Canlyniadau chwilio

3673 - 3684 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3673 - 3684 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, EVAN JAMES (1903 - 1945), ffisegydd Ganwyd Evan James Williams ar 8 Fehefin 1903 yn Brynawel, Cwmsychbant, Sir Aberteifi, yr ieuengaf o dri mab i James Williams (1868-1950), saer maen, a'i wraig Elizabeth (Bes) (g. Lloyd, 1870-1948). 'Desin' oedd ei lysenw ymysg ei ffrindiau oherwydd ei allu wrth drin rhifau degol (decimal). Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llanwenog ac yna Ysgol Sir Llandysul cyn ennill ysgoloriaeth yn 16 oed i Goleg
  • WILLIAMS, Syr EVAN (1871 - 1959), perchennog glofeydd Ganwyd 2 Gorffennaf 1871, yn fab i Thomas Williams, Llwyn Gwern, Pontarddulais, Morgannwg, perchennog glofeydd. Wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a Choleg Clare, Caergrawnt, dychwelodd i Sir Gaerfyrddin yn 1892 i gynorthwyo yng nghwmni glofeydd ei dad. Wedi'i ethol yn gadeirydd Cymdeithas Perchnogion Glofeydd sir Fynwy a De Cymru yn 1913 bu'n amlwg am gyfnod hir yn y diwydiant
  • WILLIAMS, FOULK ROBERT (Eos Llyfnwy; 1774 - 1870) Ganwyd yn Hendreforionbach, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 1774. A ganlyn ydyw cofrestriad ei fedydd; '10 ber -6 the Foulk ye son of Robt Wm of Hendreforion bach weaver by Lowry his wife.' Adwaenid ef ar hyd ei oes dan yr enw Foulk Roberts, ac oherwydd ei ddawn arbennig i ganu gelwid ef yn ' Ffowc Bach y Canwr.' Yn 17 oed talodd bonheddwr am dri mis o addysg gerddorol iddo gan John Williams ('Ioan
  • WILLIAMS, FRANCES (FANNY) (?1760 - c.1801), carcharor ac ymsefydlwr yn Awstralia Y mae'r hyn a wyddom ynghylch Frances Williams, merch o blwyf Chwitffordd, Sir Fflint, yn deillio o un digwyddiad canolog yn ei bywyd. Liw nos ar 1 Awst 1783, ymddengys iddi dorri i mewn i gartref cyn-gyflogwr iddi, yr arlunydd Moses Griffith, a lladrata oddi yno eitemau o'i eiddo ef, ei wraig Margaret, a morwyn iddynt, Elizabeth Cotterall. Arweiniodd y weithred at ganlyniadau pellgyrhaeddol iddi
  • WILLIAMS, FREDERICK GEORGE ROBERTSON (bu farw 1945), tirfeddiannwr - gweler WILLIAMS, ALICE MATILDA LANGLAND
  • WILLIAMS, GARETH WYN (y Barwn Williams o Fostyn), (1941 - 2003), cyfreithiwr a gwleidydd Ganwyd Gareth Williams ar 5 Chwefror 1941 ger Prestatyn, Sir y Fflint. Ef oedd trydydd plentyn Albert Thomas Williams (marw 1964), prifathro ysgol gynradd, a'i wraig Selina (ganwyd Evans, bu farw 1985). Roedd ganddo chwaer, Catrin, a brawd John. Cymraeg oedd iaith ei gartref ym Mostyn ac, yn ôl y sôn, dysgodd Gareth Saesneg drwy gymorth recordiau Linguaphone. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd
  • WILLIAMS, GEORGE (1879 - 1951), cyfarwyddwr cwmnïau ac Arglwydd Faer Caerdydd Ganwyd 2 Rhagfyr 1879 yn Hwlffordd, Penfro, yn fab i Frederick a Mary A. Williams, ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Hwlffordd. O 1920 hyd 1945 yr oedd yn fasnachydd defnyddiau adeiladu ac yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau, gan gynnwys Williams a Borgars Cyf., Camrose Estates Ltd. a Whitehead's Electrical Inventions Ltd. Yn y 1930au bu'n flaenllaw iawn yn yr ymdrech i ddenu diwydiannau newydd i dde
  • WILLIAMS, Syr GEORGE CLARK (1878 - 1958), BARWNIG a barnwr llys sirol Ganwyd yn Llanelli, Caerfyrddin, 2 Tachwedd 1878, yn bedwerydd plentyn Samuel a Martha Williams. Yr oedd ei dad yn un o berchnogion cwmni gwerthu coed a chwmni alcam mwyaf y dref honno yn ei hanterth ddiwydiannol, sef Gwaith yr Old Lodge. Bu ewythr a chefnder iddo'n Uchel Siryfion y sir, a pherthynas iddo oedd Samuel Williams, un o feddygon y dref a waddolodd ysgoloriaethau i fyfyrwyr olraddedig
  • WILLIAMS, Syr GLANMOR (1920 - 2005), hanesydd Ganwyd Glanmor Williams ar 5 Mai 1920 yn 3 Cross Francis St, Dowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg, yn unig blentyn i Daniel Williams (marw 1957) a'i wraig Ceinwen (ganwyd Evans) a fu farw yn 1970. Yn sir Frycheiniog yr oedd gwreiddiau teulu ei dad ac yn Rhandir-mwyn, Sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau teulu'r fam. Roedd y teulu'n Fedyddwyr Cymraeg yn addoli yng nghapel Moriah, Dowlais. Gweithiai ei
  • WILLIAMS, GRACE MARY (1906 - 1977), cyfansoddwraig Ganed Grace Williams yn y Barri, Morgannwg ar 19 Chwefror 1906, yr hynaf o dri phlentyn William Matthews Williams (athro ysgol o Wrecsam) a'i briod Rose Emily (ganwyd Richards), athrawes o Lanelli, a briodwyd yn 1900. Ganed ei brawd Glyn yn 1908, a'i chwaer Marian yn 1919. Roedd W. M. Williams yn gerddor medrus ac yn arweinydd Côr Bechgyn Romilly, a ddaeth i gryn amlygrwydd. Addysgwyd Grace yn
  • WILLIAMS, GRIFFITH (1587? - 1673), esgob ac awdur , The True Church, 1629; The Discovery of Mysteries or the Plots, etc., 1643; A Sermon preached before the House of Commons, 1644; Jura Majestatis, Rights of Kings, 1644; The Great Anti-Christ Revealed, 1660; Seven Treatises, 1661; A True Relation of a Law Proceeding betwixt Griffith, Lord Bishop of Ossory and Sir G. Ayskue, 1663; Persecution and Oppression of John Bale and Griffith Williams, bishops
  • WILLIAMS, GRIFFITH (Gutyn Peris; 1769 - 1838), bardd Ganwyd 2 Chwefror 1769 yn Hafod Olau, y Waun Fawr, Sir Gaernarfon. Ei dad oedd William, ail fab Edward William o'r Llwyn-celyn Llanberis, a'i fam oedd Catrin ferch Morgan Gruffydd ('Morgan y Gogrwr') o Lŷn. Gweithiai ar y tir yn nechrau ei fywyd, ond yn ddiweddarach cafodd waith yn chwarel y Penrhyn lle daeth yn swyddog ymhen amser. Cyfarfu a damwain i'w feilwng yn y chwarel a bu heb weithio am