THOMAS, MARGARET HAIG, IS-IARLLES RHONDDA (1883 - 1958), awdures, golygydd, a chadeirydd cwmnïau

Enw: Margaret Haig Thomas
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1958
Priod: Humphrey Mackworth
Rhiant: Sybil Margaret Thomas (née Haig)
Rhiant: David Alfred Thomas
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdures, golygydd, a chadeirydd cwmnïau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 12 Mehefin 1883 yn Bayswater, Llundain yn unig blentyn David Alfred Thomas a'i wraig, Sybil Margaret, merch George Augustus Haig, Pen Ithon, Maesd. Addysgwyd hi i ddechrau gan athrawesau preifat yn y cartref. Yna danfonwyd hi i ysgol uwchradd Notting Hill, lle y cychwynnodd gylchgrawn argraffedig, The Shooting Star, y cyfrannai ei pherthnasau iddo. Oddi yno aeth i Ysgol St. Leonard yn St. Andrews, yn yr Alban, gwlad ei theidiau Haig. Bu am ychydig yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ond ni bu'n gartrefol yno. Nid ymhoffai chwaith ym mywyd cymdeithasol dinas Llundain, gwell oedd ganddi unigeddau Sir Faesyfed o gylch Pen Ithon a thirionwch Llan-wern, ei chartref yng Ngwent. Ni ddysgodd ddim Cymraeg oddigerth brawddeg fer i'w defnyddio wrth ganfasio yn etholiadau ei thad ym Merthyr Tudful. Ymdaflodd i ddiddordebau diwydiannol ei thad, gan weithredu fel ysgrifennyddes iddo, darpariaeth fuddiol ar gyfer y cyfnod pan fu raid iddi gymryd ei lle ar fyrddau diwydiannol ei thad pan ddaeth galwadau gwaith llywodraeth yn drwm ar ei ysgwyddau, ac ar ôl ei f. yn 1918.

Yn 1908 priododd Humphrey Mackworth (barwnig ar farwolaeth ei dad yn 1914) yn Eglwys y Drindod ger Caerllion, Myn. Ieuad anghymarus oedd hon, ef 12 mlynedd yn hyn na hi, heb nemor ddim diddordeb ar wahân i'w gwn hela — ef oedd meistr erchwys Llangybi Fawr — hi'n ddarllenwraig fawr, yntau braidd fyth yn agor llyfr; ef yn Geidwadwr, hithau'n ferch i Ryddfrydwr blaenllaw, er iddi o ymdeimlad o ddyletswydd ymddeol o gyngor lleol y Gymdeithas Ryddfrydol pan briododd. Gwnaethant eu cartref yn Llansoar heb fod ymhell o dy ei rhieni. Cyn pen pedwar mis, ar waethaf anfodlonrwydd ei gwr, yr oedd wedi ymdaflu i weithgareddau beiddgar canlynwyr Mrs. Pankhurst gan orymdeithio gyda'i chyfnither Florence Haig yn Hyde Park. Ymunodd â'r Women's Social and Political Union a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd dros bleidlais i ferched. Neidiodd ar astell modur H.H. Asquith yn St. Andrews. Dysgodd sut i roi tân mewn blychau post cyhoeddus a gweithredu yng Ngwent nes cael dedfryd mis o garchar ym Mrynbuga. Gan iddi wrthod bwyta, fe'i rhyddhawyd ar ôl pum niwrnod. Hi oedd gohebydd cangen Casnewydd o'r mudiad.

Yr oedd hi a'i thad ymhlith y rhai a achubwyd pan suddwyd y Lusitania gan fad tanfor Almaenig yn 1915. Ar ôl dychwelyd adref bu'n gomisiynydd dros wasanaeth cenedlaethol merched yng Nghymru ac yn 1918 gwnaethpwyd hi'n brif reolwr recriwtio merched ym Mhrydain. Pan fu ei thad f. etifeddodd hithau'r is-iarllaeth yn unol â darpariaeth arbennig a wnaed gan Lloyd George pan ddyrchafwyd ei thad i'r is-iarllaeth ac yntau heb etifedd gwryw. Cyflwynodd hithau ddeiseb am gael gwys i Dy'r Arglwyddi yn 1920, ac er fod yr Arglwydd Hewart a'r Pwyllgor Breiniau o blaid, o dan arweiniad yr Arglwydd Birkenhead pleidleisiodd mwyafrif mawr y Ty yn erbyn caniatäu ei chais. Iddi hi datblygiad cwbl naturiol o'i hymdrechion dros gydraddoldeb i ferched oedd y ddeiseb. Er iddi fethu, llwyddodd yr un flwyddyn gyda grwp o ferched o gyffelyb fryd i ffurfio cwmni cyhoeddi'r wythnosolyn dylanwadol Time and Tide fel papur cwbl annibynnol ar na sect na phlaid i gyfarfod â gofynion cyfnod newydd wedi'r rhyfel. Hi fu'n ei olygu am weddill ei hoes, a'i stamp hi oedd arno, er mai Helen Archdale a olygodd y rhifynnau cyntaf. Drwy Time and Tide y sylweddolodd hi un o freuddwydion ei hieuenctid. Llwyddodd i ddenu cyfranwyr o allu ac o fri i'r papur. Yng nghanol ei holl brysurdeb — yr oedd yn ynad heddwch ym Myn. ac yn 1926 yr oedd yn llywydd yr Institute of Directors — a galwadau trefnyddiaeth ddiwydiannol yn drwm arni a'i iechyd hithau'n fregus — mynnodd gadw golwg barcud ar holl gynnwys y papur am bron 38 mlynedd. Ei gofal mawr yn ystod misoedd olaf ei bywyd oedd sicrhau i'r papur seiliau ariannol diogel, a llwyddodd yn ei hymdrech. Safai'n gadarn dros ryddid yr unigolyn. Iddi hi yr oedd pob bod dynol, gwryw neu fenyw, i'w drin fel unigolyn a chanddo enaid anfarwol. Cyhoeddodd D. A. Thomas, Viscount Rhondda (1921), Leisured Women (1928), This was my world (1933) a Notes on the way (1937). Bu'n llywydd Coleg y Brifysgol, Caerdydd o 1950 i 1958 a dyfarnwyd iddi radd LL.D. Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1955.

Cafodd ysgariad oddi wrth ei gwr yn 1923. Ni bu iddynt blant a daeth y teitl i ben gyda'i marw hi yn ysbyty Westminster ar 20 Gorffennaf 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/