Canlyniadau chwilio

1477 - 1488 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1477 - 1488 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • IEUAN ap GRUFFUDD LEIAF (fl. ail hanner y 15fed ganrif), bardd Aelod o un o deuluoedd sir Ddinbych, mab Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (19)). Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac awdlau i aelodau teulu'r Penrhyn a Nanconwy, cywyddau brud a chrefyddol, cywydd i Aberconwy, cywydd dychan i afon Llugwy am rwystro'r bardd ar ei ffordd i'r Penrhyn, ac
  • IEUAN ap IEUAN ap MADOG (fl. 1547-87), copïydd llawysgrifau Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn 1547, pan brynodd dyddyn a elwid Tire nant y Krynwyth ym mhlwyf Llangynwyd, Sir Forgannwg. Y pryd hwnnw preswyliai ym mhlwyf y Betws, lle yr oedd gan ei dad a'i frodyr ryw gymaint o ffermydd. Perthynai i gylch pwysig o gopïwyr llawysgrifau ym Morgannwg ar derfyn yr 16eg ganrif. Ef, yn 1574, a ysgrifennodd lawysgrif Llanstephan 171 sy'n cynnwys testunau rhyddiaith
  • IEUAN ap MADOG ap DAFYDD (fl. c. 1500), bardd Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau moliant i Syr William Gruffudd o'r Penrhyn a Sion Pilstwn, marwnad y bardd Syr Dafydd Trefor, ymryson ag Ieuan Delynor, a dychan i Badrig Wyddel.
  • IEUAN ap RHYDDERCH ap IEUAN LLWYD (fl. 1430-70), uchelwr a bardd Vychan ab Ieuan ap Rhys ap Llawdden, a (2) â Mawd ferch Syr William Clement, arglwydd Tregaron. Anodd yw penderfynu ai rhyw Rhydderch ap Ieuan Llwyd arall oedd tad y bardd, neu a briododd efe deirgwaith. Cysylltir Ieuan â dwy ardal yn Sir Aberteifi, eithr â Genau'r Glyn yn hytrach na Glyn Aeron y cysylltir ef yn y llawysgrifau cynharaf. Er hynny, y mae'n bosibl ei eni yng Nglyn Aeron, ac iddo dreulio
  • IEUAN ap RHYS ap LLYWELYN (fl. dechrau'r 16eg ganrif), bardd Cadwyd dwy enghraifft (o leiaf) o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywydd i'r frech a chywydd i Syr Rhys ap Tomas o Ddinefwr, Sir Gaerfyrddin.
  • IEUAN BRECHFA (c.1430 - 1500), bardd ac achyddwr Brodor o Brechfa yn Sir Gaerfyrddin. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ôl pob tebyg y mae rhan o Peniarth MS 131 (199-308), llawysgrif achau, yn llaw'r bardd. Ceir cyfeiriadau mewn gwahanol lawysgrifau eraill hefyd at ei lyfr achau, sef yn Peniarth MS 128, Peniarth MS 132, Peniarth MS 133, Peniarth MS 139i, Peniarth MS 139ii Peniarth MS
  • IEUAN BRYDYDD HIR (fl. c. 1450), bardd dywedir ei fod yn frodor o Ardudwy yn Sir Feirionnydd. Ni wyddys dim pendant o'i hanes, ond cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, ac argraffwyd o leiaf ddau o'i gywyddau. Ymhlith ei farddoniaeth ceir awdlau i Dduw, cywydd i Dduw a'r Forwyn Fair, cywydd i Wenfrewi S., cywydd a wnaeth y bardd yn ei henaint, cywydd i ofyn tarw, a dau gywydd ymryson â'r bardd Tudur Penllyn.
  • IEUAN CLYWEDOG (fl. c. 1577-96), bardd Brodor, y mae'n debyg, o ddyffryn Clywedog yn Sir Drefaldwyn. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau ac yn ei phlith gywyddau traddodiadol, a gyfansoddwyd rhwng tua 1577 a 1596 i aelodau teuluoedd Cefn Digoll, Gartheryr, Mallwyd, Mathafarn, a Moelyrch; cedwir cywydd i'r brithyll hefyd. Ceir enghreifftiau o'i farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Cardiff MS. 84, Cwrtmawr MS 12B
  • IEUAN DEULWYN (fl. c. 1460), bardd brodor o Gydweli, Sir Gaerfyrddin. Cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, y rhan fwyaf ohono yn gywyddau i gylch eang o foneddigion cyfoes. Yn eu plith ceir rhai i Wiliam, iarll Penfro, a'i frawd Syr Rhisiart Herbert, a laddwyd ym mrwydr Banbury (1469), ac i fab ifanc Syr Rhisiart, i Dr. Siôn Morgan, esgob Tyddewi, Wiliam Siôn o Lanegwad, Dafydd Llwyd ap Gwilym o Gastell Hywel, Llywelyn ap
  • IEUAN DRWCH y DARAN (fl. c. 1370-1400?), bardd Cyhoeddwyd enghraifft o'i waith, sef proffwydoliaeth, yn The Myvyrian Archaiology of Wales, i, 554. Priodolwyd proffwydoliaeth arall yn Peniarth MS 58 i'r 'brawd Ieuan,' ac awgrymwyd mewn man arall (Early Vaticinatory Material …) mai Ieuan Drwch y Daran oedd hwnnw.
  • IEUAN (IFAN) DYLYNIWR (fl. 1520-67), telynor a bardd Efallai ei fod yn frodor o blwyf Aberdaron; ceir cywydd gan Huw ap Richard ap Sion ap Madog o Bodwrdda yn gofyn iddo ' beth oedd yn i ddal ef allan o'i wlad … ' Fe'i graddiwyd yn delynor yn eisteddfod gyntaf Caerwys. Bu'n 'ymryson' a Huw ap Richard, a gwelir oddi wrth yr 'ymryson' honno ei fod yn clera - yn y Penrhyn (plwyf Llandegai), Raglan (sir Fynwy), etc. Canwyd marwnad iddo yn 1567 gan
  • IEUAN FYCHAN ap IEUAN ab ADDA (bu farw c. 1458), uchelwr a bardd Ceir llawer o fanylion amdano yn llyfr Mostyn a T. Allen Glenn, History of the Family of Mostyn of Mostyn (Llundain, 1925). Yn Pengwern, sir Ddinbych, yr oedd yn byw cyn iddo briodi Angharad, aeres Mostyn. Yr oedd yn gyfeillgar â rhai o'r beirdd, e.e. Guto'r Glyn a Maredudd ap Rhys, a cheir ychydig o'i waith ef ei hun yn y llawysgrifau, e.e. yr 'ymryson' rhyngddo â Maredudd ap Rhys. Awgrymir gan