Canlyniadau chwilio

829 - 840 of 1816 for "david lloyd george"

829 - 840 of 1816 for "david lloyd george"

  • JONES, JOHN ITHEL (1911 - 1980), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg Haven Green, Ealing, Llundain yn 1950. Priododd â Hannah Mary Rees ('Nana'), merch i'r Parchg Thomas Lloyd Rees a oedd yn weinidog Calfaria, Treforus ar y pryd ond a godwyd i'r weinidogaeth ym Moreia, Dowlais. Ni chawsant blant. Dychwelodd o Lundain i Gymru yn Ionawr 1958 i fod yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, gan ddarlithio mewn Athrawiaeth Gristnogol ac Athroniaeth Crefydd yn y Brifysgol
  • JONES, JOHN LLOYD - gweler LLOYD-JONES, JOHN
  • JONES, JOHN MORGAN (1873 - 1946), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor . Rhoes fynegiant i'w ddiddordeb mewn pynciau cyhoeddus a'i ryddfrydiaeth ddiwinyddol mewn toreth o erthyglau a llyfrau. Cyfrannodd erthyglau o bwys i'r Celt; i'r Christian Commonwealth a'r Geiriadur Beiblaidd. Ceir penodau ganddo yn Moral Instruction and Training in Schools (gol. M. E. Sadler), 1905; ar David Rees, Llanelli, yn Welsh Political and Educational Leaders, 1908; ac ar Efengyl Matthew yn The
  • JONES, JOHN MORGAN (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Y Lladmerydd, Y Drysorfa, a'r Deonglwr; cyhoeddodd gofiant i David Morgan, Pant, Cefncoedycymer yn 1887; ysgrifennodd esboniadau (yn Gymraeg) ar yr Hebreaid, yr Effesiaid, a'r Actau; testun 'Darlith Davies' a draddododd yn 1906 oedd 'Yr Efengylau'; ac yr oedd yn gyd-awdur Y Tadau Methodistaidd, 1895-97. Bu farw 22 Mai 1921. Ganwyd 15 Gorffennaf 1838.
  • JONES, JOHN OWEN (Ap Ffarmwr; 1861 - 1899), newyddiadurwr , y Genedl, a'r Cymro yn ystod 1883-95, ac yn y Geninen 1891, 1892 a 1897. Yn 1891 penodwyd ef yn is-olygydd y papurau a gyhoeddwyd gan y Wasg Genedlaethol Gymreig yng Nghaernarfon. Symudodd i Ferthyr Tudful yn 1895 i olygu'r Merthyr Times, ac yn 1897 aeth i Nottingham yn ysgrifennydd erthyglau arweiniol y Nottingham Daily Express (gweler o dan Edwards, David). Yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd Cofiant
  • JONES, JOHN OWEN (OWEN BRYNGWYN; 1884 - 1972), datganwr Côr Llanegryn, a'r fam yn bianydd rhagorol. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol Llanegryn ac yn ysgol Tywyn. Enillodd ysgoloriaeth yn 1903 i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn BSc yn 1907. Ym Mangor daeth yn drwm dan ddylanwad John Lloyd Williams ac ymaelododd â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ei dyddiau cynnar. Bu'n athro gwyddoniaeth yn ysgol ramadeg Daventry
  • JONES, JOHN RICE (1759 - 1824), cyfreithiwr a gwladychydd yng ngorllewin canol yr Amerig Philadelphia yn 1784, ond dychwelodd yn yr un flwyddyn i gyrchu ei wraig a'i fab, John Rice. Gadawodd ei ferch fechan, Maria, ar ôl. Yn 1786 symudodd i Kentucky (a oedd ar y pryd yn dir cynghreiriol ac heb ei dderbyn fel talaith), a bu'n ymladd tan George Rogers Clarke yn y rhyfeloedd yn erbyn yr pobloedd Frodorol yr ardal gan orffen fel dirprwywr cyffredinol (commissary general) yn Vincennes (yn
  • JONES, JOHN VIRIAMU (1856 - 1901), gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd Ganwyd 2 Ionawr 1856 ym Mhentre-poeth, Abertawe, yn fab i Thomas Jones (1819 - 1882); dull brodorion Erromanga o gynanu cyfenw John Williams y cenhadwr a barodd i'w dad roi'r enw 'Viriamu' iddo; brawd iddo oedd Syr David Brynmor Jones. Cafodd yrfa addysgol hynod ddisglair; graddiodd yn Llundain yn 19 oed, gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf mewn daeareg; yn 1874 aeth yn ' Brackenbury Scholar
  • JONES, JOHN WILLIAM (1883 - 1954), llenor, casglwr llythyrau ac amryfal bapurau, cyhoeddwr, hynafiaethydd a bardd gwlad Ganwyd 5 Mawrth 1883 yn 4, Caerffridd, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i David Jones, 'Glan Barlwyd', a'i wraig Ellen (ganwyd Roberts), Llwynogan, Llanedwen, Môn. Addysgwyd ef yn ysgol Glan-y-pwll hyd nes yr oedd yn ddeuddeg oed ac yna treuliodd ddwy fl. arall yn yr Higher Grade School yn y Blaenau. Oddi yno, yn 1897, aeth i weithio i chwarel yr Oakley lle bu wrthi'n ddiwyd am 53 blynedd, nes
  • JONES, JOHN WILLIAM (1868 - 1945), adeiladydd Ganwyd John William Jones 16 Mawrth 1868 yn Cae'r Hafod, Cyfylliog ger Rhuthun, a symudodd yn 1886 i Lerpwl i weithio fel saer coed yng nghwmni David Roberts (1806-1886) a'i fab John Roberts (1835-1894) a fu yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Fflint, 1878-92. Mynychodd JW, fel y daethpwyd i'w alw, ysgolion nos ac ysgolion technegol gan ddysgu'n gyflym, ac o fewn wyth mlynedd cychwynnodd fel adeiladydd
  • JONES, JONATHAN (1745 - 1832), gweinidog gyda'r Annibynwyr ymdrechion ef, 1810. Yn 1815, aeth o dan gwmwl, ond adferwyd ef i bregethu a pharhaodd yn weinidog ar eglwys Troedyrhiw, Dihewyd, a sefydlesid ganddo. Bu farw 18 Chwefror 1832, a chladdwyd ef yn Rhydybont. Priododd ddwywaith a bu iddo 11 o blant o'i wraig gyntaf. Codwyd ei fab hynaf, John Jones, yn weinidog, a David Jones yn llawfeddyg, ond bu ef farw yn ieuanc. Disgrifir ef fel dyn cryf, pregethwr ffraeth
  • JONES, JOSEPH (1877 - 1950), prifathro Coleg Coffa, Aberhonddu , ymbriododd â Gwenllian de Lloyd, Aberystwyth. Cafodd ei ryddhau gan y coleg yn 1911 i ddilyn cyrsiau arbennig yn y Testament Newydd yn Heidelberg. Treuliodd ei oes yng ngwasanaeth y Coleg Coffa - 1907-1943 - fel Athro, ac yn 1943, ar ymneilltuad y Prifathro Thomas Lewis, fe'i apwyntiwyd yn Brifathro. Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn Aberhonddu, 28 Ebrill 1950, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus