Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 43 for "Gerallt"

1 - 12 of 43 for "Gerallt"

  • ADAM (bu farw 1181), esgob Llanelwy , bu i amryw ysgrifenwyr, hen a diweddar, ei gyfrif yr un gŵr â'r ysgolor adnabyddus, Adam du Petit Pont, a oedd yntau yn ganon ym Mharis ac yn ei ddydd yn ddiwinydd a dadleuwr enwog. Ond ni ellir cysoni hyn â'r adroddiad a rydd Gerallt Gymro; dywed ef i Adam yr esgob ac yntau fod yn gyd-efrydwyr ym Mharis, y naill a'r llall ohonynt heb fod yn wŷr cefnog a'r Adam arall eisoes yn ganon ym Mharis ac yn
  • ARTHUR (fl. ? yn gynnar yn y 6ed ganrif), un o arwyr y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, yr hwn a ddaeth gydag amser yn brif ffigur cylch y chwedlau Arthuraidd cyffredin. Amheuwyd dilysrwydd stori Sieffre gan Wiliam o Newburgh a Gerallt Gymro, ond eithriadau ydynt hwy. O destun i destun (gan Wace, Chrétien de Troyes, awduron dienw Lancelot a ' Mort Artu,' Thomas Malory, etc.) datblygodd llys Arthur, gyda Chymdeithas y Ford Gron, yn ddrych o sifalri'r Canol Oesoedd ac yn fan cychwyn pob antur; a chymhlethwyd y chwedlau fwyfwy, yn arbennig drwy eu cysylltu â'r
  • BERNARD (bu farw 1148), esgob Tyddewi ddyfalu. Ceir prawf dilys yng nghronicl Battle Abbey iddo drefnu i'r abaty hwnnw golli rhai o eglwysi tref Gaerfyrddin, er mwyn gwneuthur lle i gwfaint o ganoniaid Awstinaidd a sefydlasai ef ei hun; dywed croniclydd Cymreig iddo yn 1144 roddi tir yn Nhrefgarn Fechan yn Neugleddyf i fynachod Sistersaidd - y cyntaf o'r urdd honno i gartrefu yng ngorllewin Cymru. Gan Gerallt Gymro, a ysgrifennai bron
  • BLEDRI ap CYDIFOR (fl. 1116-30), pennaeth Sant, Pwll Dyfach, Motlysgwm, a Phictwn. Y mae Bledri yn enw anghynefin, a naturiol ydyw gwneuthur y gwr mawr o Gaerfyrddin yr un un â'r ' Bledhericus ' y disgrifia Gerallt Gymro ef fel rhamantwr enwog a fuasai farw ychydig yn gynt. Y mae'n sicr fod yr iaith Norman-Ffrangeg yn cael ei siarad yn rhwydd gan un a wasanaethai fel lladmerydd rhwng y ddwy genedl. Eler gam ymhellach ac nid annaturiol - er
  • teulu BRAOSE y Fenni a'u rhoi i farwolaeth mewn modd bradwrus. Dywed Gerallt Gymro, fodd bynnag, nad oedd ar fai am hyn a chyfeiria at sêl William a'i wraig dros grefydd. Yr oedd, y mae'n wir, yn noddwr priordai Aberhonddu a'r Fenni. Yr oedd William yn siryf swydd Henffordd, 1192-9; yn 1196 yr oedd yn farnwr teithiol dros swydd Stafford. Aeth gyda Richard I i Normandy yn 1195. Pleidiodd hawl John i'r goron
  • BROCHWEL YSGYTHROG (fl. 550), tywysog llwfrddyn ar yr un amgylchiad. Yn ôl ystori Melangell, santes Pennant, yn cael ei chadarnhau gan Gerallt Gymro, yr oedd ganddo sedd frenhinol yn Amwythig, sedd nas cymerasid hyd yn hyn gan y Merciaid ac a elwid o dan yr enw Cymraeg Pengwern; weithiau dywedir mai dyma'r man y mae castell Amwythig arno yn awr, eithr ar brydiau eraill dywedir mai lle y saif eglwys S. Chad (Hen) yr oedd.
  • CADWALADR (bu farw 1172), tywysog chynorthwyodd ef i ennill cestyll Rhuddlan a Phrestatyn yn 1167. Goroesodd Cadwaladr ei frawd Owain, gan farw 29 Chwefror 1172. Fe'i claddwyd yn eglwys gadeiriol Bangor; gwelodd Gerallt Gymro yn 1188 feddrod dwbl y ddau frawd ym mur y presbyteri yn agos i'r allor fawr. Dywed Gerallt amdano ei fod yn dywysog haelionus dros ben; yr unig enghraifft o hyn ydyw rhoddi eglwys Nefyn yn rhodd i abaty Haughmond - y
  • CADWGAN (bu farw 1241), esgob Bangor dynnwyd ohono gan Gerallt Gymro yn ei Speculum Ecclesiae - darlun nad oes dim yn eisiau ynddo ond yr enw. Fe'i tynnwyd gyda rhyfyg diofn a dylid bod yn ofalus iawn rhag ei dderbyn yn ei grynswth. Serch hynny, gellir dywedyd a chredu bod Cadwgan yn fab i offeiriad o Wyddel a mam a oedd yn Gymraes, iddo dderbyn addysg glerigol dda, a dyfod yn fynach yn urdd y Sistersiaid. Daeth yn ben ar abaty Ystrad
  • CARADOG FYNACH (bu farw 1124), meudwy ysgrifennodd Gerallt Gymro hanes Caradog; nid ydyw ar gael mwyach er, efallai, y ceir ei sylwedd yn Nova Legenda Anglie (arg. 1901), i, 174-6. Aeth Gerallt â'r hanes i Rufain a'i ddarllen gerbron Innocent III, gan amcanu cael canoneiddio ei gydwladwr; fe lwyddodd i raddau yn ei amcan gan iddo gael gan y pab lythyr yn dewis abadau y Tŷ-gwyn-ar-Daf, Llandudoch, ac Ystrad Fflur yn gomisiwn i edrych i'r achos (8
  • CURIG (fl. 550?), sant Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn
  • CYNOG (fl. 500?), sant eglwys yn Llangunnock ar afon Garren yn sir Henffordd ac un yn Llangunnock ar afon Pill yn sir Fynwy; y mae Cwrt Brychan yn agos at yr ail. Dywedir i'w dad roddi iddo wddfdorch ac i hon ddyfod yn grair a ystyrid yn werthfawr iawn gan bobl yr holl gylch. Ni chadwyd mo'r dorch, ond dywed Gerallt Gymro iddo ef ei gweled ac y mae'n rhoddi disgrifiad ohoni; barnai Syr T. D. Kendrick (o'r Amgueddfa Brydeinig
  • CYNWRIG ap RHYS (bu farw 1237), tywysog mab yr Arglwydd Rhys. Ni wyddid amdano onibai am yr argraff a wnaeth ar Gerallt Gymro pan oedd hwnnw'n teithio trwy Geredigion gyda'r archesgob Baldwin ar genhadaeth y groesgad. Dywed Gerallt ei fod yn ddyn ieuanc tal, golygus, gyda gwallt melyn cudynnog, wedi ei wisgo yn null Cymry'r cyfnod - crys a chlogyn tenau, heb ddim am ei draed - ond yn edrych yn osgeiddig ac urddasol. Tyfodd i fod yn