Canlyniadau chwilio

553 - 564 of 1816 for "david lloyd george"

553 - 564 of 1816 for "david lloyd george"

  • HARRIS, HOWELL (1714 - 1773), diwygiwr crefyddol .) Ymgynghorodd â Griffith Jones, a phwyswyd arno i ymdawelu ond nis mynnai. Daeth i gyswllt â Daniel Rowland yn 1737, a dechreuasant gydweithio. Ymhlith ei ddychweledigion cyntaf yr oedd Howell Davies a William Williams, Pantycelyn. Ymunodd y gwyr hyn â'i gilydd mewn sasiwn yn 1742, a bu cyfathrach rhyngddynt a'r mudiad Methodistaidd cyffelyb yn Lloegr. Cymerth y diwygwyr Cymreig blaid George Whitefield yn y
  • HARRIS, JOHN (1704 - 1763) S. Kennox, cynghorwr Methodistaidd a Morafaidd, ffermwr bugeiliaeth eglwys Annibynnol Albany yn Hwlffordd iddo; ond o tua 1750 hyd 1753 gwell fu ganddo ef a'r brodyr Relly ymgynnull yn enwad bychan. Yn 1753, daeth dan ddylanwad John Cennick, y cenhadwr Morafaidd, ac ymunodd â'r Brodyr. Bu farw 21 Hydref 1763, a chladdwyd yn S. Thomas, Hwlffordd. Yr oedd chwaer iddo'n wraig i George Gambold. Bu merch Harries, Anne (Davies), yn cadw ysgol yn Hwlffordd; yr oedd hi
  • HARRIS, JOHN (1680 - 1738), esgob Llandaf mab George Harris, Milford, Sir Benfro. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1697 (B.A., 1701; M.A., 1714). Bu am gyfnod yn rheithor Rudbaxton, Sir Benfro, ac o 1708 hyd 1729 yn rheithor Llanbedr Efelffre. Yn 1728 daeth yn gymrawd o Goleg Oriel, Rhydychen; yr un flwyddyn cafodd radd D.D. gan Brifysgol Caergrawnt a'i wneuthur yn ganon yn eglwys gadeiriol Caergaint. Yn 1729 gwnaethpwyd ef yn ficer
  • HARRY, GEORGE OWEN (c. 1553 - c. 1614), hynafiaethydd Yn ôl yr achau a roddodd ef ei hun i Lewis Dwnn, mab ydoedd i Owain ap Harri o Lanelli a'i wraig Maud, merch Ffylip ap Sion ap Tomas o ' Hendremor,' Gŵyr. Sefydlwyd ef yn rheithor yr Eglwyswen yng Nghemais, Sir Benfro, ar 18 Mawrth 1584, ar gyflwyniad George Owen o Henllys. Bu hefyd yn rheithor Llanfihangel Penbedw yn yr un ardal a gwasnaethai'r ddwy eglwys gyda'i gilydd o 1597 hyd 1613 neu ragor
  • HARRY, MILES (1700 - 1776), gweinidog gyda'r Bedyddwyr David Jones, Marwnad y Parchedig Mr. Miles Harries o Drosnant (Caerfyrddin, 1777).
  • HARTMANN, EDWARD GEORGE (1912 - 1995), hanesydd
  • HASSALL, CHARLES (1754 - 1814), swyddog tir a thir-fesurydd Ganwyd 1754 yn ail fab i James Hassall, Aberteifi (1718-1787) a Martha Rose, Stourbridge (bu farw 1795). Trigai yn Eastwood, Arberth. Priododd â Dorothy Bullfinch (bu farw 1845) a bu iddynt dri o blant, y Parch. William Hassall, Llyswen (1788-1849), Oriana Hassall (1790-1809) a George Hassall (ganwyd a bu farw 1792). Yn arloeswr amaethyddol a chymeriad lliwgar, mwynhaodd beth amlygrwydd yn ne
  • HAYCOCK, (BLODWEN) MYFANWY (1913 - 1963), artist ac awdur Ganwyd yng Nglyndŵr, Mount Pleasant, Pontnewynydd, Mynwy, 23 Mawrth 1913, yr ieuangaf o dair merch James David Haycock, glöwr (a adweinid yn lleol fel Jim Pearce) ac Alice Maud (ganwyd Perry), y ddau'n enedigol o Fyn. Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Cwm-ffrwd-oer, ysgol ramadeg merched Pont-y-pŵl, Coleg Technegol Caerdydd (y coleg celf yn ddiweddarach). Ymwrthododd â gyrfa fel athrawes celf a
  • HAYWARD, ISAAC JAMES (1884 - 1976), glöwr, undebwr a gwleidydd lleol Gweithwyr Trydanol. Diwygiwr cymhedrol ydoedd yn hytrach na radical tanllyd, gyda synnwyr tegwch cynhenid wrth negodi. Priododd Alice Mayers, gwniadwraig o Flaenafon, yn 1913, a chawsant bedwar mab: William Alexander (a laddwyd yn Normandy, 1944), Haydn (tad i Ronald a David), Stanley Joshua, a Thomas James (tad i Carole). Trwy ei waith gyda'r undeb daeth Hayward yn gyfaill agos i Ernest Bevin ac i
  • HEATH, CHARLES (1761 - 1830), argraffydd weithiau ddawn feirniadol neu lenyddol, y mae ei lyfrau'n cynnwys ffynonellau amhrisiadwy o wybodaeth a ddefnyddiwyd gan haneswyr a ddaeth ar ei ôl - David Williams, yr archddiacon William Coxe, a Syr Joseph A. Bradney. Y llyfr cyntaf a gyhoeddodd oedd A descriptive account of Raglan Castle, 1792. Ymhlith eraill, y mae rhai a gyrhaeddodd hyd at chwech argraffiad a mwy, rhai fel Descriptive account of
  • HEMANS, FELICIA DOROTHEA (1793 - 1835), bardd Ganwyd 25 Medi 1793 yn Lerpwl, merch George Browne, marsiandwr. Pan oedd yn saith oed symudodd ei theulu i Gwrych, gerllaw Abergele, sir Ddinbych. Bratiog fu ei haddysg, eithr darllennai gydag awch, ac mor eithriadol oedd ei chynnydd a'i datblygiad fel y cyhoeddwyd ei Juvenile Poems, 1808, pan nad oedd hi ond newydd gyrraedd ei 14 oed. Ni chafodd y caniadau hyn dderbyniad da eithr o hynny ymlaen
  • HEMP, WILFRID JAMES (1882 - 1962), hynafiaethydd Ganwyd 27 Ebrill 1882 yn Richmond, Surrey, unig blentyn James Kynnerly Hemp a'i wraig Alice Challoner (ganwyd Smith), Priododd ei chwaer hi â J. Lloyd-Jones, rheithor Cricieth 1883-1922, a thrwy hynny cafodd Hemp gysylltiad â gogledd Cymru, a threuliodd ei wyliau haf yn sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol Highgate, Llundain, a'i benodiad cyntaf oedd yn y Principal Probate Registry, yn Somerset