Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 418 for "arwel hughes"

1 - 12 of 418 for "arwel hughes"

  • HUGHES, DEWI ARWEL (1947 - 2017), diwinydd ac arweinydd Cristnogol Ganwyd Dewi Arwel Hughes ar 1 Ionawr 1947 yn Bugeilfod, Llangwm, Sir Ddinbych, yr ieuengaf o bedwar o blant Gruffudd Evans Hughes (1912-1975), gwerthwr nwyddau amaethyddol, a'i wraig Annie (g. Edwards, 1908-1957), gwniadwraig. Roedd ganddo dair chwaer, Elen Haf, Lona Wyn a Gwenan Arwel. Flwyddyn wedi ei eni, symudodd y teulu i Garth Isa, Frongoch ger y Bala. Bu farw ei fam yn 1957, pan oedd Dewi
  • HUGHES, ARWEL (1909 - 1988), cerddor Ganed Arwel Hughes ar 25 Awst 1909 yn 'Arwelfa', Rhosllannerchrugog, yn un o naw plentyn William a Catherine Hughes. Brawd iddo oedd y cerddor John Hughes (1896-1968). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle bu'n astudio cyfansoddi gyda C. H. Kitson a Ralph Vaughan Williams. Bu'n organydd eglwys St Margaret's, Westminster ac eglwys St Philip a St
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (GARETH HUGHES; 1894 - 1965), actor Ganwyd William John Hughes ar 23 Awst 1894 yn Halfway, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, yr hynaf o ddau fab i John Elias Hughes, bocsiwr tunplad, ac Ann Hughes (ganwyd Morgan). Roedd ei dad yn areithiwr medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enw ei frawd iau oedd Brinley Hughes. Symudodd y teulu wedyn i Stryd y Dywysoges, Llanelli. Cafodd William John ei addysg yn Ysgol
  • HUGHES, CLEDWYN (BARWN CLEDWYN O BENRHOS), (1916 - 2001), gwleidydd Ganwyd Cledwyn Hughes ar y 14eg o Fedi 1916 yn 13 Teras Plashyfryd, Caergybi, mab hynaf Henry David Hughes ac Emma Davies (gynt Hughes, a oedd yn weddw ifanc a mab bach, Emlyn, ganddi wrth iddi ail-briodi ym 1915). Trwy ei dad, yr oedd Cledwyn Hughes yn ddisgynnydd i genedlaethau o chwarelwyr llechi yn Sir Gaernarfon. Gadawodd Henry Hughes, a adweinid yn gyffredinol fel Harri Hughes, yr ysgol yn
  • HUGHES, HUGH ROBERT (1827 - 1911) Kinmel, Dinorben,, yswain ac achyddwr Ganwyd 6 Mehefin 1827, yn fab i Hugh Robert Hughes, Bache Hall, sir Gaer, o'i ail wraig, Anne, merch Thomas Lance, Wavertree Hall Lancashire. Y cyntaf o'r teulu i ymsefydlu yng Nghinmel, hen gartref yr Holandiaid oedd ei daid y Parch. Edward Hughes, M.A. (1738 - 1815), a brynodd y stad yn niwedd y 18fed ganrif. Mab ydoedd ef i Hugh Hughes, Lleiniog, Môn (1705/6 - 1773/4), a fu'n ysgrifennydd
  • HUGHES, PRYCE (c. 1687 - 1715), cynlluniwr trefedigaeth Americanaidd Pryce Hughes o Lanllugan, Sir Drefaldwyn, oedd yr hynaf o dri mab a thair merch Richard Hughes (1663-1700) o Frongoch, prif stiward y Castell Coch ym Mhowys, a Mary Pryce (1663-1700). Daeth ystad Llanllugan i deulu'r Hughesiaid drwy'r briodas hon. Dilynodd Pryce ei dad fel asiant William Herbert, ail Ardalydd Powis, tra oedd yr olaf yn byw mewn alltudiaeth gan iddo gael ei ddrwgdybio o fod yn
  • HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur Ganwyd yn Adwy'r Clawdd, 11 Chwefror 1796, yn fab i Hugh (saer coed) a Mary Hughes, ac yn ŵyr i Richard Hughes o'r Sarffle, Llanarmon Dyffryn Ceiriog; yr oedd felly'n frawd i Richard Hughes, yr argraffydd yn Wrecsam, ac yn gyfyrder i John Ceiriog Hughes. Dechreuodd bregethu yn 1813, ac yn 1815 aeth i gadw ysgol mewn gwahanol fannau; yn 1819 agorodd ysgol yn Wrecsam, y bu iddi gryn enw, oblegid
  • HUGHES, EVAN (bu farw 1800), curad ac awdur
  • HUGHES, ROYSTON JOHN (BARWN ISLWYN), (1925 - 2003), gwleidydd Ganwyd ef ar y 9fed o Fehefin 1925 yn Pontllan-fraith, Sir Fynwy, yn fab i John Hughes, glöwr, a Florence Tucker. Yn ystod ei beichiogrwydd nesaf, clafychodd Florence Hughes, a chymerwyd Roy, a oedd tua blwydd oed ar y pryd, at rieni ei dad. Cymerodd Elizabeth Hughes, ei fodryb, ofal ohono, ac arhosodd gyda hi drwy gydol ei blentyndod. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Pontllanfraith, ac ysgol
  • HUGHES, ROBERT GWILYM (1910 - 1997), bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd Gwilym Hughes 17 Awst 1910 ym Methesda, Arfon, yn ail fab i Robert John ac Elisabeth Hughes, ei dad o Waen Pentir, a'i fam o Drefdraeth ym Môn. Bu ei dad yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn wedi'r Streic Fawr (1900-03), a gwyddai ef a'i frawd Richard Môn Hughes o brofiad am y tlodi a ddilynodd y streic ym Methesda. Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i Lôn Bopty, Bangor, lle y cawsant
  • HUGHES, MICHAEL (1752 - 1825), diwydiannwr a dyn busnes Sherdley House (neu Hall), Sutton, plwyf Prescot, sir Lancaster; ganwyd 13 Mai 1752, yr ieuengaf o dri mab Hugh Hughes (1706 - 1774), Lleiniog, gerllaw Biwmares, sir Fôn, a'i wraig Mary, merch Rowland Jones, Carreg-y-fanian, sir Fôn - yr oedd Michael Hughes felly yn frawd i Edward Hughes, clerigwr, a ddaeth yn gyfoethog oherwydd iddo, drwy ei wraig, ddyfod i feddu rhan o Mynydd Parys, y rhan
  • HUGHES, DAVID EDWARD (1829 - 1900), physegwr a dyfeisydd Ganwyd 18 Mehefin 1829 yn Llundain (myn rhai awdurdodau iddo gael ei eni yn Green y Ddwyryd, gerllaw Corwen), mab David Hughes, gynt o'r Bala ac wedi hynny o Lundain. Ymfudodd gyda'i deulu i Virginia, U.D.A. yn 1840, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dewiswyd ef yn broffesor cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair