Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 1076 for "henry morgan"

13 - 24 of 1076 for "henry morgan"

  • BANKES, Syr JOHN ELDON (1854 - 1946), barnwr Ganwyd yn Llaneurgain 17 Ebrill 1854, yn fab i John Scott Bankes, plas Sychtyn, ac yn or-ŵyr i John Scott (yr Arglwydd Ganghellor Eldon); disgynnai'n uniongyrchol hefyd o John Wynne (1667 - 1743), Esgob Llanelwy, gan i ferch Wynne briodi Henry Bankes - stâd yr esgob yn Sychtyn oedd tref-tad J. E. Bankes. Aeth i Eton ac i Goleg Eglwys Crist (rhwyfodd dros Rydychen yn erbyn Caergrawnt); aeth yn
  • teulu BARHAM Trecwn, Yn Cheltenham ar 1 Gorffennaf 1754 priodwyd Dorothea, pedwaredd ferch John Vaughan o Drecwn o'i wraig Joan Corbet, a JOSEPH FOSTER -BARHAM, mab y Cyrnol John Foster (1681 - 1731), Egham House, swydd Surrey, a Jamaica; Ganwyd ef yn Jamaica ar 16 Rhagfyr 1729 ac etifeddodd ystadau eang y teulu yno. Cymerodd enw ei lysdad, y Doctor Henry Barham, yn 1750, a bu farw yn 1789. Etifeddwyd ystad Trecwn
  • BARRETT, JOHN HENRY (1913 - 1999), naturiaethwr a chadwraethwr
  • BARSTOW, Syr GEORGE LEWIS (1874 - 1966), gwas sifil, llywydd Coleg Prifysgol Abertawe Ganwyd 20 Mai 1874 yn fab i Henry Clements a Cecilia Clementina (ganwyd Baillie) Barstow yn yr India, y tad yn y gwasanaeth sifil yno. Bu teulu Barstow am ganrifoedd yn amlwg mewn masnach yng Nghaerefrog. Trwy ei briodas ag unig ferch Syr Alfred Tristram Lawrence, Barwn cyntaf Trevethin, ac ymgartrefu yn ymyl Llanfair-ym-Muallt y daeth George Barstow i gysylltiad â Chymru. Wedi graddio yn y
  • BAYLY, HENRY (1744 - 1812) - gweler PAGET
  • BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur 1631. Ei ail wraig oedd Ann, merch Syr Henry Bagenal o Castle Newry yn Iwerddon a Phlas Newydd ym Môn; daeth EDWARD BAYLY, ei wyr, yn berchen ystad Plas Newydd; a'i wyr ef, HENRY BAYLY, a gymerodd drosodd enw ac arfbais teulu Paget (fel 9fed barwn); ei fab hynaf ef oedd yr Ardalydd Môn 1af, 'Marquis Waterlw.' THOMAS BAYLY (1608 - c.1657) Bu i Thomas, un o feibion yr esgob, yrfa fel Protestant ac fel
  • BERNARD (bu farw 1148), esgob Tyddewi dim tro ar fyd pan fu farw'r brenin yn 1135. Dywed Henry o Huntingdon i Bernard dderbyn y 'pallium' archesgobol gan y pab ond iddo golli'r fantell yn union deg ac felly golli arwydd ei fuddugoliaeth ar Gaergaint. Nid oes wybod pa bryd y digwyddodd iddo golli'r pall; efallai mai yn ystod y Rhyfel Cartrefol pan oedd Bernard, fel y gellid disgwyl, ar du Matilda. Pa sut bynnag, ni bu i'w lafur diflino
  • teulu BERRY (Arglwyddi Buckland, Camrose a Kemsley),, diwydianwyr a pherchnogion papurau newyddion carreg sylfaen adeilad newydd Byddin yr Iachawdwriaeth ym Merthyr er cof amdano yn 1936 ac er cof amdano y codwyd Coleg Technegol J. M. Berry gan ei fab hynaf. HENRY SEYMOUR BERRY, Barwn BUCKLAND 1af (1877 - 1928), diwydiannwr Diwydiant a Busnes; eu mab hynaf, ganwyd 17 Medi 1877 yng Ngwaelod-y-garth, Merthyr Tudful. Yn 1892 yr oedd yn fonitor yn ysgol bechgyn Abermorlais a phasiodd arholiad i fod yn
  • BEVAN, THOMAS (Caradawc, Caradawc y Fenni; 1802 - 1882), hynafiaethydd adnabyddid fel Llanelly Works). Yno daeth i gyffyrddiad a nifer o Gymry a oedd yn ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru a'r eisteddfod - David Lewis (mab y Parch. James Lewis, Llanwenarth), Thomas Williams ('Gwilym Morganwg'), a John Morgan (y 'Rhifyddwr Egwan' yn Seren Gomer). Daeth i ymgydnabyddu ag arddull lenyddol trwy ddilyn dadleuon Thomas Price ('Carnhuanawc') a David Owen ('Brutus') ar dlodi'r iaith a
  • BEYNON, THOMAS (1744 - 1835), archddiacon Ceredigion, noddwr llenyddiaeth ac eisteddfodau Cymru ; derbyniodd coleg newydd Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, yn helaeth o'i haelioni. Cynorthwyodd ysgolion cylchredol Madam Bevan (Griffith Jones, Llanddowror), a thystiodd i allu Morgan Rhys yr emynwr fel ysgolfeistr yn ei blwyfi yn 1771-2, gan wneud cais amdano dros dymor 1772-3. Noddodd Gymdeithas Cymreigyddion Caerfyrddin am flynyddoedd lawer, a bu'n aelod pwysig o bwyllgor eisteddfod Caerfyrddin yn 1819
  • BLACKWELL, HENRY (1851 - 1928), llyfr-rwymwr, llyfr-werthwr, llyfryddwr, a bywgraffyddwr Ganwyd 2 Awst 1851, mab Richard Blackwell, Northop, ac Arabella (Jones), Rhosesmor, Sir y Fflint. Ceir enw Richard Blackwell yn rhwymo llyfrau yn 10 Chester Street, Lerpwl, a bernir mai yr un ydoedd a thad Henry Blackwell, a oedd yntau, yn 1873, yn dilyn yr unrhyw grefft yn 8 Haliburton Street, Toxteth Park, Lerpwl, a chanddo fusnes hefyd yn 25 South John Street. Bu Henry yn ysgol S. Paul, Lerpwl
  • BLAKE, LOIS (1890 - 1974), hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru Ganwyd Lois Blake yn Streatham, Llundain, ar 21 Mai 1890 yn ferch i Amy (née Dickes) a Henry Fownes Turner. Ei henw bedydd oedd Loïs Agnes Fownes Turner. Ar ôl marwolaeth ei mam (a hithau'n dair oed) fe'i magwyd gan ei modryb a'i hewythr Mary a James Watt. Cafodd addysg fonedd gynhwysol a theithiodd Ewrop yn helaeth. Gwasanathodd fel nyrs yn y Rhyfel Mawr, yn Serbia, Romania a Rwsia; bu hefyd yn