Canlyniadau chwilio

217 - 228 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

217 - 228 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • CARR, HENRY LASCELLES (1841 - 1902), newyddiadurwr a pherchennog newyddiaduron Ganwyd yn Knottingley, sir Efrog, yn fab i'r Parch. James B. Carr a fwriodd dymor yn y Barri yn weinidog gyda'r Wesleaid. Addysgwyd y bachgen yng ngholeg diwinyddol S. Aidan, Birkenhead, ond ar ddiwedd ei gwrs yno penderfynodd adael y pulpud am y Wasg. Wedi treulio peth amser yn swyddfa'r Daily Post yn Lerpwl aeth yn is-olygydd ar y Western Mail, Caerdydd, pan sefydlwyd y papur hwnnw yn 1869; ar
  • CARRINGTON, THOMAS (Pencerdd Gwynfryn; 1881 - 1961), cerddor ac argraffydd Ganwyd yn y Gwynfryn, Bwlch-gwyn, ger Wrecsam, Sir Ddinbych, 24 Tachwedd 1881, yn fab i John Carrington (disgynnydd i un o'r teuluoedd a ymfudodd o Gernyw erbyn dechrau'r 19eg ganrif i weithio i'r Mwynglawdd, sir Ddinbych) a Winifred (ganwyd Roberts), brodor o Fryneglwys. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei oes yn y Gwynfryn, a'i addysgu yn ysgol Bwlch-gwyn. Ar ôl gadael yr ysgol fe'i prentisiwyd yn
  • CARTER, ISAAC (bu farw 1741), argraffydd a gaiff y clod o sefydlu'r wasg argraffu barhaol gyntaf yng Nghymru Sefydlodd Carter ei wasg yn Atpar (a elwid hefyd yn ' Trefhedyn') ym mhlwyf Llandyfriog, Sir Aberteifi, sef yn y rhan honno o dref Castellnewydd Emlyn sydd ar ochr Sir Aberteifi i afon Teifi. Yn 1718 y daeth y pethau cyntaf allan o'r wasg, sef dwy faled - Cân o Senn i'w hen Feistr Tobacco, gan Alban Thomas, a Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a'i Chynheddfau, y ddau gyhoeddiad yn nodedig o
  • teulu CARTER Cinmel, (Rhif 7). Dilynwyd Pyrs (J. E. Griffith, Pedigrees, 259), gan fab, David, gan wyr, PYRS (siryf sir Ddinbych, 1578), a chan or-wyr, DAVID (siryf sir Ddinbych, 1596), y profwyd ei ewyllys yn 1616. Gadawodd y David hwn ddwy gyd-aeres a oedd yn fabanod, sef Mary ac ELIZABETH (gelwir hi yn 'Catherine' gan Pennant, ac yn ' Dorothy ', sef enw ei mam, mewn rhai llyfrau). Yn 1641 priododd Mary, William Price
  • CARTER-JONES, LEWIS (1920 - 2004), gwleidydd Llafur Myfyrwyr a chan fod ganddo ddiddordeb ysol mewn pob math o chwaraeon, daeth yn gapten ar dimau hoci'r coleg, y brifysgol a'r sir. Daeth yn bennaeth ar adran astudiaethau busnes Ysgol Ramadeg Yale, yn ddiweddarach Ysgol Dechnegol Wrecsam, a dewiswyd ef yn reffari rygbi. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol, lle daeth yn awyr-rhingyll (llyw-wr). Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1940 tra
  • CASNODYN (fl. 1320-1340), bardd Y cyntaf o feirdd Morgannwg y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Canai hefyd yng Ngwynedd a Cheredigion. Nid yw'n gwbl sicr pa awdlau y dylid eu priodoli iddo. Ceir ymhlith ei waith yn Llyfr Coch Hergest ddarnau a briodolir yn y The Myvyrian Archaiology of Wales i Ruffudd ap Maredudd, a rhydd y The Myvyrian Archaiology of Wales i Gasnodyn yr awdl i Ieuan abad Aberconwy sydd yn ôl y Ll. Coch yn
  • CATHERALL, JONATHAN (1761 - 1833), diwydiannwr a dyngarwr , Hawkesbury House, a adeiladodd yn 1801, ac yn 1811 prynodd ddarn o dir, ac ar ei draul ei hun cododd gapel newydd yno. Yr oedd yn gasglwr ar ran y Feibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor yn Sir y Fflint. Bu ei wraig farw yn 1807 yn 35 oed, ac o'r wyth blentyn a anwyd iddynt bu pump farw yn ieuainc. Yn 1818 bu ei ddwy ferch farw o dwymyn, un yn 24 a'r llall yn 23 oed. Cymerodd ei fab William yn bartner yn y
  • CATRIN (KATHERYN) o'r BERAIN (Mam Cymru; 1534/5 - 1591) Ganwyd Catrin yn 1534-5, yn ferch Tudur ap Robert Fychan o'r Berain, plwyf Llanyfydd, sir Ddinbych, o'i wraig Jane, merch Syr Roland Velville (bu farw 1527), mab gordderch Harri VII, a'i gwnaeth yn gwnstabl castell Biwmares, ac a roes Benmynydd, Môn, iddo. Daeth Penmynydd a Berain yn eiddo i Catrin maes o law. Bu Catrin yn briod bedair gwaith, ac y mae'n bwysig croniclo ei phriodasau a'i
  • CAYO-EVANS, WILLIAM EDWARD JULIAN (1937 - 1995), actifydd gwleidyddol Ganwyd Cayo Evans ar 22 Ebrill 1937 yng Nglandenys, Silian, plasty wrth ymyl y ffordd fawr ddwy filltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan. Roedd ei dad, John Cayo Evans (1879-1958) yn Athro Mathemateg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan a bu'n Uchel Sirydd Sir Aberteifi yn ystod 1941-42. Ei fam oedd Freda Cayo Evans (ganwyd Cluneglas) o Gellan, Ceredigion. Fe'i haddysgwyd yn ysgol
  • teulu CECIL Alltyrynys, Burghley, Hatfield, arglwyddiaeth Morgannwg yn yr 11eg ganrif, y sonia hanes am gyndad y teulu, ROBERT SITSYLLT; trwy briodas ag aelod o deulu Cymreig a gollodd ei dir ar law'r Normaniaid y cafodd Robert Sitsyllt hen gartref y teulu, sef Alltyrynys (yn Swydd Henffordd y mae'n awr, er bod ystadau'r teulu'n ymestyn i sir Fynwy). O hyn ymlaen ceir hanes am y Sitsylltiaid yn ymbriodi ag aelodau teuluoedd Normanaidd ac yn aml yn
  • CECIL-WILLIAMS, Syr JOHN LIAS CECIL (1892 - 1964), cyfreithiwr, ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a phrif hyrwyddwr cyhoeddi'r Bywgraffiadur Cymreig Ganwyd 14 Hydref 1892 yn Paddington, Llundain, yn un o ddau blentyn y Dr. John Cadwaladr Williams, meddyg, a Catherine (ganwyd Thomas) ei wraig. (Cymerodd y mab y cyfenw Cecil-Willams drwy weithred newid enw yn 1935.) Hanai'r teulu o Uwch Aled. Addysgwyd ef i ddechrau yn Llundain, ac wedi cyfnod o ryw flwyddyn yn ysgol bentref Cerrig-y-drudion dychwelodd i Lundain a mynd i'r City of London School
  • CEMLYN-JONES, Syr ELIAS WYNNE (1888 - 1966), gwr cyhoeddus Mrycheiniog a Maesyfed 1929. Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus, e.e. Cyngor Sir Môn o 1919 ymlaen (bu'n gadeirydd 1928-30 ac yn henadur), Cymdeithas y Cynghorau Sir, Pwyllgor Milne ar Gyflenwad Dwr, Pwyllgor Athlone ar y Gwasanaethau Nyrsio, Pwyllgor Rushcliffe ar Gyflogau Nyrsys, Cyngor Canolog Whitley y Gwasanaeth Iechyd, Cyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Coleg Prifysgol