Canlyniadau chwilio

2065 - 2076 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2065 - 2076 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LEWIS, FRANCIS (1713 - 1802), un o'r rhai a arwyddodd y 'Declaration of Independence', U.D.A. ei eni a dywed ei fod 'the only child of the Rev. Francis Lewis, rector of Llandaff, Glamorganshire, Wales, and Amy Pettingal of Caernarvon.' Y mae'n amlwg bod cyfeirio at 'Parish of Llandaff' yn anghywir; nid oes hanes am yr un Dr. Pettingal yn ficer Llanbeblig, y plwyf yr oedd bwrdeisdref Caernarfon ynddo y pryd hwnnw. Bu gan yr aldramon Francis Pettingale, Casnewydd-ar-Wysg, sir Fynwy, a fu farw
  • LEWIS, GEORGE (Eiddil Llwyn Celyn; 1826? - 1858), crydd a bardd Ganwyd mewn bwthyn ym mynydd-dir sir Gaerfyrddin, mab gweithiwr amaethyddol ag iddo deulu mawr. Ychydig o addysg a gafodd, ond yr oedd iddo ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth Gymraeg. Daeth gyda'i deulu i Heolyfelin (Trecynon), gan weithio wrth ei grefft o grydd a rhoi rhai o'i oriau hamdden i farddoni a chystadlu mewn eisteddfodau lleol. Enillodd wobr yn eisteddfod y Carw Coch (Stag Inn) - gweler
  • LEWIS, GEORGE (c. 1640? - 1709?), clerigwr ac awdur Tybir mai un o gyffiniau Llanboidy yn Sir Gaerfyrddin ydoedd; ordeiniwyd ef yn ddiacon 2 Mehefin 1667, ac yn offeiriad 21 Medi yr un flwyddyn. Gwasanaethodd fel curad yn Sain Cler ac efallai yn Llanboidy. Dichon mai ef a ddyrchafwyd yn rheithor Henllan Amgoed yn yr un gymdogaeth, 3 Mehefin 1668, ac yn yr un flwyddyn (14 Medi) sefydlwyd ef yn ficer Abergwili. Daeth ei olynydd yno ym Medi 1709
  • LEWIS, GEORGE (1763 - 1822), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd Ganwyd yn 1763 yn Coed yn ymyl Trelech, Sir Gaerfyrddin. Ymaelododd yng Nghapel y Graig, Trelech. Bu am dymor yn ysgol John Griffiths, Glandŵr, ac yn ddiweddarach yn ysgol David Davis, Castell Hywel. Derbyniwyd ef, yn 18 oed, i'r academi yng Nghaerfyrddin. Y prifathro ar y pryd oedd Robert Gentleman. Wedi cwrs o dair blynedd yn yr academi derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys Annibynnol yng
  • LEWIS, Syr GEORGE CORNEWALL (1806 - 1863), gwleidyddwr daeth ar unwaith yn ganghellor y trysorlys yng ngweinyddiaeth gyntaf Palmerston (1855-8). Yn ail weinyddiaeth Palmerston bu'n ysgrifennydd cartrefol ac wedyn yn ysgrifennydd rhyfel. Bu farw yn Harpton Court, 13 Ebrill 1863, yn 56 oed. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau niferus yn y D.N.B. ' The most rapid political rise of our time ' oedd disgrifiad Walter Bagehot o'i yrfa.
  • LEWIS, GRUFFYDD THOMAS (1873 - 1964), ysgolfeistr a lleygwr blaenllaw yng nghyfundeb y MC pregethu. Bu ef farw yn 1896 yn 66 oed, a hithau mewn gwth o oedran yn 1933. Yr oedd hi o'r un teulu â William Williams, A.S. Enwyd y mab yn Gruffydd Thomas o barch i flaenor o'r enw hwnnw a oedd yn gyfaill mynwesol i'w dad yn Aberystwyth. Cafodd G. Tom Lewis ei addysg yn ysgol elfennol Llan-y-bri ac Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac oddi yno yr aeth gydag ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri yn 1889
  • LEWIS, Syr HENRY (1847 - 1923) Ngogledd Cymru, lleygwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd History of Friars School, Bangor, ac yn 1907 lyfr ar Eglwys y Tabernacl, Bangor, sy'n cynnwys hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar hanes y dref. Priododd (1872) ag Anne, ferch Roger Edwards; cawsant saith o blant. Urddwyd ef yn farchog yn 1911. Bu farw 16 Tachwedd 1923.
  • LEWIS, HENRY (1889 - 1968), ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd, ac Athro prifysgol Ganwyd 21 Awst 1889, mab ieuangaf William Lewis, o Ynystawe, Morgannwg. O ysgol sir Ystalyfera aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd lle y graddiodd yn y Gymraeg, ac yna i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio wrth draed yr Athro Syr John Rhŷs. Enillodd raddau M.A. a D.Litt. (Cymru). Dechreuodd ei yrfa fel athro yn ei hen ysgol yn Ystalyfera ac wedyn yn ysgol sir Llanelli. Yn ystod Rhyfel Byd I
  • LEWIS, HENRY GETHIN (1872 - 1945), marsiandwr a dyn busnes Ganwyd 5 Ebrill 1872, ym Mhontlotyn, sir Fynwy, mab James a Margaret Lewis. Aeth i ysgol Lewis, Pengam, ac wedi hynny i swyddfa ewythr iddo a oedd yn ben ar y ' Bute Works Supply Co. ', Caerdydd. Bu yn y busnes hwnnw 21 mlynedd gan ddyfod yn bartner a phan wnaethpwyd y cwmni yn un 'cyfyngedig', yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd. Cynullodd gyfres o dablau a gyhoeddwyd (yn Y Fenni, 1899) o dan y
  • LEWIS, HOWELL ELVET (ELFED; 1860 - 1953), gweinidog (A); emynydd, bardd Ganwyd 14 Ebrill 1860 yn fab hynaf o ddeuddeg o blant i James ac Anna Lewis, yn 'Y Gangell', ger Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Brawd iddo oedd Thomas Lewis. Bychan fu enillion y tad fel 'gwas mawr' ym Mhencraig-fawr a bu'r fam yn chwyddo'r gôd drwy gadw siop yn y cartref ym Mhant-y-waun. Prin fu cyfle Howell i addysg. Dysgodd yr ABC o lythrennau mawr Beibl ei dad, a'r cartref a'r Ysgol Sul fu ei
  • LEWIS, HUBERT (1825 - 1884), gŵr o'r gyfraith ail fab Edward Clapham Lewis, Ripon, sir Gaerefrog. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, a daeth yn fargyfreithiwr (Middle Temple) ym mis Mai 1854. Bu'n ŵr prysur yn ei alwedigaeth, yn arbennig fel un yn trefnu trosglwyddiadau ('conveyances'), eithr gwnaeth fwy o enw iddo'i hun fel ysgrifennwr ar rai materion cyfreithiol. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae Principles of Conveyancing, 1863
  • LEWIS, HUGH (1562 - 1634), clerigwr ac awdur o deulu yn nhrefdaeog Bodellog ger Caernarfon. Cyfenwid ei hendaid yn ' William Bodellog,' a'i daid yn ' William ap William '; cafodd hwnnw (o'i wraig Margaret Bennett) dri mab, Ieuan, Rhys, a Lewis. Priododd Lewis ag Agnes ferch William Foxwist o'r Prysgol, o deulu o fan foneddigion, a ganed iddynt bedwar mab - Hugh, Griffith, Richard, a John. Cafodd Hugh Lewis ddigon o addysg i'w alluogi i