Canlyniadau chwilio

1441 - 1452 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1441 - 1452 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HUMPHREYS, JAMES (c . 1768 - 1830), ysgrifennwr ar faterion cyfreithiol Ganwyd yn Nhrefaldwyn, chweched plentyn Charles Gardiner Humphreys, cyfreithiwr. Addysgwyd ef yn ysgol Amwythig ac yna aeth at William Pugh, Caerhywel, Trefaldwyn. Yn ddiweddarach aeth i swyddfa cyfreithiwr o'r enw Yeomans yng Nghaerwrangon. Ym mis Tachwedd 1887 aeth i Lundain. Aeth yn ddisgybl i Charles Butler, ac fe'i cofrestrwyd yn Lincoln's Inn. Derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ar 25 Mehefin
  • HUMPHREYS, Syr SALUSBURY PRYCE (1778 - 1845), is-lyngesydd , dyrchafwyd ef yn is-lyngesydd ac yn 1834 yn farchog. Ar ôl ei ail briodas, â Maria Devonport o sir Gaerlleon, y cymerth ' Devonport ' (yn 1838) yn gyfenw ychwanegol. Bu farw 15 Tachwedd 1845.
  • HUMPHREYS, RHOBERT (fl. c. 1720), bardd a brodor (y mae'n debyg) o'r Rhagad, ger Corwen yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau gofyn i Tomas Carter o Ginmel (sir Ddinbych) ac i Tomas Holant o Deirdan, ger Llanelian (sir Ddinbych), ac amrywiol englynion, yn cynnwys rhai o fawl i Siôn Rhydderch, yr argraffydd o Amwythig, dau uwch bedd Huw Morus, y bardd, a rhai o anghlod i Niwbwrch, sir
  • HUMPHREYS, RICHARD (1790 - 1863), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gwleidyddiaeth, ond yr oedd yn un o'r rhai cyntaf ymhlith gweinidogion y Methodistiaid Calfinaidd i bleidio Rhyddfrydiaeth. Priododd, 1822, Ann, merch Capten William Griffith, y Cei, Abermaw. Bu ganddynt ddwy ferch, un ohonynt, Jennette, yn briod â'r Parch. Edward Morgan, Dyffryn. Bu Mrs. Humphreys farw yn 1852, a phriododd Richard Humphreys â Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal, yn 1858, aeth i Bennal i fyw, ac yno
  • HUMPHREYS, RICHARD GRIFFITH (Rhisiart o Fadog; 1848 - 1924), newyddiadurwr Ganwyd ym Mhorthmadog, mab Capten William Humphreys ac Elizabeth ei briod. Aeth i'r môr pan oedd yn 13 mlwydd oed. Trwy dro siawns digwyddodd brynu llyfr Saesneg, ac enynnodd hyn ynddo'r awydd am ddiwylliant. Trwy ei ymdrechion ef ei hun llwyddodd cyn bo hir i ennill medr mewn darllen ac ysgrifennu Saesneg a Chymraeg, a dysgodd beth Roeg a Lladin hefyd. Yn 1866 gwnaed ef yn negesydd mewn swyddfa
  • HUMPHREYS-OWEN, ARTHUR CHARLES (1836 - 1905), Aelod seneddol . Ymdaflodd i fywyd cyhoeddus Maldwyn (a Chymru), yn enwedig i fuddiannau addysg ganolraddol ac uwchraddol. Bu'n aelod seneddol dros y sir o 1894 hyd 1905, yn gadeirydd y Bwrdd Canol o 1896 hyd 1905, yn flaenllaw gyda Choleg y Brifysgol yn Aberystwyth, ac yn hyrwyddwr selog i Brifysgol Cymru. Yn wleidyddol, yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn. Bu farw 9 Rhagfyr 1905.
  • HUW ap DAFYDD (fl. c. 1550-1628), bardd Gan mai boneddigion Gogledd Cymru oedd gwrthrychau ei farddoniaeth mawl a marwnad, gellir tybio mai brodor o'r Gogledd oedd yntau (er bod Cambrian Biography, Cymru (O.J.), Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen, a Blackwell yn rhoi ei gartref yn Euas, sir Henffordd). Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau i Hywel ap Sion ap Dafydd ab Ithel
  • HUW ap RHISIART ap DAFYDD (fl. ail hanner y 16eg ganrif) Cefn Llanfair, bardd
  • HUW ap RHYS WYN (fl. c. 1550), bardd Aelod o deulu bonheddig Mysoglen, Llangeinwen, sir Fôn; gŵr Catrin ferch Lewys ab Owain ap Meurig o'r Frondeg, Llangaffo. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywydd i ofyn cwch pysgota gan Thomas Glyn, Glynllifon, cywydd i henaint, a chywydd mwy anghyffredin ei destun, sef marwnad i'w hoff gi a elwid Bwrdi. Ceir hefyd ymryson rhyngddo â Rhydderch ap Rhisiart. Gwelir ei
  • HUW ARWYSTLI (fl. 1550), bardd Credir ei fod yn frodor o blwyf Trefeglwys yng nghantref Arwystli, Sir Drefaldwyn, ac iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn yr ardal honno. Canodd lawer i brif foneddigion yr ardal. Am ei weithiau, gweler J. Afan Jones, 'Gweithiau Barddonol Huw Arwystli' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1926, heb ei gyhoeddi), ac yn ychwanegol, NLW MS 16B, NLW MS 18B, NLW MS 313D, NLW MS 436B, NLW MS 552B, NLW MS
  • HUW BODWRDA (fl. 1566) Fodwrda,, boneddwr, bardd, a noddwr beirdd
  • HUW CAE LLWYD (fl. 1431-1504), bardd o blwyf Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun (Cywydd y Wennol, Rhif XI), nid o Langyfelach fel y dychmygodd ' Iolo Morganwg.' Aeth yn gynnar yn ei fywyd ar daith glera i'r De, ac yno yr arhosodd drwy'i fywyd, yn sir Frycheiniog a Morgannwg, yn canu clodydd teuluoedd cefnog y Gamiaid, yr Hafardiaid, y Fychaniaid, a'r Herbertiaid. Lluniodd naw o awdlau a 35 o gywyddau, yn