. Os na welai ddim, yr oedd i anfon llong i chwilio'n ddyfal ym môr Hafren am longau môrherwyr. Un llong o'r fath a welwyd a llwyddodd Perrot i'w dal; eithr ni ddigwyddodd unrhyw beth o bwys ynglŷn â'r cyrchoedd a gymerodd. Ar ei ffordd yn ôl daeth llong Perrot ei hunan i helynt yn y Downs y tu allan i arfordir Caint. Pan gyrhaeddodd yr ysgadran i afon Llundain yn ddiogel deallodd Perrot fod ei elynion wedi manteisio ar yr anap hwnnw ac ar y ffaith nad oedd dim o bwys wedi digwydd yn ystod y cyrch, i'w ddifrïo yn y llys brenhinol. Llwyddodd, fodd bynnag, i adennill ei enw da. Ychydig yn ddiweddarach, yn 1580, daeth gŵr o'r enw Wyrriott, a oedd yn ustus heddwch ac a arferai fod yn un o'r ‘Yeomen of the Guard,’ ag achwyniadau enllibus yn ei erbyn a'u dwyn gerbron y Cyfrin Gyngor. Eithr barnodd y Cyfrin Gyngor fod yr ensyniadau yn enllibus a thaflwyd Wyrriott ei hunan i garchar y Marshalsea. Gwnaeth Wyrriott yr un achwynion yn ei erbyn ar ôl hynny; rhwng y cwbl costiodd ei gweryl â Perrot iddo 10 mlynedd o leiaf o garchar a dirwy o 1,000 o farciau. Llawenydd mawr yn ddiau i gymdogion Perrot yng Nghymru ydoedd clywed iddo gael ei ddewis yn arglwydd-ddirprwy (‘Lord Deputy’) Iwerddon, swydd y bu ynddi o 1584 hyd 1588. Yr oedd gan y frenhines feddwl da o'i waith pan oedd yn llywydd Munster. Yr oedd hi hefyd wedi gofyn ei gyngor, yn 1581, ynglŷn â rhai o broblemau Iwerddon ac wedi ei boddio'n fawr gan y ‘Discourse’ a ysgrifenasai ef yn ateb i'w chwestiynau hi; yn hwnnw amlinellasai'r camau a ddylid eu cymryd yn y wlad honno. Heblaw hynny, yr oedd yn ŵr o gyfoeth ac felly'n abl i ateb gofynion ariannol swydd bwysig o'r fath yng ngwasanaeth brenhines grintachlyd. Ni fu'r pedair blynedd hyn yn hapus; llesteiriwyd arno i raddau gan swyddogion o Loegr a oedd yn aelodau o'i gyngor, yr oedd yntau yn gorfod dioddef oblegid ei dafod di-reol a'i dymer afrywiog; blinid ef yn anghyffredin gan elyniaeth Adam Loftus, archesgob Dulyn, tuag ato, a gofynnodd yn daer am gael ei ryddhau o'r swydd. Dychwelodd i Loegr yn 1588, yn chwerw ei ysbryd ac yn ŵr yr agorasid ei lygaid, yn dioddef gan gerrig yn y bustl a'r elwlod; serch hynny yr oedd yn gallu ymffrostio, gerbron Syr William Fitzwilliam, ei olynydd yn y swydd, iddo gael Iwerddon mewn cyflwr o heddwch perffaith. Yn 1589 gwnaethpwyd Perrot yn aelod o'r Cyfrin Gyngor eithr cyn pen llawer o amser sibrydid iddo fod yn cynllwynio'n fradwrus. Philip Williams, ei ysgrifennydd yn Iwerddon, a roes gychwyn i'r sibrydion hyn, a gofalodd Adam Loftus eu bod yn dod i glyw yr awdurdodau priodol. Bu'r Cyfrin Gyngor yn eu hystyried ac, ym mis Mawrth 1591, symudwyd Perrot i Dŵr Llundain. Profwyd ei achos ym mis Ebrill 1592 ar gyhuddiad o fradwriaeth a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Eithr bu farw yn y Tŵr ym mis Mehefin 1592 cyn i'r ddedfryd gael ei gweinyddu. Y mae'n weddol sicr nad ydoedd yn euog o fradwriaeth eithr yn euog o ddefnyddio geiriau anghall am berson y frenhines; ei dymer wyllt a oedd yn gyfrifol am hynny, y mae'n ddiau. Dioddefodd yn fwy, efallai, oblegid gelyniaeth rhai personau tuag ato. Un o'r pwysicaf o'r rhain oedd Syr Christopher Hatton, gŵr y treisiasid ei ferch Elizabeth gan Perrot ac a frathesid gan esboniad cas Perrot ar y dull arbennig yr enillasai ei elyn ffafr y frenhines drwyddo. Ar waethaf y ffaith ddarfod cael Perrot yn euog o ‘attainder,’ ni fu raid i'w fab, Syr Thomas Perrot, aros yn hir cyn cael stadau ei dad yn ôl.

Priododd Perrot (1) ag Ann, ferch Syr Thomas Cheyney, a chafodd ohoni fab, Syr Thomas Perrot, a briododd â Dorothy, merch Walter Devereux, iarll Essex; (2) â Jane, ferch Syr Lewis Pollard, a chael ganddi fab, William (a fu farw 1597), a dwy ferch - (a) Lettice, a briododd (1) â Roland Lacharn, S. Bride's; (2) â Walter Vaughan, S. Bride's; a (3) ag Arthur Chichester, barwn Chichester (o Belfast), ac arglwydd-ddirprwy Iwerddon wedi hynny; a (b) Ann, a briododd â John Philips. Heblaw y rhai hyn bu iddo rai plant anghyfreithlon; y pwysicaf ohonynt hwy oedd (a) Syr James Perrot (isod) o Sibil Jones, sir Faesyfed, a (b) merch, a briododd David Morgan.

Yn 1580 rhoes Perrot diroedd ac eiddo arall yn werth £30 y flwyddyn, yn rhydd rhag unrhyw ofynion arnynt, i dref Hwlffordd — dyna gychwyn ‘The Perrot Trust.’ Yn ystod y canrifoedd a ddilynodd gwerthwyd rhai rhannau o'r rhoddion hyn, eithr y mae'r ‘Trust’ yn parhau i ddod ag incwm o tua £400 y flwyddyn i dref Hwlffordd.

(2) PERROT, Syr JAMES (1571 - 1636), gwleidydd Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol;

mab anghyfreithlon Syr John Perrot, Haroldston, Sir Benfro, a Sibil Jones o sir Faesyfed. Y mae'n debyg mai yn Haroldston y ganwyd ef, eithr fe'i cysylltir weithiau â Westmead, Sir Gaerfyrddin, a oedd yn perthyn i'w dad ac a ddisgynnodd, efallai, iddo yntau. Yn 1586, yn 14 oed, ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; aeth i'r Middle Temple yn 1590. Ar farw ei dad yn 1592 ceisiodd gael ei gyfran o stad y teulu ac aeth â'i achos i Lys yr Exchequer. Methodd yn ei gais, fodd bynnag; erbyn 1601, pan oedd trefniadau ynglŷn â holl eiddo ei dad wedi eu cwpláu, cafodd ef lawer llai na'r hyn y gobeithiasai ei gael er na adawyd mohono heb ddim. Yn y cyfamser yr oedd wedi dechrau llenydda. Yn 1596 cyhoeddodd Discovery of Discontented Minds; dilynwyd hwn, yn 1600, gan The First Part of the Considerations of Humane Conditions. Ysgrifennodd hefyd waith ar fywyd a marwolaeth Syr Philip Sidney eithr ymddengys nad aeth hwn ymhellach na'i ffurf fel llawysgrif. Cyhoeddodd ei waith pwysig diwethaf yn 1630, sef Meditations and Prayers on the Lord's Prayer and Ten Commandments. Gwnaethpwyd James Perrot yn farchog yn 1603. Pan gafodd Hwlffordd ei siarter yn nechrau teyrnasiad Iago I, ei enw ef oedd y cyntaf ar rôl yr aldramoniaid newydd. Dewiswyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Hwlffordd i Seneddau 1597-8, 1604, a 1614. Yn Senedd 1614 bu'n brysur iawn yn siarad yn y ddadl ar y trethi a elwid yn ‘impositions.’ Daeth yn amlwg yn gynnar ym mhlaid gwŷr y Senedd; wedi iddo gondemnio, yn Senedd 1621, y briodas y ceisid ei threfnu rhwng y tywysog Siarl a'r dywysoges o Sbaen, a hawlio hefyd ddatganiadau pendant yn erbyn Pabyddiaeth, collodd ffafr y brenin yr oedd wedi ei mwynhau gynt, ac alltudiwyd ef (eithr mewn dull anrhydeddus) i Iwerddon i fod yn aelod o gomisiwn Sir Dudley Digges a oedd i ystyried rhai achwynion a oedd yn codi yn y wlad honno. Yr oedd yn fwy sobr ac yn fwy lleddf yn Senedd 1624, lle yr oedd yn cynrychioli sir Benfro; yn 1628, fodd bynnag, wedi ei ethol dros Hwlffordd y tro hwn, bu'n ymosod yn gryf ar Laud. Yn 1624 cymerodd brydles ar fwyngloddiau'r Goron yn Sir Benfro a bu'n gwasnaethu fel dirprwy-is-lyngesydd dros iarll Pembroke. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn is-lyngesydd Sir Benfro yn 1626 a bu'n cymell yr angen am ddelio â'r rhai a oedd yn achosi llong-ddrylliadau ar hyd arfordir Cymru; bu hefyd yn annog yr angen am adeiladu amddiffynfeydd ar y Milford Haven. Yr oedd yn aelod o'r ‘Virginia Company,’ a thanysgrifiodd £37 10s. i'r cwmni hwnnw. Bu farw 4 Chwefror 1636 a chladdwyd yn eglwys S. Mary, Hwlffordd. Priododd â Mary, merch Robert Ashfield, Chesham, swydd Buckingham, ond ni bu iddynt blant.

(3) PERROT, ROBERT (bu farw 1550), organydd Coleg Magdalen, Rhydychen CrefyddCerddoriaeth,

a'r gŵr a sefydlodd gainc Northleigh o deulu Perrot. Er nad oes dystiolaeth iddo ymweld â Chymru erioed fe'i henwir yma gan ei fod yn ail fab George Perrot, Haroldston, ac Isabel Langdale, Langdale Hall, sir Gaerefrog. Yr oedd iddo beth enwogrwydd fel cerddor; daeth hefyd yn archddiacon Buckingham.

Dyddiad cyhoeddi: 1953