Canlyniadau chwilio

685 - 696 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

685 - 696 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EDWARDS, THOMAS (Caerfallwch; 1779 - 1858), geiriadurwr Ganwyd, mwy na thebyg yn y Felinganol, yn nhref-ddegwm Caerfallwch, ym mhlwyf Llaneurgain (Northop), Sir y Fflint, yn 1779, a'i fedyddio yn Llaneurgain 5 Mawrth 1780, mab i Richard a Margaret Edwards. Rhwymwyd ef yn 14 oed yn brentis i gyfrwywr yn yr Wyddgrug, ar ôl ychydig addysg mewn ysgol ramadegol yn Llaneurgain. Câi gyfle yn nhy ei feistr i ddarllen newyddiaduron a llyfrau Saesneg. Ar
  • EDWARDS, THOMAS (1652 - 1721), clerigwr ac ysgolhaig Coptaidd Ganwyd yn Llanllechid, Sir Gaernarfon. Bu yn yr ysgol ym Mangor ac yna yn 1670 aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, gan raddio'n B.A. yn 1673 ac yn M.A. yn 1677. Am beth amser, hyd oni bu farw'r Dr. Edmund Castell yn 1685, bu'n byw gyda'r athro Arabeg dysgedig hwnnw yng Nghaergrawnt. Yna daeth yn gaplan Christ Church, Rhydychen, a hynny, y mae'n ymddangos, er mwyn arolygu'r Testament Newydd Copteg
  • EDWARDS, THOMAS (Twm o'r Nant; 1739 - 1810), bardd ac anterliwtiwr Ganwyd ym Mhenparchell Isaf, plwyf Llanefydd, sir Ddinbych. Symudodd ei rieni, pan oedd ef yn ifanc, i'r Nant, ger Nantglyn. Dysgodd ddarllen pan ddaeth un o ysgolion Griffith Jones i'r ardal, a chafodd bythefnos o ysgol yn nhref Dinbych. Dywed yn ei hunan-gofiant iddo ysgrifennu cerddi a dwy anterliwt cyn bod yn 9 oed, a dechrau chwarae mewn anterliwtiau yn 12 oed. Priododd, 1763, Elizabeth
  • EDWARDS, THOMAS CHARLES (1837 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900) fel pregethwr. Ond wedi pob beirniadaeth hawdd yw cytuno â'r datganiad hwn: 'If it is no exaggeration to say that without Sir Hugh Owen, the University College of Wales would never have been established, it is certainly less to say that it would never have reached its twentieth birthday but for Thomas Charles Edwards. It was his magnetic personality and his eloquent advocacy that, more than anything
  • EDWARDS, THOMAS DAVID (1874 - 1930), cerddor Ganwyd 15 Gorffennaf 1874, yn Pittson, Penn., U.D.A., mab David Edwards ('Iorwerth Glan Elyrch') a'i wraig a ymfudodd i'r America o ardal y Rhymni, sir Fynwy. Yn blentyn gwan ac eiddil, ni chafodd ond ychydig o ysgol. Daeth drosodd i Bontypridd, Sir Forgannwg, a llafuriodd yn galed i sicrhau gwybodaeth gerddorol. Enillodd y graddau cerddorol L.R.A.M., A.R.C.M., F.T.S.C. Bu'n organydd eglwysi
  • EDWARDS, WILLIAM (1773 - 1853), emynydd Nai (fab brawd) a disgybl i'r bardd Robert Williams (1744 - 1815) o'r Pandy. Ychydig iawn o'i hanes a wyddys ond ei fod yn wehydd, iddo briodi â merch i John Evans (1723 - 1817), a'i fod yn byw dan yr unto â'i dad-yng-nghyfraith pan fu farw hwnnw. Nid oedd yn bregethwr, ond cyn diwedd ei oes codwyd ef yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala; yr oedd yn selog iawn gyda'r ysgol
  • EDWARDS, WILLIAM (Cymro Gwyllt; 1826 - 1884), saer maen a cherddor Ganwyd yn Ucheldre, plwyf Llanfihangel y Creuddyn, Sir Aberteifi, 19 Ionawr 1826. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc, ac enillodd am gyfansoddi tôn yn 12 oed. Ym Moliant Israel (' Canrhawdfardd ') ceir dwy dôn o'i waith, ac ymddangosodd dwy arall ynghyd â chynganeddiad o'r alaw ' Y Delyn Aur.' Gadawodd lawer o gerddoriaeth mewn llawysgrif ar ei ôl. Bu farw 30 Gorffennaf 1884 yn Cnwch Coch
  • EDWARDS, WILLIAM (1851 - 1940), arolygwr ysgolion Ei Fawrhydi dros Addysg Ganolraddol i ddilyn Owen Owen fel prif arolygwr. Bu yn ddigon hunan-ymwadol i dderbyn y swydd, ac felly aberthu'r hamdden a haeddai gymaint. Yr oedd ei wasanaeth i'r Bwrdd Canol mor werthfawr fel y'i cadwyd yn ei swydd hyd 1926. Dengys ei ysgrif ' The Settlement of Brittany ' (Cymm., xi, 61-101) pa fath ddefnydd y gallasai ei wneud o'r hamdden a aberthwyd i'w swyddi. Yr oedd Dr. Edwards
  • EDWARDS, WILLIAM (1848 - 1929), gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn Llanafon, Login, Sir Gaerfyrddin, 16 Mawrth 1848, yn fab i dorrwr cerrig beddau. O athrofa Pontypwl aeth i Goleg Regent's Park; graddiodd ym Mhrifysgol Llundain a bu'n athro yn athrofa Hwlffordd o 1872 hyd 1880, pan ddychwelodd i Bontypwl yn brifathro ac yn athro Groeg y Testament Newydd. Yn 1882 bu'n flaenllaw gyda'r mudiad i sefydlu Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd (bu'n aelod o
  • EDWARDS, WILLIAM (Gwilym Callestr, Wil Ysgeifiog; 1790 - 1855), bardd
  • EDWARDS, WILLIAM (1719 - 1789), gweinidog Annibynnol a phensaer Ganwyd yn fferm Ty Canol, Groeswen (ym mhlwyf Eglwysilan), Sir Forgannwg, yn fab Edward Dafydd, a chafodd ei fedyddio ar 8 Chwefror 1719. Wedi i'r tad farw ar 6 Ionawr 1726 symudodd y teulu i Bryntail, fferm arall yn Groeswen, ac yno y bu William Edwards yn byw hyd ei farw ar 7 Awst 1789; claddwyd ef ym mynwent Eglwysilan. Dechreuodd Edwards bregethu pan oedd tua 22 oed; daethai o dan ddylanwad
  • EDWARDS, WILLIAM (1751 - c.1791), milwr - gweler EDWARDS, WILLIAM