Canlyniadau chwilio

565 - 576 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

565 - 576 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, WILLIAM (1859 - 1907), cerddor
  • DAVIES, WILLIAM ANTHONY (1886 - 1962), newyddiadurwr Ganwyd ar Ddygwyl Dewi 1886 mewn bwthyn to gwellt a elwid Cwarter Coch ar ffordd y mynydd yng Nghwmgrennig, Glanaman, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd y trydydd o wyth plentyn Daniel Davies, glöwr, o fferm Ysguborwen, Betws, a'i wraig a hanai o'r Bryn, Llanelli. Aeth William yn 13 oed i weithio gyda'i dad a'i frodyr yn nrifft Gelliceidrim. Dryswr yn dilyn haliers ydoedd am ryw bedwar mis, ond teimlai ei
  • DAVIES, WILLIAM CADWALADR (1849 - 1905), un o arloeswyr y mudiad addysg yng Nghymru Ganwyd ym Mangor, 2 Mai 1849, yn fab i William Davies, clerc, ac yn nai i John Davies ('Gwyneddon'). O ysgol elfennol Garth, Bangor, aeth i swyddfa'r North Wales Chronicle, newyddiadur lleol, a chymaint oedd ei ddatblygiad fel newyddiadurwr nes ei ddewis, yn 20 oed, i ddilyn ei ewythr fel golygydd Cronicl Cymru, papur newydd arall gan yr un cwmni. Pan ddaeth gyrfa hwnnw i ben yn 1872, aeth i
  • DAVIES, WILLIAM DANIEL (1838 - 1900), llyfrwerthwr Ganwyd mewn bwthyn o'r enw Llety gerllaw Felindre, Penboyr, Sir Gaerfyrddin, 15 Mehefin 1838. Yn 1857 dechreuodd weithio yng ngweithiau haearn Hirwaun ac Aberdâr; bu'n gweithio hefyd, yn ddiweddarach, yn Llwydcoed lle yr ymunodd â Moriah, eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Symudodd i'r Rhondda yn 1862 i weithio yn y pyllau glo. Dechreuasai bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd tua'r adeg hon
  • DAVIES, WILLIAM DAVID (1911 - 2001), ysgolhaig Beiblaidd Ganwyd W. D. Davies yng Nglanaman, sir Gaerfyrddin, 9 Rhagfyr 1911, yn fab i David Davies, glöwr, a Rachel Powell, ei wraig. Wedi'i addysgu yn ysgol gynradd Glanaman ac Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg clasurol a'r ieithoedd Semitig yn Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, yn 1934, gan gwblhau ei BD, gyda chlod yn yr adran Testament Newydd, yn y
  • DAVIES, WILLIAM DAVID [P.] (1897 - 1969), gweinidog (MC), athro ac awdur Ganwyd 18 Ionawr 1897 yng Nglynceiriog, Dinbych, unig fab Isaac Davies, gweinidog (MC). Symudodd ei dad i Ryd-ddu, yna i Fryn-rhos, ac o'r diwedd i Fangor. Addysgwyd y mab yn ysgol sir Caernarfon ac ysgol Friars, Bangor. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ond torrodd y rhyfel ar draws ei efrydiau. Cofrestrodd ei hunan yn wrthwynebydd cydwybodol a bu'n gweithio ar y tir yn Llŷn
  • DAVIES, WILLIAM EDWARDS (1851 - 1927), Cymmrodor ac eisteddfodwr Ganwyd 8 Medi 1851 yn Nolgellau, ail fab (o'r briodas gyntaf) i'r Dr. William Davies, gweinidog Wesle ac awdur Y Geiriadur Ysgrythyrol. Carai ysgrifennu o dan yr enw ' Ap yr Hen Wyliedydd.' Yn Llundain y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes, ac yno trwy ei gysylltiad amlwg â Chymdeithas y Cymmrodorion y deffrowyd ynddo ei gariad at Gymru. Bu'n aelod ohoni, yn swyddog (yn ei dro), a gwas ffyddlon
  • DAVIES, WILLIAM HENRY (1871 - 1940), bardd ac awdur
  • DAVIES, WILLIAM HUBERT (1893 - 1965), cerddor
  • DAVIES, WILLIAM JENKIN (1858 - 1919), gweinidog Undodaidd, llenor, a cherddor Ganwyd yn Nhrecynon, Aberdâr, 30 Ionawr 1858. Fe'i haddysgwyd yn ysgolion dydd Trecynon ac yn ysgol R. Jenkin Jones; daeth yn fferyllydd, a hyn a esbonia ei ddiddordeb yng nghoed a llysiau plwyf Llandysul. Wedi ei baratoi gan y Parch. William James, aeth i Goleg yr Undodiaid ym Manceinion (1878-81), a bu am flwyddyn wedyn yng Ngholeg Owen fel ysgolor Gaskell. Bu'n weinidog Undodaidd Dowlais (1882
  • DAVIES, WILLIAM LEWIS (1896 - 1941), gwyddonydd ac arbenigwr ar astudio llaeth Ganwyd 23 Chwefror 1896, yn fab i David a Jane Davies. Amaethwr oedd ei dad ac yn byw yn Cwmlogin, Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Bu yn ysgol ganolraddol Llandeilo Fawr cyn ymuno, yn 1914, â'r Royal Horse Artillery, a brwydro wedi hynny yn Ffrainc. Graddiodd yn B.Sc. (Cymru), gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Cemeg, o goleg Aberystwyth, ac aeth oddiyno i goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle
  • DAVIES, Syr WILLIAM LLEWELYN (1887 - 1952), ysgolfeistr a llyfrgellydd Ganwyd 11 Hydref 1887, yn Nhŷ'r Ysgol, Plas Gwyn, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, yn drydydd plentyn a mab ieuangaf William Davies a Jane (ganwyd Evans) ei wraig, y ddau yn enedigol o Lanafan yng Ngheredigion. Buasai'r tad yn giper ar stad Trawscoed cyn symud i gyffelyb swydd ar stad Broom Hall. Pan oedd y mab yn 5 mlwydd oed aeth y tad i wasanaeth Sir Osmond Williams, Castell Deudraeth, ac