Canlyniadau chwilio

493 - 504 of 703 for "Catherine Roberts"

493 - 504 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, JOHN (1767 - 1834), gweinidog gyda'r Annibynwyr a diwinydd gorffen ei gwrs gwahoddwyd ef i Lanbrynmair i gynorthwyo Richard Tibbott; dechreuodd ar ei waith Ionawr 1795 ac urddwyd ef 25 Awst 1796. Ar farwolaeth Tibbott dewiswyd ef ym Mawrth 1798 i gymryd holl ofal yr eglwys. Yn ychwanegol at hynny ymgymerth â chadw ysgol ddyddiol mewn adeilad ynglŷn â'r Hen Gapel a pharhaodd i ofalu amdani nes y daeth ei fab hynaf Samuel Roberts ('S.R.') i'w gynorthwyo fel
  • ROBERTS, JOHN (Minimus; 1808 - 1880), Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur Ail fab Richard Roberts, masnachydd nwyddau llong (ship's chandler) yn Lerpwl. Etholwyd ef yn flaenor (1827?) yn eglwys M.C. Bedford Street, dechreuodd bregethu yn 1830, ac fe'i hordeiniwyd yn 1857 yn Sasiwn Dolgellau. Priododd yn 1849, ag Elizabeth Milnes o Groesoswallt (bu farw 1865). Daeth ei chwaer ieuengaf, Ann, yn ail wraig i'r Parch. David Charles (1803 - 1880). Tra'n parhau i weithio i
  • ROBERTS, JOHN (J.R.; 1804 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur Ganwyd yn nhŷ'r Hen Gapel, Llanbrynmair, 5 Tachwedd 1804, ail fab John Roberts (1767 - 1834). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad yn yr Hen Gapel. Symudasai'r teulu i fyw i fferm y Diosg gerllaw yn 1806, a bu yntau yn gweithio ar y tir am gyfnod. Yr oedd ymron yn 25 oed cyn dechrau pregethu. Ym Mawrth 1831 derbyniwyd ef i'r athrofa yn y Drenewydd, a oedd bryd hynny dan ofal Edward Davies, Calfin a Thori
  • ROBERTS, JOHN (1753 - 1834), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle (yr oedd yn frawd i'r pregethwr hynod, Robert Roberts, Clynnog). Gweithiodd am gyfnod yn chwarel y Cilgwyn. Wedi iddo gael peth addysg bu'n cadw ysgol mewn gwahanol leoedd ac adwaenid ef am flynyddoedd fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu pan oedd yn 27 oed. Wedi ei briodas â Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, aeth i'r ardal honno i fyw
  • ROBERTS, JOHN (1842 - 1908), un o genhadon y Methodistiaid Calfinaidd ar Fryniau Khassia, India, am 37 mlynedd Ganwyd 16 Chwefror 1842 yng Nghorris (Meirion), mab Richard a Jane Roberts. Oherwydd marwolaeth ei dad, aeth John, pan oedd yn 11 oed, i weithio yn y chwarel, ond yr oedd eisoes wedi penderfynu mynd yn genhadwr. Yn 21 oed, dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg y Bala ac yna dilynodd gwrs meddygol byr yn Edinburgh; ar 6 Ionawr 1871 fe'i hordeiniwyd. Ar 31 Mai priododd Sidney Margaret, (1850-1931
  • ROBERTS, JOHN (Ieuan Gwyllt; 1822 - 1877), cerddor Ganwyd 27 Rhagfyr 1822 yn Tanrhiwfelen ger Aberystwyth, mab Evan ac Elizabeth Roberts. Yn 1823 symudodd y teulu i fyw i Ty'nyffordd, Penllwyn, Aberystwyth, ac yn 1829 i Pistyllgwyn yn nyffryn Melindwr. Yr oedd ei dad yn ddechreuwr canu a'i fam yn gantores lled dda. Cafodd addysg am rai blynyddoedd yn ysgol Lewis Edwards, Penllwyn. Yn ieuanc cyfansoddodd farddoniaeth, a rhoddodd yn ffugenw wrthi
  • ROBERTS, JOHN (1807 - 1876), cerddor Ganwyd 30 Mawrth 1807 yn Henllan, ger Dinbych, mab Aaron a Jane Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref hyd yn 13 oed, a dwy flynedd wedi hynny gan y Parch. Thomas Jones, gweinidog yr Annibynwyr, Dinbych. Dysgwyd nodiant cerddorol iddo gan Thomas Daniel, Henllan, ac astudiodd lyfrau cerddorol ei hunan, a daeth i gynganeddu yn dda. Casglodd a chopïodd nifer mawr o'r hen donau a genid yn ystod
  • ROBERTS, JOHN (1806 - 1879), cerddor wrthi. Ymddangosodd y dôn yn Greal y Bedyddwyr, 1833. Dywaid John Roberts iddo ei chyfansoddi yn 18 oed. Cyhoeddodd Seraff Cymru hefyd, yn cynnwys anthemau a chôrganau dan olygiaeth J. Wilks, organydd yn Aberystwyth. Yn 1855 symudodd i Aberdâr, a bu'n arwain y canu yng nghapel Bedyddwyr Penpound am flynyddoedd. Dychwelodd yn ôl i Aberystwyth yn 1873, ac yno y bu farw, 18 Tachwedd 1879. Claddwyd ef yng
  • ROBERTS, JOHN - gweler ROBERTS, BARTHOLOMEW
  • ROBERTS, JOHN (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816 - 1894), cerddor Ganwyd yn Rhiwlas Isaf, Llanrhaeadr, ger Dinbych, mab John Roberts o Bentrefoelas, baledwr a fu ym mrwydr Waterloo, ac a oedd (meddir) yn gefnder i John Roberts yr almanaciwr. Ei fam oedd Sarah, ferch William Wood, a chwaer i Archelaus Wood. Dechreuodd ei yrfa yn y Gatrawd 23 ('Royal Welch Fusiliers'), a bu ynddi am naw mlynedd a hanner. Wedi ymryddhau o'r fyddin, ymsefydlodd yn y Drefnewydd, ac
  • ROBERTS, JOHN ASKEW (1826 - 1884), hynafiaethydd, awdur, a newyddiadurwr Ganwyd 27 Mawrth 1826 yng Nghroesoswallt, mab Samuel Roberts, llyfrwerthwr. Yn 1848 yr oedd yn ysgrifennu i Oswald's Well, cylchgrawn a ddilynwyd yn 1849 gan yr Oswestry Advertiser, a gychwynnwyd gan Askew Roberts yn fisolyn, ac wedyn yn wythnosolyn, ac y bu'r cychwynnydd mewn cysylltiad ag ef am 20 mlynedd. Wedi iddo werthu hawlfraint yr Advertiser ac ymneilltuo o'r swydd o olygydd, parhaodd
  • ROBERTS, JOHN BRYN (1843 - 1931), cyfreithiwr a gwleidydd Ganwyd 8 Ionawr 1843 (a'i fedyddio fel John Roberts) yn fab i Daniel ac Anne Roberts, Bryn Adda, Bangor, ac yn aelod o deulu eang Roberts o'r Castell, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 381). Addysgwyd ef yn Cheltenham, gorffennodd ei hyfforddiant fel cyfreithiwr yn 1868, a gwnaed ef yn far-gyfreithiwr o Lincoln's Inn yn 1889. Etholwyd ef yn aelod seneddol