Canlyniadau chwilio

1549 - 1560 of 1816 for "david lloyd george"

1549 - 1560 of 1816 for "david lloyd george"

  • teulu SYMMONS Llanstinan, JOHN SYMMONS (1701 - 1771?), aelod seneddol Aberteifi Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol Mab John Symmons, Llanstinan, (siryf Sir Benfro, 1713), a Martha, merch George Harries, Tregwynt; ganwyd 12 Medi 1701. Methodd â chael ei ddewis yn aelod seneddol sir Benfro yn 1741 eithr llwyddodd i gael cynrychioli Aberteifi yn 1746 (20 Mawrth); daliodd y sedd hyd 1761. Rhoes gymorth ariannol tuag at
  • TALBOT, CHARLES (y barwn Talbot o Hensol (sir Forgannwg) 1af), (1685 - 1737), arglwydd-ganghellor D.N.B., etc.) ynghlwm â hanes Prydain. Pan briododd, yn haf 1708, y dechreuwyd y cyswllt â Chymru. Ei wraig oedd Cecil, merch Charles Mathew, Castell Menich, Sir Forgannwg, ŵyres ac aeres y barnwr David Jenkins, Hensol. Adeiladodd gastell ar y dull Tuduraidd yn Hensol, castell y gwnaeth ei fab ychwanegiadau ato yn ddiweddarach. Dyrchafwyd yr arglwydd-ganghellor i'r bendefigaeth ar 5 Rhagfyr 1733. Bu
  • TALIESIN (fl. ail hanner y 6ed ganrif), bardd Urien a'i feibion ymladd yn erbyn Deodric, mab Ida. Rhydd Lloyd, A History of Wales, 163, deyrnasiad Theoderic yn 572-9, a Hussa yn 585-92. Yn ' Llyfr Taliesin,' llawysgrif o tua 1275, cadwyd hengerdd a dybid ei bod yn waith Taliesin. Yno ceir canu i Urien a'i fab Owain a mawl i Wallawg ab Lleenawg; hefyd i Gynan Garwyn ap Brochfael, tad y Selyf a laddwyd ym mrwydr Caer (613 neu 615). Rhyw ddwsin sydd
  • teulu THELWALL Plas y Ward, Bathafarn, Plas Coch, Llanbedr, . Pan oedd yn 22 mlwydd oed gadawodd y llys i briodi Elisabeth, merch a chydetifeddes Robert ap Wyn o Bacheirig a Bryn-cynric. Gwnaed ef gan y brenin Iago yn oruchwyliwr castell Rhuthyn am ei oes. RICHARD THELWALL (bu farw 1630) Pedwerydd mab John Wynn Thelwall, a briododd Margaret, merch ac etifeddes John ab Edward Lloyd o Blas Llanbedr, Dyffryn Clwyd. Yno yr ymsefydlodd ef, ac o'r briodas hon y
  • THICKENS, JOHN (1865 - 1952), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur Ganwyd 9 Mawrth 1865 yn Aber-nant-cwta, Cwmystwyth, Ceredigion, mab i David a Sarah Thickens. Bu farw'i dad pan oedd yn ieuanc, a symudodd y fam a'i theulu i'r Pentre, Cwm Rhondda, ac yno, yn eglwys Nasareth, y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a'r un flwyddyn priododd Cecilia Evans o Ddowlais (chwaer Syr David W. Evans); ganwyd
  • THIRLWALL, CONNOP (1797 - 1875), esgob Tyddewi ' (David James, 1803 - 1871) lythyr cryf at Thirlwall yn erfyn arno wrthod yr esgobaeth, ar y tir na ddylid bod yn esgob yng Nghymru heb fedru Cymraeg - gweler y llythyr yng nghofiant James, 32-9. Eithr nid yn unig ni ddaliodd Thirlwall unrhyw ddig at David James (cynigiodd archddiaconiaeth iddo yn 1860), ond aeth ati i ddysgu Cymraeg, ac ymhen blwyddyn gallai bregethu yn Gymraeg; cyhoeddwyd cyfrol o'i
  • THODAY, DAVID (1883 - 1964), botanegydd, Athro prifysgol Ganwyd 5 Mai 1883 yn Honiton, Dyfnaint, yr hynaf o chwe phlentyn David a Susan Elizabeth (ganwyd Bingham) Thoday. Ysgolfeistr oedd y tad, a symudodd y teulu i Lundain lle y cafodd y mab ei addysg yn ysgol ramadeg Tottenham, 1894-98, cyn ymaelodi yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt yn 1902. Arbenigodd mewn botaneg o dan gyfarwyddyd H. Marshall Ward, A.C. Seward a F.F. Blackman. Cafodd ddosbarth
  • THODAY, MARY GLADYS (1884 - 1943), gwyddonydd, etholfreintwraig, ymgyrchydd heddwch (1883-1964), yntau hefyd yn fotanegydd; priododd y ddau yn Eglwys Gresffordd yn 1910. Ganwyd iddynt bedwar mab, David Robert Gabriel Thoday, a elwid yn Robin (1911-1983); Peter Murray Thoday (1913-1999); John Marion Thoday (1916-2008), Athro Balfour mewn Geneteg ym Mhrifysgol Caergrawnt 1959-1983, a Michael George Thoday (1920-1989). Cyhoeddodd Gladys nifer o bapurau gwyddonol, cyn ac ar ôl ei
  • teulu THOMAS Wenvoe, 1814 ond ni bu iddo swydd weithredol wedi hynny. Priododd 7 Awst 1816, Susannah, merch Arthur Atherley; bu iddynt dri mab a merch. Ymddeolodd ar 1 Hydref 1846 gyda'r gradd o is-lyngesydd a bu farw ar 19 Rhagfyr 1855. CHARLES NASSAU THOMAS Nai Syr Edmund Thomas. Yr oedd mor gyfeillgar â George, tywysog Cymru (George IV wedi hynny) ag a fuasai Syr Edmund â Frederick, tywysog Cymru. Yr oedd yn gyrnol yn
  • THOMAS, BENJAMIN (Myfyr Emlyn; 1836 - 1893), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, darlithydd, ac awdur Ganwyd yn Nhŷ-rhos, Eglwys Wen, Sir Benfro, yn Hydref 1836, y seithfed o wyth plentyn David ac Elizabeth Thomas - brawd iddo oedd Stephen Thomas, gweinidog Pantycelyn. Yr oedd ei dad yn un o sylfaenwyr eglwys Bethabara yn 1826 ac yn ddiacon yno o'r cychwyn hyd ei farw; ac yn ei gartref ef yn 1823 y cychwynnwyd yr ysgol Sul yn nyddiau cynnar yr achos yn yr ardal. Cafodd ei addysg fore yn ysgol
  • THOMAS, BENJAMIN BOWEN (1899 - 1977), addysgwr oedolion a gwas sifil . A thrwy ei safle blaenllaw fel diplomydd diwylliannol i UNESCO llwyddodd i gyfrannu i gydweithio deallusol a datblygiad bydeang. Yn y ddau gylch, tynnodd ar draddodiadau Cristnogol Cymru o ymrwymiad cymdeithasol a rhyngwladoldeb delfrydol y ffurfiwyd ef ganddynt, gan ychwanegu iddynt ei bragmatiaeth nodweddiadol. Dylanwadwyd arno gan esiampl David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam, hyrwyddwr
  • THOMAS, CLARA (1841 - 1914), tirfeddiannwr a dyngarwr Gynghorydd Sir yn cynrychioli Llanfihangel Abergwesyn. Roedd ganddi gymdeithion yn gefn iddi yn Margaret Gertrude Lewis Lloyd (1830-1907) o Nantgwyllt, Cecilia Agnes Ann Turner (1851-1932) Dolyffin a Rosalind Margaret Phillimore (1881-1953). Teithiai'n flynyddol ar y Daith Fawr yn Ewrop ac yn ddiweddarach i'r Aifft. Yn athrawes fedrus, cynhaliodd ddosbarthiadau ysgol ac ysgolion Sul gyda Margaret Lloyd. Yn