Canlyniadau chwilio

2005 - 2016 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2005 - 2016 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • teulu KENRICK Wynn Hall, Bron Clydwr, Wrecsam, yn yr 'Old Meeting,' a daeth yn ymddiriedolwr gwaddoliadau'r eglwys hònno yn 1747. Am chwe mab JOHN KENRICK I - yr oedd JOHN KENRICK II (aer Wynn Hall; bu farw 1803) a WILLIAM KENRICK (gof pres yn Wrecsam; bu farw 1793) ill dau yn ymddiriedolwyr y 'New Meeting' (1783); yr oedd John (a briododd aelod o hen deulu Anghydffurfwyr yn Sir Drefaldwyn, sef Quarrell, Llanfyllin) yn ymddiriedolwr yr Hen
  • KENWARD, JAMES (fl. 1868), awdur a bardd a oedd yn byw yn Smethwick, ger Birmingham, yn 1868. Cynnwys ei weithiau cyhoeddedig gerdd Saesneg a gyfansoddwyd ar gyfer eisteddfod genedlaethol Llangollen yn 1858, sef A Poem of English Sympathy with Wales; casgliad a elwir For Cambria: themes in Verse and Prose; a bywgraffiad John Williams ('ab Ithel') a gyhoeddwyd gyntaf yn y Cambrian Journal.
  • teulu KENYON Dechreuodd cysylltiad teulu Kenyon â Chymru gyda phriodas (c. 1694) THOMAS KENYON (1668 - 1731), pedwerydd mab ROGER KENYON, Peel, Lancashire, a Catherine (ganwyd 1660), merch ac aeres Luke Lloyd (bu farw 1695), Bryn, plwyf Hanmer, Sir y Fflint; yr oedd teulu Luke Lloyd wedi ymsefydlu yng nghantref Maelor Saesneg ers blynyddoedd lawer ac yn hawlio eu bod yn disgyn o Rodri Mawr. Bu Luke Lloyd yn
  • KILMISTER, IAN FRASER (1945 - 2015), cerddor . Aeth i ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, ac wrth iddo hel atgofion am ei brofiadau, dywedodd 'funnily enough, being the only English kid among 700 Welsh ones didn't make for the happiest time - but it was interesting from an anthropological point of view'. Yn y cyfnod hwn fe dderbyniodd y llys-enw 'Lemmy'; er i'r stori fynd ar led fod yr enw yn deillio o'i arfer o ymbil yn ddi-baid ar ei ffrindiau
  • KILVERT, ROBERT FRANCIS (1840 - 1879), clerigwr a dyddiadurwr Ganwyd 3 Rhagfyr 1840 yn Hardenbuish gerllaw Chippenham, lle yr oedd ei dad (Robert) yn offeiriad. Graddiodd yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, yn 1862 (M.A. 1866). Wedi bod yn gurad i'w dad, aeth yn gurad Cleiro (sir Faesyfed) yn 1864, a bu yno hyd 1876. Yn 1876 cafodd fywoliaeth Llanarmon (S. Harmon's) yn yr un sir, ond yn 1877 cafodd fywoliaeth Bredwardine yn sir Henffordd; yno y bu farw 23 Medi
  • KINSEY, WILLIAM MORGAN (1788 - 1851), clerigwr, teithiwr, ac awdur cyhoeddodd lyfr a gyfrifid yn werthfawr am gyfnod, sef Portugal Illustrated: in a series of letters, embellished with a map, plates of coins, etc. (London, 1828; 2il arg. yn 1829). Bu wedyn yn teithio yn Belgium (gyda'r viscount Alford), a digwyddodd fod yn llygad-dyst o'r cythrwfl yn Brussels yn Awst 1830 ar adeg gwrthryfel. Tua'r flwyddyn 1832 (1831?) dewiswyd ef yn weinidog S. John's, Cheltenham, lle yr
  • KNIBB, MARY (c.1798 - 1866), diddymydd a diwygydd cymdeithasol Ganwyd Mary Knibb tua 1798 ym mhlwyf Pontypŵl, Sir Fynwy. Watkins oedd enw ei rhieni, a bu'r ddau farw pan oedd Mary yn ifanc. Nid oes fawr ddim yn hysbys am ei bywyd cynnar, ond gellir tybio iddi aros yng Nghymru gan fod sôn ei bod yn siarad Cymraeg. Erbyn Mawrth 1823 roedd wedi symud i Fryste, lle daeth yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Broadmead. Bu'n dysgu yn yr ysgol Sul gyda William Knibb
  • KNIGHT, HENRY HEY (1795 - 1857), clerigwr a hynafiaethydd chwaer (hynaf) y tri brawd, ANNE BASSETT KNIGHT (1794 - 1825), yn wraig i'r Parch. John Blackmore, ac felly'n fam i'r nofelydd Richard Doddridge Blackmore. Bwriai hwnnw yn ei ieuenctid lawer o'i amser yng Nghwrt Notais gyda'i ewythr H. H. Knight; darluniodd ef yn un o'i nofelau, a chafodd lawer o arian ar ei ôl. Yng Nghwrt Notais y dechreuodd Blackmore sgrifennu The Maid of Sker, ac â'r gymdogaeth
  • KNIGHT, WILLIAM BRUCE (1785 - 1845), clerigwr, gweinydd, ac ysgolhaig Cymraeg Ganwyd 24 Rhagfyr 1785 yn Braunton, Dyfnaint, ail fab John Knight a Margaret, merch William Bruce, Duffryn, Aberdâr, a brawd i John Bruce Pryce. Ar ochr ei fam yr oedd yn ŵyr i William Bruce, Llanbleddian, a Jane, ŵyres Syr Thomas Lewis, Llanishen. Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd ei rieni i Lanbleddian ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen cyn iddo fynd i ysgol Sherborne ac wedyn i Goleg
  • KOTSCHNIG, ELINED PRYS (1895 - 1983), seicdreiddydd a heddychwraig Ganwyd Elined Prys ar 16 Chwefror 1895 yn Nhrefeca, Talgarth, Sir Frycheiniog, yr hynaf o ddwy ferch Owen Prys, Pennaeth Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yno, a'i wraig Elizabeth (g. Parry). Symudodd y teulu i gartref newydd yn Lluest, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, pan adleolwyd y coleg yn 1906, ac aeth Elined ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn Ionawr 1918, a rhai
  • KROCH, HEINZ JUSTUS (1920 - 2011), peiriannydd a dyn busnes cyntaf. Kroch oedd cadeirydd y Grŵp Llywio yn 1988 pan gynhyrchodd ei adroddiad cyntaf, Cymoedd De Cymru: Agenda i Weithredu, a daeth yn hyrwyddwr angerddol dros argymhellion y ddogfen. Ysgrifennodd yn y Rhagair: 'Most of my working life has been spent in the Valleys and nowhere is now closer to my heart'. Mabwysiadwyd llawer o'i awgrymiadau gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Peter Walker, yn ei
  • KYFFIN, EDWARD (c. 1558 - 1603), clerigwr a mydryddwr salmau Credir mai ef oedd 'my brother Edward Kyffyn preacher' a enwir yn ewyllys Maurice Kyffin ac a'i profodd; os felly, yr oedd yn fab Thomas Kyffin o Groesoswallt a Chatrin, merch ieuengaf Robert Lloyd o Blas Hersedd, Sir y Fflint. Prin iawn yw'r wybodaeth am ei yrfa. Ganed ef yng Nghroesoswallt. Aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt, ond nid ymddengys iddo gymryd gradd. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Llundain