Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 4685 for "niclas y glais"

1 - 12 of 4685 for "niclas y glais"

  • NICHOLAS, THOMAS EVAN (Niclas y Glais; 1879 - 1971), bardd, gweinidog yr Efengyl a lladmerydd dros y Blaid Gomiwnyddol derbyniodd Nicholas alwad i Gapel Cymraeg yn Dodgeville, Wisconsin, Unol Daleithiau America ond byr fu ei gyfnod yno gan i Gapel Seion y Glais yng Nghwm Tawe estyn galwad iddo ar 31 Mai 1904. Derbyniodd honno a bu yno am ddeng mlynedd gan dod yn adnabyddus dan yr enw Niclas y Glais. Yn y cyfnod hwn (1904-1914) daeth Cymru i adnabod Niclas y Glais fel un o areithwyr huotlaf o blaid Sosialaeth yn yr iaith
  • DAFYDD ap MAREDUDD GLAIS (fl. 1429-68), clerigwr, llofrudd, swyddog dinesig, a chyfieithydd Brut y Saeson i Gymraeg Mab ydoedd i Faredudd Glais, gŵr a lanwodd nifer o swyddi dinesig yn Aberystwyth a Llanbadarn rhwng 1411 a 1458. Ni wyddys pa bryd y ganwyd Dafydd, a'r cofnod cyntaf amdano yw ei fod ef a John Robury a Gruffudd Prôth neu Prŵth yn wystlon dros Thomas Kirkham, abad Vale Royal, am ddirwy yn 1429. Disgrifir y tri fel clerigwyr, a diamau y perthynent i eglwys Llanbadarn, a oedd o dan adain Vale Royal
  • DAFYDD AP MAREDUDD GLAIS, llofrudd, swyddog dinesig, ysgrifydd a chyfieithydd Roedd Dafydd ap Maredudd Glais yn aelod o un o deuluoedd blaenllaw Aberystwyth yn y bymthegfed ganrif. Gweithredodd fel twrnai dros ei dad yn 1432-3 a chafodd ei garcharu yng nghastell Aberteifi am ôl-ddyledion. Ymddengys iddo fod yn saethydd, fel ei dad, ac yn 1438 cafodd lythyr gwarchodaeth i fynd dramor yng ngosgordd Edmund Beaufort. Yn 1439 bu'n warantwr, gyda John Roubury a Gruffydd Prôth
  • ROBERTS, JOHN (Jack Rwsia; 1899 - 1979), glöwr, cynghorydd ac aelod amlwg o'r Blaid Gomiwnyddol yn rhinwedd ei swydd bu yn Ynad Heddwch am y flwyddyn. Yr oedd yn Gymro twymgalon ac yn ddiacon yng nghapel yr Annibynwyr Cymraeg Abertridwr. Disgrifiai ei hun yn un o ddisgyblion T. E. Nicholas (Niclas y Glais), yn sefyll yn y traddodiad Cristnogol-Gomiwnyddol. Chwaraeodd ran amlwg iawn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol Caerffili yn 1950 ac yna yn trefnu ar ei chyfer. Ef oedd Is-gadeirydd y
  • RHYS, HYWEL (1715? - 1799), bardd o blwy'r Faenor Wen, sir Frycheiniog. Hwyrach mai ef yw'r Howell fab Howell Rees a fedyddiwyd yn Vaynor 10 Medi 1715. Bu am ysbaid yn ffermio tyddyn Blaen y Glais ym mhlwy'r Faenor, ond dywedir iddo golli'r fferm trwy ddichell, ac iddo fynd i gadw tafarn a elwid Pantydŵr, ger Garn Pontsticyll, sir Frycheiniog. Enw ei wraig oedd Catherine, a hwyrach mai eu priodas hwy yw'r briodas rhwng Howell
  • JONES, JOHN TYWI (1870 - 1948), gweinidog (B) a newyddiadurwr ef yn Llanfair a Phentraeth, Môn, yn 1897 a bu yno hyd 1906 pan dderbyniodd alwad i Peniel, y Glais. Gweinidogaethodd yno'n ddiwyd a llafurus hyd ddechrau 1935. Er pan oedd yn ieuanc cyfrannodd o bryd i'w gilydd i Tarian y Gweithiwr, a gyhoeddid yn Aberdâr, ac a oedd ar ryw gyfrif yn olynydd i'r Gwron; maes o law cyfrannodd ato'n gyson dan enw ' Llewelyn '. Sosialydd cristnogol oedd, carwr Cymru
  • WALTERS, DAVID (EUROF; 1874 - 1942), gweinidog (A) a llenor Ganwyd 27 Mai 1874 yr hynaf o bum plentyn John ac Ann (ganwyd Dyer) Walters yn Nhy'n-y-coed, Betws, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Gof oedd y tad a symudodd y teulu pan oedd ef yn bump oed i'r Glais ger Clydach, Cwm Tawe. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol fwrdd leol a bu'n ddisgybl-athro yno. Yr oedd y teulu'n aelodau yn Seion, y Glais, a gofalai ei fam ei dywys i holl gyfarfodydd yr eglwys honno
  • DAFYDD, OWEN (1751 - 1814?), bardd cefn gwlad a baledwr Dywedir mai o Wynfe, Sir Gaerfyrddin yr hannai, ond trigai yn Llandybïe yn 1783. Bernir mai ef yw'r ' Owen Watkin ' a briododd Joyce William o Gwm Aman, yno 21 Tachwedd 1783. Crwydrodd lawer ar hyd ei oes wrth ddilyn galwedigaeth melinydd. Bu'n byw am dymor yng Nghwmgrenig-fach, Cwm Aman, ac ar ôl hynny yn Llwyn Uchedwel gerllaw'r Glais yng Nghwmtawe; Cefn Myddfai, Llangyfelach; a Melin Gurwen
  • JONES, ELIZABETH MARY (Moelona; 1877 - 1953), athrawes a nofelydd ei hannog i ysgrifennu - Y Wawr (1917), ac yn y gyfrol Y Wers Olaf (1921). A thra oedd hi yng Nghaerdydd fe gyhoeddwyd amryw ysgrifau a llyfrau gan gynnwys Teulu bach Nantoer (1913) a Bugail y Bryn (1917). Yn 1914 dechreuodd gyfrannu ' Colofn y Plant ' i'r wythnosolyn Y Darian dan olygyddiaeth J. Tywi Jones, Y Glais, ac yn 1917 priododd ' Moelona ' ac yntau. Wedi hynny, troes dros dro i ddarlithio
  • JONES, GWENAN (1889 - 1971), addysgydd ac awdur Ryfel Byd, gan ofalu am addysg a gwaith i'r ddau ohonynt. Bu Gwenan Jones farw ar 12 Ionawr 1971 yn Ysbyty Bron-glais, Aberystwyth, ac fe'i claddwyd ym mynwent Talybont ger y Bala. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yng Nghapel Seilo, Aberystwyth.
  • EVANS, DAVID (1886 - 1968), Athro prifysgol yn yr Almaeneg ac awdur Aberystwyth yn 1910, ac erbyn cwrdd â David Evans yn Birmingham wedi ei phenodi yn athrawes Ffrangeg yn ysgol ramadeg y merched, Halesowen. Yn ystod ei thymor hi yn Aberystwyth bu hi'n weithgar dros amryw o achosion da, e.e. Cyfeillion yr Ysbyty a'r R.S.P.C.A. Ganed o'r briodas ddau fab a merch. Bu ef farw 26 Hydref 1968 yn Ysbyty Bron-glais yn y dre a'i gladdu ym mynwent ei fam-eglwys ym Mlaen-ffos. Bu
  • MORGAN, THOMAS JOHN (1907 - 1986), ysgolhaig a llenor Cymraeg Ganwyd T. J. Morgan ar 22 Ebrill 1907 ym mhentre'r Glais, Cwm Tawe, cymdogaeth fwy neu lai uniaith Gymraeg y pryd hynny, yr ieuengaf o ddau fab William Morgan, glöwr, a'i wraig Annie. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol gynradd leol ac yna yn ysgol uwchradd Pontardawe cyn mynd i Goleg Prifysgol Abertawe lle y chwaraeodd yn nhîm rygbi'r coleg ac ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1928